Targedu gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galw ar bobl sy’n byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i helpu i ddiogelu tirwedd yr ucheldir rhag y difrod amgylcheddol andwyol a achosir gan yrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd.

Daw’r galwadau yn dilyn adroddiadau cynyddol am weithgareddau anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) y Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd.

Gall gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd gael effaith andwyol ar dirweddau ac achosi trallod i fywyd gwyllt a chymunedau lleol. Gall hefyd achosi canlyniadau pellgyrhaeddol i'r amgylchedd trwy darfu ar gynefinoedd sensitif.

Mae ACA y Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd yn cynnwys yr ardal fwyaf o gyforgorsydd a rhostir sych Ewropeaidd yng Nghymru. Yn y gwanwyn, mae rhywogaethau adar fel y gog, y gylfinir, y boda tinwyn a’r cudyll bach yn ymuno â’r rugiar goch a’r rugiar ddu sy’n byw yma, gan nythu ar y rhostir hwn sydd wedi’i orchuddio â grug.

Mae’r tarfu a’r difrod a achosir gan gerbydau modur oddi ar y ffordd, fel beiciau cwad a beiciau sgrialu, yn peryglu eu cynefinoedd yn ystod cyfnod pan fo adar yn bridio ac eisoes mewn argyfwng natur.

Meddai Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Sir Ddinbych:

“Gall gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd roi pobl a natur mewn perygl. Mae’r costau glanhau ac adfer dilynol yn sylweddol a gall y niwed a achosir i safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol a safleoedd gwarchodedig fel y Berwyn fod yn ddinistriol.
“Mae rhai o’r cynefinoedd hyn wedi ffurfio dros filoedd o flynyddoedd ac maent yn sensitif i aflonyddwch ar y tir. Gallai gymryd degawdau i’r tir adfer ar ôl y difrod a achosir mewn ychydig eiliadau o yrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd - neu efallai na fydd byth yn adfer heb ymyrraeth.
“Trwy alw ar y cyhoedd am gefnogaeth, rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o effeithiau gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd ar ein hucheldiroedd, a’r bygythiadau i’n hamgylchedd, gan obeithio helpu i atal difrod rhag digwydd yn y lle cyntaf hefyd.
“Rydym yn annog unrhyw un sy’n byw ger safleoedd gyrru oddi ar y ffordd hysbys yng Ngogledd Ddwyrain Cymru neu sy’n gweld pobl yn gyrru’n anghyfreithlon i roi gwybod i’r heddlu drwy ffonio 101 neu CNC ar 0300 065 3000.”

Mae defnydd anawdurdodedig o unrhyw gerbydau modur yn anghyfreithlon ar ACA y Berwyn ac mae achosi difrod i unrhyw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn drosedd o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad. Mae gan CNC bwerau i ymchwilio a chymryd camau gorfodi.

Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi fwynhau ein cefn gwlad yn ddiogel.