Ynglŷn â’r Prosiect

Dadansoddwyd y berthynas rhwng yr amgylchedd ffisegol a chynefinoedd gwely’r môr yn ne Môr Iwerddon i ddatblygu model a fyddai’n galluogi darogan newidiadau i gynefinoedd mewn ardaloedd lle nad oes wybodaeth arolygon ar gael ar hyn o bryd.  

Cafodd y mapiau darogan a gynhyrchwyd drwy'r prosiect eu dilysu gan ddefnyddio gwybodaeth o arolygon mewn pedair ardal yn ne Môr Iwerddon:

  • Arklow Bank
  • Celtic Deep
  • Sianel San Siôr
  • Bae Caernarfon   

Roed y prosiect HABMAP yn adeiladu ar waith prosiectau blaenorol megis:

  • SWISS a BIOMÔR
  • BIOMAR
  • phrosiect Peilot Môr Iwerddon

Roedd y prosiect hefyd yn cysylltu â phrosiectau cyfoes eraill, megis MESH (Mapio Cynefinoedd Gwely’r Môr Ewrop) ac UKSeamap.   

Ariannwyd HABMAP yn rhannol i ddechrau gan raglen INTERREG IIIA ar gyfer Iwerddon a Chymru sy’n cynnwys partneriaid o amrywiaeth o sefydliadau o boptu Môr Iwerddon.  Ar ôl hyn, bu Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n cynnal rhagor o waith i ymestyn y prosiect i gynnwys holl ddyfroedd Cymru. 

Cefndir

Mae gwely’r môr yn ne Môr Iwerddon yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau, o riffiau creigiog lle mae algae'n doreithiog i fannau o laid dwfn lle mae anifeiliad sy'n turio'n byw.  I ryw raddau, gall pobl wneud defnydd o bob un o’r cynefinoedd hyn, drwy weithgareddau megis pysgota, cloddio am raean a datblygu adnoddau ynni adnewyddadwy oddi ar y lan.  Hefyd, mae yna rai cynefinoedd â blaenoriaeth sy'n cynnwys rhywogaethau rhestredig o dan ddeddfwriaeth y Comisiwn Ewropeaidd ac yn rhyngwladol. 

Ar hyn o bryd, mae ymdrechion i reoli gwely’r môr yn cael eu llesteirio gan brinder cymharol o wybodaeth a diffyg gwybodaeth ofodol ar ffurf mapiau o wely'r môr ac mae Môr Iwerddon yn cael ei gydnabod fel blaenoriaeth yn hynny o beth.  Mae sawl sefydliad yng Nghymru, yn Iwerddon ac yn Ewrop yn pwyso am fapio cynefinoedd (e.e. OSOAR, ICES, Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop) a bydd yn rhaid cael mapiau cynefinoedd i weithredu’r gwahanol ddarnau o ddeddfwrwiaeth forol, gan gynnwys:

  • Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol
  • y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
  • y Gyfarwyddeb Cynefinoedd
  • Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. 

Defnyddiwyd y mapiau cynefin a gafodd eu cynhyrchu gan HABMAP fel rhan o fentrau ledled Cymru a ledled y DU megis y prosiect Parthau Cadwraeth Morol yn cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru a'r prosiect ledled y DU yn archwilio'r Ardaloedd Morol Gwarchodedig.  Maen nhw hefyd wedi’u defnyddio mewn Cynllunio Morol ac wrth baratoi asesdiadau gwaelodlin ar gyfer gwahanol ddarnau o waith achos morol.    

Gellir llawr lwytho Adroddiadau Prosiect 

Mae mapiau cynefinoedd sydd wedi’u cynhyrchu gan y prosiect ar gael i’w llawr lwytho fel GIS (ffurfiau MapInfo ac ESRI0 o

Mordeithiau Arolygu

Bu’r RV Celtic Voyager ar ddwy fordaith arolygu HABMAP ar y cyd â’r:

  • Marine Institute (Iwerddon)
  • Prifysgol Caerdydd
  • Aquafact
  • Amgueddfa Genedlaethol Cymru
  • Coleg y Drindod, Dulun
  • Prifysgol Corc
  • Chyngor Cefn Gwlad Cymru

Mordaith 1 

Nod y fordaith gyntaf oedd defnyddio bathymetreg ystod amlbelydr i gasglu gwybodaeth ynghylch dyfnder a natur gwely’r môr.  Techneg acwstig yw amlbelydr sy'n anfon ffan o signalau sain i lawr i wely'r môr ac yna'n dadansoddi'r ffordd y mae'r sain yn sboncio'n ôl o wely'r môr at y llong arolygu.  Mae gwybodaeth a gesglir fel hyn yn dangos yn fanwl ddyfnder gwely’r môr (bathymetreg) a hefyd, drwy ddadansoddi’r ôl-wasgariadau, beth gwybodaeth ynghylch natur gwely’r môr (e.e mathau o waddodion).

http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20140501031752/http://www.ccgc.gov.uk/landscape--wildlife/habitats--species/habmap/cruises.aspx?lang=cy-gb

undefined

Map yn dangos gwybodaeth amlbelydr a gasglwyd yn ystod y prosiect HABMAP. 

Mordaith 2 

Nod yr ail fordaith oedd casglu gwybodaeth ynghylch bioleg a gwaddodion yr ardaloedd a arolygwyd yn ystod y fordaith gyntaf.  Roedd camera fideo ar sled yn tynnu lluniau fideo o wely'r môr.  Cymerwyd samplau cydio i gasglu gwybodaeth ynghylch gwaddodion a bioleg.  Defnyddiwyd delweddiadau proffiliau gwaddodion hefyd i dynnu lluniau drwy’r gwaddodion i ddod deall eu cyfansoddiad yn well. 

undefined

Samplo cydio ar fwrdd yr RV Celtic Voyager yn ystod arolygon y prosiect HABMAP. 

undefined

Prosesu samplau benthig ar fwrdd yr RV Celtic Voyager yn ystod arolygon y prosiect HABMAP. 

Didoli a modelu gwybodaeth 

Un o brif nodau’r prosiect HABMAP oedd datblygu model a fyddai'n defnyddio nodweddion ffisegol i ddarogan cymunedau biolegol (biotopau) ar wely'r môr.  (Cyfuniad yw biotôp o nodweddion ffisegol gwely’r môr a’r grŵp o rywogaethau sy’n byw yno).  Mae hyn yn broses pedair cam a oedd yn cynnwys:  i) casglu setiau gwybodaeth ffisegol a biolegol, ii) datblygu model, iii) profi'r model, iv) mireinio'r model.  Dilyswyd y model drwy ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd yn ystod mordeithiau arolygu HABMAP yn ogystal â thrwy ddefnyddio gwybodaeth a gaglwyd gan brosesau samplo benthig eraill oedd yn cael eu cynnal yr un pryd. 

http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20140501031753/http://www.ccgc.gov.uk/landscape--wildlife/habitats--species/habmap/modelling.aspx?lang=cy-gb

undefined

Map yn dangos y cynefinoedd benthig sy'n wybyddus neu'n cael eu darogan (o fodelu HABMAP) yn Ne Môr Iwerddon. 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch 

Dr Karen Robinson

Cyfoeth Naturiol Cymru

Maes y Ffynnon

Ffordd Penrhos

Bangor

Gwynedd

LL57 2DW 

E-bost:karen.robinson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Partneriaid a chyfranwyr y prosiect:Cyngor Cefn Gwlad Cymru (yn arwain), Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Coleg y Drindod, Dulun, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Corc, Marine Institute, Aquafact, ABPmer, Ivor Rees. 

Diweddarwyd ddiwethaf