Bodloni’r terfynau amser cyntaf yn dilyn camau gorfodi pellach yn Safle Tirlenwi Withyhedge

Lluniau o gell 8 ar gyfer Safle Tirlenwi Withyhedge cyn ac ar ôl

Mae’r set gyntaf o derfynau amser ar gyfer cwblhau camau i fynd i’r afael â’r problemau arogl parhaus yng Nghanolfan Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro wedi’u bodloni - a hynny wythnos ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyhoeddi camau gorfodi pellach. 

Cyflwynwyd Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36 pellach i weithredwr y safle, Resources Management UK Ltd (RML), ddydd Iau 18 Ebrill.

Roedd hwn yn amlinellu cyfres o gamau gweithredu i'w cwblhau erbyn terfynau amser penodedig i fynd i'r afael â'r problemau arogleuon a’r gollyngiadau nwyon tirlenwi parhaus ar y safle.

Yn ystod yr archwiliad safle diweddaraf a gynhaliwyd ddoe (dydd Iau 25 Ebrill), cadarnhaodd CNC fod tri cham gweithredu wedi’u cwblhau – gyda dau o’r rhain wedi’u cyflawni cyn y terfynau amser a osodwyd.

Mae'r gweithredwr wedi gosod 24 o ffynhonnau pìn i mewn i'r gwastraff yn rhan isaf y gell y nodwyd ei bod yn achosi'r problemau arogl (sef Cell 8). Mae'r rhain hefyd wedi'u cysylltu â'r system echdynnu nwy tirlenwi.

Mae deunydd capio wedi'i osod dros yr un rhan o'r gell a'i weldio i'r leinin gwaelodol i amgáu  nwy yn yr ardal hon, gan ganiatáu i’r nwy gael ei echdynnu gan y ffynhonnau pìn a phedair ffynnon nwy llorweddol, a osodwyd yn flaenorol.

Tra bod cynnydd yn cael ei wneud, canfu swyddogion CNC arogleuon cryf o nwyon tirlenwi yn ystod asesiad oddi ar y safle ddydd Mercher (24 Ebrill) yn Poyston Cross a Crundale. Mae'n ymddangos bod y tywydd yr wythnos hon wedi arwain at ledaeniad ehangach o nwy tirlenwi i'r ardaloedd cyfagos, heb fod yn gysylltiedig â chyfeiriad y gwynt yn unig.

Mae asesiadau arogleuon CNC yn dilyn llwybr penodol o amgylch y safle tirlenwi, gyda mannau arolygu dynodedig sydd wedi’u dewis er mwyn sicrhau cysondeb o ran asesu ac adrodd. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod yr ymatebion rheoleiddio a gorfodi yn gadarn lle bo arogleuon oddi ar y safle wedi'u priodoli i'r safle tirlenwi. 

Bydd angen ymdrech sylweddol gan RML ar gyfer y camau gweithredu Hysbysiad Rheoliad 36 sy’n weddill i sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau ar amser - ac mae CNC yn parhau i fonitro cynnydd yn agos.

Cyfarfu Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC, â chynrychiolwyr o Dîm Rheoleiddio Diwydiant y De-orllewin CNC a Chyngor Sir Penfro yn ystod ymweliad â Sir Benfro ddydd Iau 25 Ebrill.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: 

“Wrth ymweld â’r ardal o amgylch Safle Tirlenwi Withyhedge gyda’n tîm rheoleiddio a phartneriaid o Gyngor Sir Penfro yr wythnos hon, roeddwn yn gallu gweld a chlywed drosof fy hun yn union yr hyn y mae pobl sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau hyn wedi gorfod ei ddioddef o ganlyniad i’r problemau arogleuon. o'r safle.

“Mae’r hyn maen nhw wedi bod yn ei brofi yn annerbyniol ac mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio’n ddiflino ochr yn ochr â chydweithwyr yng Nghyngor Sir Penfro i sicrhau bod y gweithredwr yn cael hyn dan reolaeth cyn gynted â phosibl. Er ei bod yn amlwg bod llawer o waith wedi’i wneud ar y safle, mae mwy i’w wneud o hyd i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r holl gamau a nodir yn yr hysbysiad gorfodi.

“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod hynny’ndigwydd, ac rydyn ni’n archwilio pob opsiwn ar y cyd â Chyngor Sir Penfro i sicrhau bod y gweithredwr yn gweithio’n gyflym i ddatrys y materion hyn - sy’n amlwg yn effeithio ar ansawdd bywyd pobl yn y cymunedau hyn.”

Dywedodd Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau’r De-orllewin, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Er ein bod wedi ein sicrhau bod y gweithredwyr yn Safle Tirlenwi Withyhedge yn gweithredu ar fyrder, rydym yn parhau â’n presenoldeb rheoleiddio ar y safle i sicrhau bod ffocws y gweithredwr yn parhau i fod ar fynd i’r afael â’r problemau arogl parhaus sy’n cael eu profi gan gymunedau cyfagos.

“Byddwn yn monitro cynnydd yn agos dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf i sicrhau bod y gweithredwr yn cydymffurfio â’r holl gamau a nodir yn yr Hysbysiad erbyn 14 Mai. Os na chaiff amodau’r Hysbysiad eu bodloni, byddwn yn cymryd camau gorfodi ychwanegol lle bo hynny’n briodol.”

Mae CNC yn gofyn i chi barhau i roi gwybod am achosion o arogleuon o'r safle tirlenwi drwy ddefnyddio'r ffurflen bwrpasol hon: https://bit.ly/rhoigwybodamaroglwithyhedge neu drwy ffonio 0300 065 3000.

Rhowch wybod am arogleuon wrth i chi eu profi - nid wedi’r digwyddiad os gwelwch yn dda. Mae angen inni wybod am arogleuon cyfredol nid rhai’r gorffennol. Bydd hyn yn helpu gyda gwaith ein partneriaid, yn enwedig o ran datblygu gwaith monitro ansawdd aer ymhellach.

CAPSIWN LLUN: Mae’r lluniau hyn, a dynnwyd ar 16 Ebrill a 25 Ebrill, yn dangos cynnydd y gwaith capio ar gell 8. Mae ffynhonnau pìn i'w gweld yn y ddwy ddelwedd. Mae'r rhain wedi'u cysylltu â'r system echdynnu nwy tirlenwi ac maent yn tynnu nwy o'r màs gwastraff.