Yn cychwyn heddiw - cyfnod ymgysylltu 7 wythnos CNC ar bedwerydd Parc Cenedlaethol arfaethedig yng Nghymru

 Photo showing proposed fourth National Park in Wales

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bellach yn gwahodd adborth ar fap cychwynnol o Ardal Chwilio ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Bydd y cyfnod ymgysylltu yn rhedeg o ddydd Llun 9 Hydref tan 23:59 ddydd Llun 27 Tachwedd 2023.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu CNC, fel yr Awdurdod Dynodi yng Nghymru, i werthuso’r achos dros Barc Cenedlaethol newydd yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) bresennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Bydd yr achos dros Barc Cenedlaethol newydd yn cael ei ystyried o fewn tymor presennol y Senedd (2021-2026). 

Mae holiadur i gasglu adborth bellach yn fyw ar wefan y prosiect. Mae hwn ar gael yn: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-east-gogledd-ddwyrain/prosiect-dynodi-parc-cenedlaethol-ymgysylltu-2023

Meddai Ash Pearce, Rheolwr y Prosiect:

Rydym yn ymgysylltu â phobl a grwpiau lleol yn gynnar yn y prosiect i sicrhau y gallwn hel a deall yr holl faterion a chyfleoedd sy’n berthnasol i’r Parc Cenedlaethol arfaethedig newydd. Byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r adborth a roddir wrth i ni weithio trwy gyfres o asesiadau technegol a pharatoi ein hargymhellion gwybodus. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar ffin arfaethedig yn 2024. Ar gyfer y cam hwn, rydym wedi nodi ardal i'w hastudio ac rydym am wrando a deall y materion, y cyfleoedd a'r themâu o bwys sy'n effeithio ar yr ardal.
Estynnwn wahoddiad cynnes i bawb sydd â diddordeb yn ein gwaith i ymuno â ni mewn un o gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb-yn-wyneb ac ar-lein dros y ddau fis nesaf, ac yn bwysicaf oll, i gwblhau ein holiadur a fydd yn sicrhau ein bod yn cael eu hadborth.

Bydd y digwyddiadau yn gyfle i ddysgu mwy am y prosiect, i ofyn cwestiynau i’r tîm a rhannu adborth ar fap cynnar o’r ardal sy’n cael ei hasesu.

Dim ond un digwyddiad fydd angen i bobl ei fynychu, boed hynny ar-lein neu wyneb yn wyneb gan y bydd yr wybodaeth sy’n cael ei rhannu yr un fath ar gyfer pob digwyddiad.

Digwyddiadau ymgysylltu — Mis Hydref a Mis Tachwedd 2023:

Dyddiad Amser Math o ddigwyddiad Lleoliad 
Dydd Mercher, 11 Hydref *1yh – 7yh Wyneb yn wyneb (galw heibio) Canolfan Ceiriog, Ffordd Newydd, Glyn Ceiriog, Llangollen LL20 7HE
Dydd Iau, 19 Hydref 6yh — 7.30yh Ar-lein ar Microsoft Teams
Dydd Sadwrn, 28 Hydref *10yb – 4yh Wyneb yn wyneb (galw heibio) Neuadd Bentref Llanbedr, Llanbedr-Dyffryn-Clwyd, Rhuthun LL15 1UP
Dydd Llun, 6 Tachwedd *1yh – 7yh Wyneb yn wyneb (galw heibio) Pwyllgor Institiwt Cyhoeddus, Park View/Stryd Fawr, Llanfyllin SY22 5AA
Dydd Mawrth, 14 Tachwedd 6yh — 7.30yh Ar-lein ar Microsoft Teams
Dydd Sadwrn, 18 Tachwedd *10yb – 4yh Wyneb yn wyneb (galw heibio) Neuadd y Dref Llangollen, Stryd y Castell, Llangollen LL20 8NU
Dydd Mercher, 22 Tachwedd  *1yh – 7yh Wyneb yn wyneb (galw heibio) Neuadd Goffa Trelawnwyd, The Record Journal, Trelawnyd LL18 6DN

*Galwch heibio unrhyw adeg rhwng yr amseroedd hyn.

Anogir pobl i alw draw i’r digwyddiadau wyneb yn wyneb, nid oes angen archebu lle. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn un o’r digwyddiadau ar-lein, anfonwch e-bost at dîm y prosiect yn rhaglen.tirweddau.dynodedig@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a nodwch eich buddiant (e.e. preswylydd, arweinydd cymunedol, tirfeddiannwr, ffermwr, perchennog busnes, cynrychiolydd sefydliad ac ati) a pha ddigwyddiad sydd o ddiddordeb i chi (y dyddiad). Bydd y rhain yn ddigwyddiadau dwyieithog ac mae croeso i chi gyfrannu yn Gymraeg.

Rydym wedi paratoi canllawiau gweithdrefnol sy’n nodi’r broses statudol sydd raid ei dilyn. Mae’r rhain yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn caniatáu ymgysylltu ag ymgyngoreion statudol, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y prosiect a’r broses werthuso, ewch i’r wefan yn: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-east-gogledd-ddwyrain/tudalen-wybodaeth-prosiect-dynodi-parc-cenedlaetho