Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd (FRMC) – Cylch gorchwyl penodol

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Tachwedd 2023
Dyddiad yr adolygiad nesaf: Medi 2024

Diben

Mae'r Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd (FRMC) yn bwyllgor a sefydlwyd gan y Bwrdd i ddarparu cyngor amserol a sicrwydd mewn perthynas â’i gylch gorchwyl ac i wneud penderfyniadau penodol ac ymgymryd â swyddogaethau penodol fel a ddirprwywyd iddo gan y Bwrdd.

Yn benodol, mae’r Bwrdd wedi sefydlu’r Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd er mwyn cyflawni nifer o gyfrifoldebau FRMC statudol CNC.

Yn benodol, mae Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd yn cynghori’r Bwrdd ar fuddsoddi, rheoli, strategaeth a chynllunio cynigion buddsoddiad risg llifogydd

Cwmpas

Mae’r Bwrdd yn awdurdodi’r Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd ac yn gofyn iddo wneud y canlynol:

  • Cynorthwyo’r Bwrdd i gyflawni swyddogaethau rheoli perygl llifogydd statudol CNC.
  • Darparu gwaith craffu a chymeradwyo dyraniadau rhaglenni cyfalaf rheoli perygl llifogydd, gan gynghori'r Bwrdd ar berfformiad cyffredinol y darpariaethau llifogydd (cyfalaf).
  • Darparu gwaith craffu a goruchwylio diogelwch cronfeydd dŵr.
  • Craffu a rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ar berfformiad tuag at Amcanion Llesiant y Cynllun Corfforaethol fel sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd.

Cyfrifoldebau

Rhoi cyngor i'r Tîm Gweithredol, a gwneud argymhellion i Fwrdd CNC fel y bo'n briodol, ar y canlynol:

  • rhaglenni buddsoddi rheoli perygl llifogydd cyfredol a thymor canolig CNC, yn enwedig i helpu i sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth; bod gwerth am arian yn cael ei sicrhau, a bod y cyllidebau sydd ar gael yn cael eu defnyddio'n llawn;
  • materion rheoli perygl llifogydd allweddol eraill yn ôl yr angen;
  • y cynigion ar gyfer ardrethi ac ardollau neu Ardaloedd Draenio Mewnol, sy’n cael eu pennu’n flynyddol ar hyn o bryd;
  • goruchwylio diogelwch cronfeydd dŵr.

Cyfarfodydd

Bydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd yn amcanu i gwrdd bedair gwaith y flwyddyn, gan gynnwys ym mis Ionawr a Mehefin fel arfer i gynorthwyo'r cylch rhaglennu a chyllidebau.

Gellir trefnu cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen.

Cefnogir y cyfarfodydd gan dîm yr Ysgrifenyddiaeth, y tîm Buddsoddi a Chynllunio Strategol ar gyfer Llifogydd ac aelodau'r tîm Cyllid. 

Aelodaeth

Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd fydd yr Athro Peter Fox.

Bydd yr aelodau yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o’r Bwrdd (gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor).

Bydd Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Phennaeth Rheoli Risg Digwyddiadau Llifogydd fel arfer yn mynychu’r cyfarfodydd.

Fel arfer, ni ddylai aelodau’r Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd fod hefyd yn aelodau o'r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARAC) er mwyn cadw ar wahân a lleihau’r posibilrwydd o wrthdaro buddiannau.

Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl neu os oes achos cryf fod aelodau yn eistedd ar y ddau bwyllgor oherwydd eu meysydd arbenigedd penodol, dylid gwneud trefniadau addas i reoli unrhyw achosion o wrthdaro buddiannau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i aelod o'r pwyllgor fod yn absennol o unrhyw drafodaethau yn ARAC ynghylch cyllid cyfalaf llifogydd.

Diweddarwyd ddiwethaf