Ysgolion Sir y Fflint yn archwilio byd natur drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Tîm Ymgynghorol y Gymraeg Cyngor Sir y Fflint a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dod at ei gilydd i annog athrawon i ddod ag awyr agored Cymru i mewn i’r ystafell ddosbarth.

Mynychodd athrawon o 12 ysgol gynradd cyfrwng Saesneg gwrs wyneb yn wyneb yn Nhalacre. Roedd y cwrs wedi’i drefnu gan dîm Iechyd ac Addysg CNC a Thîm Cynghori Sir y Fflint er mwyn datblygu syniadau a magu hyder er mwyn dysgu am yr amgylchedd naturiol yn yr awyr agored drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu’r athrawon yn cymryd rhan mewn gweithgareddau syml, hwyliog a oedd yn annog gwaith tîm a chyfathrebu yn y Gymraeg ym MhentrePeryglon a’r ardal o amgylch terfynfa nwy Eni ar 12 Mehefin.

Roedd y digwyddiad yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus gydag wyth ysgol y llynedd, lle dywedodd athrawon fod defnyddio’r Gymraeg yn yr awyr agored yn ffordd hynod o effeithiol a hwyliog o gynyddu gallu dysgwyr yn yr iaith.

Meddai Rhian Roberts, Athrawon Ymgynghorol y Gymraeg, Tîm Gwelliant Ysgolion Sir Fflint:

“Mae’r awyr agored yn cynnig digonedd o gyfleoedd dysgu i’n plant ddefnyddio eu sgiliau iaith wrth gael hwyl yn yr awyr iach. 
“Mae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf i’r Gymraeg. Rydym yn cefnogi dysgwyr i wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi’r hyder iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.”

Meddai Ffion Hughes, Cynghorydd Arbenigol CNC: Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:

“Yr amgylchedd naturiol yw’r lleoliad perffaith i hyrwyddo dysgu, dealltwriaeth a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n darparu amgylchedd hamddenol, hwyliog a chyffrous i'w archwilio, ac amodau dysgu gwahanol i'r ystafell ddosbarth sy'n rhoi profiadau newydd i blant i gefnogi eu cyrhaeddiad mewn iaith a llythrennedd.
“Ceir cyfle gwirioneddol i ymgorffori dysgu iaith yn yr awyr agored wrth i ysgolion roi’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith. Bydd llawer o swyddi'r dyfodol yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, lle mae sgiliau adnabod ac arolygon planhigion ac anifeiliaid yn bwysig. Mae’n hanfodol bod gan ein pobl ifanc Cymraeg eu hiaith yr iaith i siarad am ein hamgylchedd naturiol.
Mae dysgu yn yr amgylchedd naturiol yn cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru fel dull allweddol o gyflwyno’r cwricwlwm. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i blant gysylltu â byd natur, cael buddion iechyd a lles sylweddol a sefydlu ymddygiadau sy’n ffafrio’r amgylchedd sy’n helpu i liniaru’r argyfyngau hinsawdd a natur.”

Yr ysgolion a gymerodd ran oedd:

  • Ysgol Bryn Coch, Yr Wyddrug
  • Ysgol Nercwys
  • Ysgol Wirfoddol Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir, Penymynydd
  • Ysgol Gynradd Wood Memorial, Saltney
  • Ysgol Ewloe Green, Ewloe
  • Ysgol Bryn Deva, Cei Connah
  • Ffederasiwn y Parlwr Du: Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan
  • Ysgol Derwenfa, Yr Wyddgrug
  • Ysgol Maesglas, Maesglas, Treffynnon
  • Ysgol Brychdyn, Broughton
  • Ysgol Tŷ Ffynnon, Shotton