Traddodiadau gaeaf Nadoligaidd Cymru

Fel llawer o wledydd eraill ledled y byd, mae gennym lawer o draddodiadau a dathliadau hanesyddol ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yma yng Nghymru, ac mae rhai ohonynt yn parhau hyd heddiw.

Mae gan ein gwlad amrywiaeth gyfoethog a diddorol o arferion gwerin. Beth am eu cyflwyno, a rhannu rhai ohonynt gyda'ch dysgwyr? Beth maen nhw'n ei feddwl o’r rhain?  Beth am fynd â'ch dysgwyr allan a chasglu deunyddiau i wneud calennig?

Y Plygain – bore’r Nadolig

Gwasanaeth a gynhelir mewn eglwysi a chapeli o amgylch Cymru fore Nadolig yw traddodiad Cymreig 'Y Plygain'.  Credir ei fod yn deillio o'r Lladin pullicanto, sef addoli adeg canu’r ceiliog neu blygu mewn gweddi. Yn draddodiadol cynhelid y gwasanaethau hyn rywbryd rhwng 3 a 6 y bore!  Er mwyn helpu i aros yn effro ac wrth ddisgwyl am y canu, byddai teuluoedd yn gwahodd ffrindiau draw am noson o gemau, adrodd straeon a gwneud taffi, lle byddai’r taffi triog neu’r cyflaith yn cael ei ferwi mewn sosbenni ar dân agored. Byddai cartrefi'n cael eu haddurno â dail y Nadolig - uchelwydd a chelyn, cyn i bawb fentro allan yn yr oriau mân gyda ffagl neu olau cannwyll i ymuno â'r orymdaith i'r eglwys neu'r capel lleol i fynychu gwasanaeth y Plygain. Hwn oedd yr unig wasanaeth yn y calendr crefyddol a gynhelid yn y nos ac fel llawer o wyliau’r goleuni eraill ledled y byd, roedd gorymdeithiau cymunedol yng ngolau cannwyll trwy gefn gwlad yn rhan allweddol o'r dathliadau.

Yn dyddio’n ôl i'r 13eg Ganrif, byddai’r Plygain yn dechrau gyda darlleniad neu bregeth gan y ficer neu'r gweinidog cyn y cyhoeddiad fod y 'Plygain yn awr yn agored’. Hwn oedd yr arwydd i unawdwyr, grwpiau, a chorau ddod ymlaen i ganu carolau heb gyfeiliant, mewn harmoni tair neu bedair rhan i alawon gwerin.  Yn aml, byddai pob person yn dod â'i gannwyll i helpu i oleuo'r eglwys gyda'r golau cannwyll yn ychwanegu at awyrgylch y gwasanaeth.  Roedden nhw’n ddigwyddiadau anffurfiol a byddai’r rhai oedd yn cymryd rhan yn cerdded i'r blaen i ganu eu carol, gyda balchder ac ni fyddai unrhyw garol yn cael ei chanu ddwywaith.  Yna byddai'r gynulleidfa’n symud i dafarn leol i gael brecwast.

Cyn y Diwygiad Protestannaidd, roedd y Plygain yn un o wasanaethau'r Eglwys Gatholig, ond cafodd ei fabwysiadu wedyn gan yr Anglicaniaid, ac yna'n ddiweddarach, gan yr Anghydffurfwyr.  Mae'r traddodiad o ganu carolau Plygain i ddathlu'r Nadolig wedi parhau’n gyson mewn sawl rhan o Gymru, gyda gwasanaethau’n cael eu cynnal yn bennaf cyn y Nadolig yn ystod y nos.  Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed sut mae gwasanaeth Plygain yn swnio, mae nifer ar gael ar-lein.

Curo celyn – Dydd San Steffan

Byddai’r diwrnod ar ôl y Nadolig yng Nghymru’n cael ei ddathlu gyda'r traddodiad o 'guro celyn'.  Ar fore dydd San Steffan byddai dynion ifanc a bechgyn yn casglu canghennau celyn pigog ac yn crwydro'r pentref i guro breichiau a choesau merched ifanc nes iddynt dynnu gwaed.  Mewn rhai ardaloedd, y person olaf i godi o'r gwely ar yr aelwyd a fyddai'n cael ei guro.  Yn ôl pob sôn, byddai’r arferiad creulon yn dod â lwc dda ar gyfer y flwyddyn i ddod.  Yn ffodus i ferched ifanc a'r rhai sy'n hoffi cysgu’n hwyr, diflannodd yr arfer o guro celyn ddiwedd y 19eg ganrif.

Hela'r dryw – Dydd San Steffan – Nos Ystwyll

Mae hela'r dryw a ddigwyddai fel arfer rhwng dydd San Steffan a Nos Ystwyll yn amlwg yn hanes Cymru ac Iwerddon.  Roedd yn arferiad y credid ei fod yn dod â lwc dda ac yn gyfle i ddechrau'r flwyddyn newydd gyda llechen lân. Roedd 'hela'r dryw' yn golygu bod criw o ddynion ifanc yn mynd allan i ddal dryw, y lleiaf o'r holl adar.  Weithiau byddai'n cael ei ladd, ond weithiau byddai'n cael ei roi’n fyw mewn cawell fach wedi'i haddurno â rhubanau a fyddai'n cael ei chario o ddrws i ddrws o gwmpas pentrefi gyda'r grŵp yn canu caneuon, yn canmol y dryw fel 'Brenin yr Adar' ac yn gofyn am roddion o fwyd neu arian yn gyfnewid am weld y dryw a ddaliwyd.  Yn ôl safonau modern, mae'r arferiad hwn yn ymddangos yn greulon ac yn rhyfedd i ni, ond mae'r defnydd o aderyn fel symbol o lwc wedi bodoli ar hyd y canrifoedd yn hanes Cymru. Yn y Mabinogi (y straeon Cymraeg cynharaf, yr ystyrir iddynt gael eu llunio mewn Cymraeg Canol yn yr 11eg–14eg ganrif), derbyniodd y cymeriad Lleu Llaw Gyffes ei enw wedi iddo ladd dryw. Diolch byth, mae bywyd gwyllt Cymru wedi ei ddiogelu’n gyfreithiol erbyn hyn ac nid yw'r arferiad hwn yn parhau yma bellach.

Calennig – Dydd Calan

Roedd hel Calennig (rhodd Blwyddyn Newydd) yn arferiad poblogaidd yn y Flwyddyn Newydd.  Mewn rhai rhannau o Gymru, byddai grwpiau o fechgyn yn ymweld â thai â brigau bytholwyrdd a chwpanau o ddŵr oer, gan ddefnyddio'r brigau i sblasio pobl â'r dŵr cyn derbyn Calennig.  Mewn mannau eraill, byddai plant yn mynd o ddrws i ddrws yn canu neu'n adrodd rhigymau yn gyfnewid am 'Galennig' a fyddai'n fara a chaws, melysion, neu arian.  Roedd rhai plant yn cario orennau neu afalau ar dair ffon, wedi'u haddurno â chnau, clofs neu frigau bytholwyrdd fel anrheg ar gyfer y Flwyddyn Newydd.  Ystyriwyd y rhain yn symbol o lwc dda neu fel arwydd ar gyfer cynhaeaf da yn y flwyddyn i ddod a bydden nhw’n cael eu harddangos mewn ffenestri. 

Y Fari Lwyd

Y Fari Lwyd yw'r enw a roddir ar arferiad gwerin lle mae penglog ceffyl yn cael ei gario o dŷ i dŷ rhwng Dydd Nadolig a'r Nos Ystwyll.  Credir bod y Fari Lwyd yn draddodiad cyn-Gristnogol a byddai gan y penglog glustiau ffug, goleuadau neu ‘baubles’ fel llygaid, mwng wedi ei wneud o rubanau, eiddew neu gelyn a byddai clogyn gwyn drosto i guddio'r person oedd yn ei gario.  Byddai gwas stabl yn mynd â’r Fari o gwmpas y pentref gyda chân yn cael ei chanu ym mhob tŷ, yn gofyn am ddod i mewn. Byddai deiliaid y tŷ yn canu'n ôl, yn aml yn gwadu mynediad iddynt ar y dechrau, cyn ildio yn y pen draw. Pe bai'r Fari a'i chriw yn cael mynediad, byddent yn derbyn cacennau a chwrw ac yn ôl y traddodiad byddai’r aelwyd yn cael lwc dda am y flwyddyn. Yna byddai’r Fari Lwyd yn creu rhyw ddrygioni cyn symud i'r tŷ nesaf. 

Beirniadodd Methodistiaid Cymreig ac anghydffurfwyr Cristnogol eraill y Fari Lwyd yn y 19eg Ganrif, ond parhaodd yr arfer mewn rhai mannau yn ne Cymru. Heddiw, mae'r Fari Lwyd yn dychwelyd mewn cymunedau ar draws Cymru ac ystyrir bod y Fari'n dod ag elfen o hwyl a direidi i’r tymor oer a thywyll.

Canu gwasael - Nos Ystwyll

Cyn dyfodiad gwin cynnes, Buck's Fizz neu ‘snowball' y fowlen wasael oedd y ffefryn o ran diod Nadoligaidd.  Roedd canu gwasael yn draddodiad hynafol lle’r oedd pobl yn canu o ddrws i ddrws a chynnig diod o'r fowlen wasael - powlen wedi ei haddurno yn llawn cwrw cynnes, siwgr, ffrwythau a sbeis.

Mae'r gair gwasael yn tarddu o'r gair Eingl-sacsoniaid 'waes-hael', sy'n golygu 'bod mewn iechyd da’. Gyda phobl yn dibynnu ar y tir am iechyd da, ffyniant a chynhaeaf hael, byddai dymuniadau am iechyd da yn cael eu cynnig ar gyfer y cnydau a'r gymuned wrth i'r fowlen wasael gael ei phasio o gwmpas er mwyn i bobl gymryd tro ac yfed ohoni. 

Nofio adeg y Nadolig

Traddodiad sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru yw nofio adeg y Nadolig.  Nid yw ar gyfer y gwangalon na'r rhai sy'n dioddef o ben mawr y bore wedyn gan nad oes modd gwisgo wetsuits, dim ond gwisg ffansi ac mae’r nofwyr yn mentro i ddyfroedd rhewllyd ar fore Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.  Traddodiad Nadoligaidd braidd yn oerllyd yw hwn. Mae rhai’n cymryd rhan er mwyn wynebu’r her o blymio i ddŵr oer tra bod eraill yn ei ddefnyddio fel cyfle i godi arian i elusen ac eraill yn dewis aros ar dir sych ac annog y rheini sy’n fwy dewr.  Mae’n debyg bod y dathliad Nadoligaidd cymunedol hwn, i’r rhai sy'n mynd i'r dŵr oer ac yn llosgi calorïau'r mins peis, yn creu ymdeimlad o frawdgarwch ac yn ffordd gyffrous o adfywio dros gyfnod yr ŵyl. 

(Llun – Casgliad y Werin Cymru)

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru