Pwyllgor Cynghori Ar Dystiolaeth (EAC)

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Tachwedd 2023
Dyddiad yr adolygiad nesaf: Medi 2024

Diben

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth (EAC) yn bwyllgor a sefydlwyd gan y Bwrdd a’i brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a darparu cyngor, her ac adolygiad annibynnol i’r Adran Wybodaeth a Thystiolaeth, mewn perthynas â’i gyfeiriad strategol, a swyddogaethau tystiolaeth ehangach CNC.

Cwmpas

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn cynghori Bwrdd CNC ynglŷn â rhaglenni tystiolaeth cymeradwy CNC a’r broses o’u rhoi ar waith, yn enwedig mewn perthynas â’r cydbwysedd rhwng tystiolaeth strategol a gweithredol.

Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn helpu i gryfhau dealltwriaeth yn y gymuned ymchwil ehangach, a dealltwriaeth defnyddwyr tystiolaeth yn y llywodraeth, o brosesau a blaenoriaethau tystiolaeth CNC. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod pawb yn CNC yn cadw at yr egwyddorion a’r canllawiau a osodwyd yng nghanllawiau’r llywodraeth ganolog ar dderbyn a defnyddio cyngor gwyddonol a chodau ymarfer perthynol.

Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn ceisio rhoi sylw i’r holl ddulliau tystiolaeth a ddefnyddir yn CNC a’r holl ddisgyblaethau academaidd sydd eu hangen i ddarparu tystiolaeth ar gyfer prosesau gwneud penderfyniadau.

Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn craffu ar, ac yn darparu sicrwydd i’r Bwrdd ar berfformiad tuag at Amcanion Llesiant y Cynllun Corfforaethol fel sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth.

Cyfrifoldebau

Mae’r Bwrdd yn awdurdodi’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth ac yn gofyn iddo wneud y canlynol:

  • hybu, ysgogi ac annog yr arfer o wreiddio prosesau tystiolaeth, sicrhau ansawdd a chyflawni;
  • gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer tystiolaeth strategol a gweithredol sy’n cael ei nodi neu sy’n cael ei chyflwyno gan CNC;
  • darparu goruchwyliaeth a chraffu ar yr holl adroddiadau perthnasol ar gyfer trawsnewid busnes Data a Gwybodaeth;
  • tynnu sylw at ddulliau newydd o gyflwyno tystiolaeth a dulliau gweithredu arloesol i CNC;
  • gwneud argymhellion i’r Bwrdd ynglŷn â chydbwysedd yn y portffolio tystiolaeth rhwng materion gweithredol a pholisi, ymatebion adweithiol a chytundebau ar gyfer y dyfodol, ar gyfer dyrannu adnoddau yn y dyfodol;
  • adrodd i Fwrdd CNC ar ansawdd ac addasrwydd y broses dystiolaeth a chyflawni yn CNC;
  • hyrwyddo ar lefel Bwrdd y defnydd o astudiaethau’r dyfodol yn CNC, gan gynnwys rhagfynegi datblygiadau ym maes technoleg ac arloesi.

Gall y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth wneud datganiadau cyhoeddus, os oes angen, ar ôl i Fwrdd CNC dderbyn ei gyngor. Gellir defnyddio cyfathrebiadau mewnol i gefnogi neu hybu egwyddorion defnyddio tystiolaeth wrth lunio polisi a gwneud penderfyniadau gweithredol, tynnu sylw at feysydd o ddiddordeb, grwpiau gorchwyl a gorffen, a chanlyniadau allweddol o bob cyfarfod.

Cyfarfodydd

Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn amcanu i gyfarfod deirgwaith y flwyddyn, fel arfer i gynnwys mis Ionawr a mis Mehefin i gynorthwyo’r cylch rhaglennu a chyllidebu.

Aelodaeth

Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth fydd yr Athro Steve Ormerod.

Bydd aelodaeth y pwyllgor yn cynnwys ail aelod o Fwrdd CNC a thua deg aelod allanol annibynnol, a chanddynt ddealltwriaeth o’r cyd-destun Cymraeg, ac sydd ym marn Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth ac arweinwyr CNC, yn cynnig ystod amrywiol o arbenigedd priodol, e.e. dulliau tystiolaeth rhyngddisgyblaethol (gan gynnwys dealltwriaeth o ymddygiadau), rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, effaith ymchwil, dulliau dadansoddol, gwaith ymchwil gweithredol, arloesi technolegol, a chyfathrebu ym maes gwyddoniaeth.

Tymor yr aelodau allanol annibynnol yw tair blynedd. Caniateir ail dymor yn dilyn cydgytundeb rhwng aelodau a Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellid caniatáu trydydd tymor. Gall penodiad aelodau annibynnol gael ei derfynu ar unwaith gan CNC neu’r aelodau annibynnol ar unrhyw adeg, os bydd hyn yn cael ei wneud yn ysgrifenedig.

Diweddarwyd ddiwethaf