Ymweld â chefn gwlad Cymru yn gyfrifol y Pasg hwn

Gall y rhai sy’n ymweld â Gogledd Orllewin Cymru wneud eu rhan i helpu i ddiogelu natur a'r amgylchedd yn ystod gwyliau'r Pasg.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn paratoi i groesawu’r nifer fawr o ymwelwyr i’w choetiroedd a'i Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol dros benwythnos Gŵyl y Banc a gwyliau’r ysgol ac mae pobl yn cael eu hatgoffa i ddilyn y Cod Cefn Gwlad ac unrhyw ganllawiau eraill arbennig ar gyfer y safle.

Wrth i fwy o bobl ddod yn ymwybodol o fanteision iechyd a pha mor llesol yw treulio amser yng nghanol byd natur dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd yn niferoedd yr ymwelwyr.

Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod amgylcheddol fel taflu sbwriel, tanau a gwersylla anghyfreithlon sy'n cael effaith ar natur.

Mae pobl yn cael eu hannog i ymweld yn gyfrifol drwy fynd â sbwriel adref, peidio â chynnau tanau, bod yn berchennog ci cyfrifol, cofio bod safleoedd yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt a chadw at lwybrau a thraciau sydd wedi'u harwyddo er mwyn rhoi lle i fywyd natur ac osgoi aflonyddu arno.

Mae amrywiaeth eang o safleoedd yn yr ardal ac anogir pobl i chwilio am rai cyrchfannau llai adnabyddus. Gallwch ddod o hyd i restr lawn yn yr adran ar grwydr ar ein gwefan.

Meddai John Taylor, Arweinydd Tîm ar gyfer safleoedd hamdden yng Ngogledd Orllewin Cymru:

“Mae gennym gyfuniad o safleoedd hamdden gwahanol i bobl ymlacio ynddynt a'u mwynhau trwy gydol y flwyddyn.

“Maen nhw hefyd yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt ac yn llawn bioamrywiaeth sydd angen ei gwarchod a thrwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad gall pobl ymweld â’r mannau hyn yn ddiogel.

“Gan ein bod yn disgwyl niferoedd uchel o ymwelwyr dros yr wythnosau nesaf mae pryder ynghylch tagfeydd a chyfleusterau parcio cyfyngedig yn ogystal â’r effaith ar fywyd gwyllt a chymunedau.

“Felly, rydym yn annog pobl i drefnu fod ganddynt gynllun wrth gefn os bydd cyrchfan yn rhy brysur pan fyddant yn cyrraedd neu eu bod yn ystyried ymweld ag un o'n lleoliadau mwy tawel — mae cymaint ohonynt i’w cael ar draws yr holl ardal.

"Mae'n bwysig hefyd mynd â sbwriel adref, cadw cŵn dan reolaeth er mwyn gwarchod adar sy'n nythu a bywyd gwyllt arall a pheidio â chynnau tanau, sy'n gallu mynd allan o reolaeth yn gyflym ac achosi difrod sylweddol i'r amgylchedd.

“Rydym hefyd yn awyddus i atgoffa ymwelwyr na chaniateir aros dros nos ar ein safleoedd a bod nifer o safleoedd gwersylla yn yr ardal.

“Mae amgylchedd naturiol iach sy'n llawn blodau gwyllt, adar a mathau eraill o fywyd natur yn rhoi llawer mwy o foddhad i ymwelwyr. Mae mwyafrif llethol y bobl sy’n ymweld â'n safleoedd yn ymddwyn yn gyfrifol a hoffem ddiolch iddyn nhw am wneud eu rhan."

Bydd wardeiniaid yn patrolio safleoedd CNC yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc i ateb unrhyw gwestiynau, rhoi cyngor a chyfarwyddyd a sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau posibl.

Gallwch weld y Cod Cefn Gwlad yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Y Cod Cefn Gwlad: cyngor i’r rhai sy’n ymweld â chefn gwlad (naturalresources.wales)