Y Loteri Genedlaethol yn cyfrannu tuag at bartneriaeth natur uchelgeisiol gwerth £8m

Mae camau brys i achub bywyd gwyllt mwyaf bregus Cymru yn mynd rhagddynt yr haf hwn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu dros £4.1m i bartneriaeth Natur am Byth ar ôl dwy flynedd o gynllunio manwl. 

Mae 67 o rywogaethau sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf o ddifodiant yng Nghymru wedi cael eu dewis ar gyfer gweithredu gan gynnwys y gardwenynen feinlais, y fôr-wyntyll binc, y cor-rosyn rhuddfannog, chwilen amryliw’r Wyddfa, y frân goesgoch a’r ystlum pedol lleiaf.

Bydd hon yn un o'r rhaglenni cadwraeth mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed yng Nghymru, gan ddarparu llu o gyfleoedd i bobl ailgysylltu â natur yn lleol. Bydd Natur am Byth yn cynnig gweithgareddau ymgysylltu a gwirfoddoli; tra’n dathlu ar y gwerth y mae diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg yn ei roi ar y byd naturiol.  

Bydd y rhaglen pedair blynedd yn cefnogi 11 maes prosiect ledled Cymru. Bydd pob un yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol dirywiad rhywogaethau, gan weithio gyda channoedd o dirfeddianwyr a gwirfoddolwyr cymunedol i sicrhau newid cadarnhaol ar gyfer adfer natur a phobl.

Mae Natur am Byth yn cael ei gydlynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth â Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid; Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod; Buglife; Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn; Cadwraeth Glöynnod Byw; Plantlife; y Gymdeithas Cadwraeth Forol; RSPB Cymru; ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:

Mae diogelu’r amgylchedd yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn cefnogi prosiectau sy'n ein helpu i gyrraedd ein targedau adfer natur a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth naturiol unigryw Cymru. Mae Natur am Byth yn brosiect uchelgeisiol, cyffrous a phwysig a fydd yn helpu cynefinoedd, rhywogaethau a phobl i ffynnu gyda'i gilydd.

Mae CNC wedi cyfrannu £1.7m i’r coffrau ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo £800,000. Mae partneriaid Natur am Byth wedi sicrhau cyllid pellach gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy’r Bartneriaeth Natur Greadigol ynghyd â nifer o ymddiriedolaethau, sefydliadau elusennol a rhoddwyr corfforaethol.  Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion  gan Sefydliad Esmée Fairbairn ac Ymddiriedolaeth Elusennol Banister, a chefnogaeth sylweddol gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:

Nid fu erioed o'r blaen bartneriaeth gyda chymaint o sefydliadau gwirfoddol a CNC yn cydweithio fel hyn i fynd i'r afael â'r argyfwng natur. Bydd y bartneriaeth yn dod â gwybodaeth wyddonol arbenigol, rhwydweithiau lleol a phrofiad heb ei ail at ei gilydd i ymgysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol mewn cynlluniau i ddiogelu natur. Yn ogystal â'r ugain swydd a gaiff eu creu gan y rhaglen, bydd llawer o gyfleoedd hefyd i bobl wirfoddoli, dysgu sgiliau newydd a mynychu ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol a chymunedol.

Rydym yn croesawu pawb i ymuno â thaith Natur am Byth – fel gweithiwr, gwirfoddolwr neu gefnogwr. Gallwch gofrestru ar gyfer Cylchlythyr y Rhaglen i gael gwybod mwy am y prosiectau a'r cyfleoedd sydd ar gael.