Polisi gorfodi a sancsiynau - atodiad 1 cosb ariannol amrywiadwy

Egwyddorion cyffredinol

O dan ein Polisi Gorfodi a Chosbau, gellir defnyddio cosbau ariannol amrywiadwy ar gyfer troseddau penodol. Gallant fod yn arbennig o effeithiol pan all cyflwyno cosb ariannol newid ymddygiad y troseddwr ac atal eraill. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, achosion pan fo difrod amgylcheddol sylweddol yn gofyn am wneud gwaith adfer, ac mae cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy hefyd yn opsiwn amgen i ddirwy a gyflwynir gan lys yn sgil erlyniad llwyddiannus. Caiff cosbau ariannol amrywiadwy eu defnyddio hefyd i ddileu budd ariannol neu arbedion ariannol y gellir eu nodi o ganlyniad i beidio â chydymffurfio, neu pan geir tystiolaeth o esgeulustod a chamreoli nad yw'n ddigonol i gyfiawnhau erlyniad.

Canllawiau'r Llywodraeth

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau i reoleiddwyr ar sut mae'n rhaid iddynt gyfrifo cosbau ariannol amrywiadwy (canllawiau DEFRA/Llywodraeth Cymru a chanllawiau ar y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau).

Mae'r fethodoleg hon yn dilyn y canllawiau hynny. Mae'n bwysig nodi'r canlynol:

  • Rhaid cyfrifo cosbau ariannol amrywiadwy yn unigol fesul trosedd, ac mae'n rhaid penderfynu'n unigol fan cychwyn y cydrannau ataliol (gweler isod) fesul trosedd.
  • Pan gyflawnwyd mwy nag un drosedd, gellir cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy ar wahân, fesul trosedd, ar yr un pryd.
  • Ni all terfyn cyfanswm taliad o dan unrhyw gosb ariannol amrywiadwy unigol yng Nghymru ragori ar uchafswm y gosb ar gyfer y drosedd honno.

Trosolwg o gydrannau cosb ariannol amrywiadwy

Cosbau ariannol amrywiadwy

Mae canllaw diffiniol y Cyngor Canllawiau Dedfrydu ar gyfer dedfrydu troseddau amgylcheddol (y cyfeirir ato fel y ‘Canllaw’ yn yr adran hon) yn egluro sut i asesu cosb ariannol addas ar gyfer trosedd amgylcheddol. Mae'n dilyn dull gweithredu fesul cam. Mae'n berthnasol i droseddwyr unigol (18 oed a throsodd) a sefydliadau.

Rydym yn defnyddio dull gweithredu fesul cam tebyg i gyfrifo cosb ariannol amrywiadwy. I arddangos ein dull, rydym wedi amlinellu'r camau y byddem yn eu cymhwyso yn achos sefydliad. Byddem yn defnyddio'r camau yn y Canllaw ar gyfer unigolyn wrth gyfrifo cosb ariannol amrywiadwy ar gyfer unigolyn.

Cam 1: mesurau digolledu

Byddwn yn ystyried iawndal a delir i drydydd partïon a dioddefwyr ar gyfer y canlynol:

  • anaf personol
  • colled neu ddifrod o ganlyniad i drosedd

Byddwn yn defnyddio ein disgresiwn i leihau swm cosb ariannol amrywiadwy os talwyd iawndal.

Cam 2: atafaelu

Nid yw hwn yn berthnasol i gosbau ariannol amrywiadwy. Dim ond o ganlyniad i euogfarn y gellir atafael enillion o drosedd.

Cam 3: penderfynu ar gategori'r drosedd

Byddwn yn defnyddio ffactorau beiusrwydd (bai) a niwed pan fyddwn yn penderfynu ar gategori'r drosedd.

Byddwn yn defnyddio'r diffiniadau yn y Canllaw i asesu beiusrwydd.

Byddwn yn defnyddio'r categorïau o niwed a bennir yn y Canllaw i asesu niwed. Ond, fel rhan o'n hasesiad, byddwn yn defnyddio dosbarthiadau ein Canllawiau ar Gategorïau Digwyddiadau a'r Cynllun Dosbarthu Cydymffurfiaeth fel tystiolaeth o niwed.

Gyda'i gilydd, mae'r ffactorau beiusrwydd a niwed yn dangos pa mor ddifrifol yw'r drosedd. Byddwn yn defnyddio'r canlyniad i nodi ein man cychwyn ac ystod y categorïau pan fyddwn yn asesu'r gosb briodol.

Cam 4: man cychwyn ac ystod categorïau

Pan fyddwn yn cyfrifo cosb ariannol amrywiadwy byddwn yn asesu:

  • maint y sefydliad, yn ôl ei drosiant neu fesur cyfatebol
  • amgylchiadau ariannol unigolyn

Yn y Canllaw, pennir mai £1 filiwn yw'r man cychwyn ar gyfer y drosedd fwyaf difrifol gan sefydliad mawr – dyna frig y raddfa.

Yr uchafswm cosb y gallwn ei gyflwyno gan ddefnyddio cosb ariannol amrywiadwy yw £250,000, sef y cap statudol. Felly rydym wedi lleihau'r man cychwyn gan ffactor o bedwar er mwyn adlewyrchu'r uchafswm statudol. Mae hyn yn berthnasol ar draws pob un o'r tablau.

Rydym o'r farn y dylid pennu'r uchafswm ar gyfer y gosb ariannol amrywiadwy fel swm y ddirwy uchaf ar gyfer achos Llys y Goron, sydd weithiau'n ddiderfyn. Felly byddwn yn cyfyngu hyn i'r cap statudol ar gyfer cosbau ariannol amrywiadwy, sef £250,000. Pan fo uchafswm y ddirwy y gellir ei chyflwyno ar gyfer trosedd benodol yn Llys y Goron yn llai na £250,000, byddwn yn lleihau'r man cychwyn ar gyfer cyfrifo'r gosb er mwyn adlewyrchu uchafswm is y ddirwy ar gyfer y drosedd honno.

Mae'r Canllaw yn cynnwys crynodeb o ffactorau gwaethygol a lliniarol. Byddwn yn nodi a ddylai unrhyw gyfuniad o'r ffactorau hyn, neu ffactorau perthnasol eraill, arwain at addasu man cychwyn y gosb i fyny neu i lawr. Er enghraifft, mae euogfarnau diweddar perthnasol a/neu hanes o beidio â chydymffurfio yn debygol o'n harwain i gynyddu'r man cychwyn yn sylweddol.

Mae'n bosibl y byddwn yn ymdrin â sefydliadau mawr iawn mewn dosbarth ar eu pen eu hunain. Mae hyn yn unol â sut mae llysoedd yn ymdrin â dirwyon ar gyfer sefydliadau mawr iawn – nid ystyrir bod cymhwyso cynnydd neu ostyngiad mecanistig yn ddefnyddiol. Ceir enghraifft o hyn yn y dyfarniad yn achos R v Thames Water Utilities Limited (2015) EWCA Crim 960.

Ar ôl Cam 4, byddwn yn ‘camu'n ôl’ ac yn cymhwyso'r ffactorau a amlinellir yng Nghamau 5 i 7. Gwneir hyn er mwyn adolygu a yw'r gosb, yn ei chyfanrwydd, yn deg a chywir. Byddwn yn addasu fel y bo angen, gan ei chadw o fewn cap statudol yr uchafswm.

Cam 5: camu'n ôl – dileu unrhyw fudd economaidd a ddeilliodd o'r drosedd

Gall y gosb gynnwys swm cyfwerth ag unrhyw fudd ariannol amlwg a gafodd y troseddwr yn anghyfreithlon. Byddwn ond yn ychwanegu hyn os nad yw'n rhagori ar uchafswm y gosb y gallwn ei chyflwyno.

Cam 6: camu'n ôl – cymesuredd

Byddwn yn gwirio a yw'r gosb arfaethedig sy'n seiliedig ar drosiant yn gymesur â modd ariannol y troseddwr. Byddwn yn cydbwyso'r angen bod y gosb yn cael effaith economaidd go iawn â gallu'r sefydliad i dalu.

Mae'n bosibl y byddwn, pan ydym yn derbyn tystiolaeth, yn rhoi amser ar gyfer talu neu'n ei gwneud yn bosibl talu drwy randaliadau.

Cam 7: camu'n ôl – ystyried ffactorau eraill a all gyfiawnhau addasiad

Bydd ein cyfrifiad yn ystyried unrhyw ffactorau eraill. Er enghraifft, materion a gododd yn ystod yr ymchwiliad neu o ganlyniad i sylwadau a gafwyd.

Cam 8: ystyried unrhyw ffactorau a allai awgrymu y dylid gwneud gostyngiad, megis cymorth a roddwyd i’r erlyniad

Nid yw'r ffactor hwn yn berthnasol i gyfrifo cosb ariannol amrywiadwy, er y gallai fod wedi bod yn ffactor a ddylanwadodd ar y sancsiwn a ddewiswyd.

Cam 9: gostyngiad ar gyfer pledio'n euog

Nid yw hyn yn berthnasol i gyfrifo cosb ariannol amrywiadwy.

Cam 10: gorchmynion ategol

Mae'n bosibl y byddwn yn addasu'r gosb ariannol amrywiadwy os bydd y troseddwr yn gorfod gwario arian o ganlyniad i ddilyn hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer. Mae hyn yn cynnwys cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad arall pan fo gwariant er budd uniongyrchol yr amgylchedd.

Nid yw'r addasiad hwn yn briodol os bydd y derbynnydd yn elwa ar y gwaith, megis gwelliannau i'r safle.

Cam 11: yr egwyddor cyfanrwydd

Byddwn yn ystyried a yw cyfanswm y gosb ariannol amrywiadwy yn gymesur â'r ymddygiad troseddol. Yn benodol, byddwn yn ystyried unrhyw gostau rydym wedi ceisio'u hadennill ac unrhyw ofynion eraill yn ôl disgresiwn.

Cam 12: rhesymau

Byddwn yn egluro sut rydym wedi cyfrifo'r gosb ariannol amrywiadwy ac yn rhoi ein rhesymau yn ein hysbysiad o fwriad.


Yn ôl at polisi canllawiau gorfodi a sancsiynau 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf