Lleoliad ac ardal

Rhwng Ystradgynlais a Story Arms (i’r Gogledd o Ferthyr Tudful)
Cyf Grid SN90420742

Cynhwysir y coetiroedd canlynol: Coed Taf, Penmoelallt, Gwaun Hepste, Blaen Llia, Coed y Rhaeadr a Chwm Giedd.

Bydd Cynllun Adnoddau Coedwig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (De), a leolir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn dilyn polisïau Llywodraeth Cymru a Safonau Coedwigoedd y DU. Mae dŵr Cymru yn prydlesu’r coedwigoedd sy’n amgylchynu’r cronfeydd dŵr, ac maent yn bwysig dros ben i ansawdd y dŵr. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dŵr Cymru sy’n rhanddeiliad pwysig yn y broses Cynllunio Adnoddau Coedwig.

Mae’r ardal yn 3454 hectar o faint. Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a thir fferm sy’n ffinio’r coedwigoedd. Ceir nifer o dirweddau a ffyrdd cyhoeddus pwysig, a gaiff eu cynnwys yn y Cynllun Adnoddau Coedwig.

Mae Coedwigoedd Gwaun Hepste yn bwysig iawn o safbwynt hamddena ac yn un o brif atyniadau twristiaeth Cymru oherwydd eu rhaeadrau a’u llwybrau cerdded. Mae’r ardal oddi amgylch i’r rhaeadrau’n elwa ar nifer o weithgareddau awyr agored. Rydym yn rheoli’r ardaloedd hyn trwy weithio gyda grwpiau darparwyr awyr agored. Mae’r ardal â statws cadwraethol dynodedig ar sail ei choetiroedd ynn a derw sy’n amgylchynu’r afonydd a’r rhaeadrau. Mae’r rhain yn rhan o’r Cynllun Adnoddau Coedwig a chynllun rheoli cadwraeth y safle.

Ffactor pwysig arall a ystyrir yn y cynllun hwn yw’r holl goed llarwydd y bu’n rhaid eu cwympo oherwydd y clefyd Phytophthora Ramorum.

Crynodeb o’r amcanion

  • Cynnal y gwaith o gynhyrchu pren – Fe fydd hyn yn parhau i fod yn sbardun pwysig i’r coedwigoedd dan sylw. Bydd y cyfleoedd i gael rhywogaethau mwy amrywiol, lle y bo hynny’n briodol, yn gwella cynaliadwyedd y coedwigoedd. Er mwyn creu profiad gwell o safbwynt y coetiroedd a’r dirwedd, fe fydd coetiroedd hynafol a brodorol yn cael eu hadfer.

  • Hamdden – Mae’r coedwigoedd ar agor i weithgareddau hamdden tawel, fel cerdded a beicio. Fe fydd y rhain yn parhau yn ystod yr holl weithrediadau coedwig. Lleolir Canolfan Ymwelwyr Garwnant yng Nghoed Taf; mae’r rhaeadrau yng Ngwaun Hepste yn lleoedd poblogaidd ar gyfer gweithgareddau hamdden a thwristiaeth.

  • Cynefinoedd hollbwysig – Mae Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig wedi’i dyfarnu i’r coedwigoedd drwy’r cynllun adnoddau. Er mwyn cyrraedd y safonau hyn a bodloni’r meini prawf, rhaid ymyrryd cyn lleied ag y bo modd er mwyn galluogi’r cynefinoedd hyn i gyfoethogi.

  • Systemau rheoli – Cnydau conwydd ar eu cylchdro cyntaf yw mwyafrif y coedwigoedd. Pan fo system deneuo dda wedi’i rhoi ar waith, y dull rheoli a ffefrir yw system goedwriaeth bach ei heffaith. Fe fydd hyn yn manteisio ar aildyfiant naturiol y cnydau newydd, neu danblannu efallai. Bydd system lwyrgwympo’n cael ei defnyddio oherwydd statws y cnydau.

  • Mynediad at goetiroedd llai – Nodir mynediad cyfyngedig ar gyfer rheoli’r coetiroedd yn y cynllun hwn. Heb y mynediad hwn, byddai’r gwaith o gwympo coed neu adfer coetiroedd brodorol yn cael ei gyfyngu.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf