Trwydded wedi’i rhoi ar gyfer cyfleuster crynhoi gwastraff yn Aber-miwl

Mae trwydded amgylcheddol wedi’i rhoi i Gyngor Sir Powys i weithredu cyfleuster crynhoi gwastraff nad yw’n beryglus yn Aber-miwl.

Cyhoeddwyd y drwydded ddydd Llun, 31 Gorffennaf ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) benderfynu bod y cais yn bodloni gofynion rheoliadol.

Bydd y drwydded yn caniatáu i’r safle dderbyn a phrosesu hyd at 22,500 tunnell o wastraff nad yw’n beryglus yn flynyddol. Byddai uchafswm o 425 tunnell yn cael ei gadw ar y safle ar unrhyw un adeg.

Roedd proses benderfynu CNC yn cynnwys asesiad technegol llawn, dau ymgynghoriad cyhoeddus a nifer o geisiadau i’r ymgeisydd am ragor o wybodaeth.

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau Canolbarth Cymru,

“Rydym yn hyderus bod y cynigion yn y cais yn bodloni’r safonau angenrheidiol i weithredu’r safle heb niweidio’r amgylchedd lleol.
“Mae ein swyddogion wedi gweithio’n ddiwyd ac yn gydwybodol i asesu’r cais hwn, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu gwaith caled.
“Mae’r broses ymgeisio hon wedi denu llawer iawn o ddiddordeb a phryder yn lleol, ac rwyf am roi sicrwydd i gymuned Aber-miwl nad rhoi’r drwydded yw diwedd ein cyswllt rheoleiddiol.
“Fel gydag unrhyw safle arall a ganiateir, bydd y cyfleuster crynhoi yn cael ei archwilio o bryd i’w gilydd i sicrhau bod amodau’r drwydded yn cael eu bodloni. Mae gennym bwerau i ofyn am welliannau lle bo angen.”

Yr unig weithgaredd trin a ganiateir yw crynhoi deunyddiau. Bydd deunyddiau a dderbynnir ar y safle yn cael eu gwahanu cyn cyrraedd ac felly ni fydd angen unrhyw ddidoli na gwahanu â llaw. Mae crynhoi’n golygu casglu niferoedd llai o ddeunydd yn swmp mwy sy’n haws ac yn fwy effeithlon i’w gludo a’i brosesu.

Gwnaeth Cyngor Sir Powys ailymgeisio i CNC am drwydded ym mis Mehefin 2022 ar ôl i’w gais blaenorol gael ei wrthod gan y rheoleiddiwr amgylcheddol ym mis Mawrth 2022.