Cynhadledd Twyni Byw 2024
Mae'n bleser gan Twyni Byw a Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi y bydd cynhadledd derfynol y prosiect yn cael ei chynnal rhwng 15 ac 17 Mai 2024 yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymunwch â ni ar gyfer:
- Canfyddiadau ac uchafbwyntiau pum mlynedd o waith Twyni Byw dros fioamrywiaeth.
- Cyflwyniadau llawn gwybodaeth gan siaradwyr lleol a rhyngwladol, ar y datblygiadau diweddaraf ym maes gwarchod a rheoli twyni tywod.
- Rhwydweithio, cydweithio a rhannu arferion gorau rhwng rheolwyr twyni tywod blaenllaw o bob rhan o'r DU a gogledd Ewrop.
Rhaglen Dros Dro: Ar-lein
Dydd Mercher 15 Mai 2024
- 13:00 - 13:30 Agor y gynhadledd
- 13:30 - 17:30 Cyflwyniadau a thrafodaethau
Dydd Iau 16 Mai 2024
- 09:00 - 18:00 Ymweliad safle ar gyfer mynychwyr wyneb yn wyneb yn unig
Dydd Gwener 17 Mai 2024
- 09:00 - 11:40 Cyflwyniadau a thrafodaethau
- 11:40 - 12:00 Cau’r gynhadledd
Dyddiad cau ar gyfer archebu lle ar-lein: Hanner dydd, dydd Mawrth 14 Mai 2024 i sicrhau eich bod yn derbyn dolen i ymuno â’r sesiynau. Archebwch eich lle nawr!
Mae'r gynhadledd yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Trwy wahoddiad yn unig y gellir mynychu’r gynhadledd wyneb yn wyneb, ac mae’r holl leoedd wedi’u harchebu. Cysylltwch â ni am wybodaeth am y rhestr aros.
Rydym yn gwahodd cynigion ar gyfer posteri a stondinau arddangos sy'n amserol, yn addysgiadol ac yn berthnasol i reoli twyni tywod.
Am unrhyw wybodaeth bellach, anfonwch e-bost: SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk