Polisi canllawiau gorfodi a sancsiynau - atodiad 2 ymgymeriadau gorfodi

Pryd y byddwn yn derbyn cynnig

Rydym yn fwy tebygol o dderbyn cynigion pan gânt eu cynnig yn gynnar ac yn dangos cysylltiad clir â blaenoriaethau ein datganiadau ardal ac yn mynd ar drywydd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Dylid gwneud ceisiadau am ymgymeriad gorfodi yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio ffurflen cynnig ymgymeriad gorfodi.

Yn gyffredinol, byddwn ond yn ystyried derbyn cynnig ymgymeriad gorfodi o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Credwn fod deddfwriaeth berthnasol wedi’i thorri
  • Rydym o'r farn mai'r ymgymeriad gorfodi yw'r canlyniad rheoleiddio cywir, gan gymryd i ystyriaeth:
    • natur ac effaith y drosedd
    • arwyddocâd y materion dan sylw i'r amgylchedd a'r gymuned

Mae'r cynnig y tu hwnt i'r hyn y byddai angen i'r cwmni ei wneud i gydymffurfio

  • Mae’r cynigiwr:
    • yn gwneud ymrwymiad cadarnhaol i atal yr ymddygiad troseddol neu doriad honedig
    • yn unioni canlyniad yr ymddygiad, gan ddangos bod unrhyw waith adfer angenrheidiol wedi dechrau cyn gynted â phosibl a rhyngweithio ag unrhyw drydydd parti yr effeithiwyd arno gan y drosedd
    • yn ymrwymo i beidio ag ailddechrau'r ymddygiad troseddol

Ni fyddwn fel arfer yn derbyn cynnig

  • ar gyfer digwyddiad a ddosberthir fel Uchel neu ar gyfer trosedd Fawr/Arwyddocaol fel y'i diffinnir yn ein canllawiau categoreiddio digwyddiadau
  • lle roedd y drosedd yn fwriadol neu’n esgeulus mewn achosion yn ymwneud â bwriad neu’r effaith amgylcheddol fwyaf difrifol (ond nid ydym yn ei ddiystyru, gan y bydd disgresiwn bob amser yn berthnasol)
  • lle rydym eisoes wedi penderfynu bod erlyniad yn briodol er budd y cyhoedd
  • lle rydym wedi cychwyn achos cyfreithiol neu wedi cyhoeddi hysbysiad o fwriad i gyflwyno cosb ariannol amrywiadwy
  • os yw’r cynnig yn cynnwys cymal sy’n gwadu atebolrwydd neu’n sefydlu amddiffyniadau am achos posibl o dorri’r ymgymeriad gorfodi

Sut rydym yn sicrhau cysondeb wrth asesu cynigion

  • Byddwn yn sicrhau’r canlynol: Mae’r cynnig yn cyfrannu at gostau rhesymol yr ydym wedi mynd iddynt i asesu’r cynnig ac ar gyfer gweithgareddau monitro dilynol. Mae hyn yn unol ag egwyddor 'y llygrwr sy'n talu’.
  • Nid yw unrhyw daliad a wneir i brosiect y mae CNC neu awdurdod lleol yn ymwneud ag ef yn cyfrannu at ariannu ei weithgarwch craidd.
  • Mae’r cynnig o daliad i drydydd parti yn anghyfyngedig ac nid oes unrhyw fudd i’r cynigiwr.
  • Mae’r cynnig taliad i drydydd parti yn gwarchod ac yn gwella adnoddau naturiol Cymru ac yn ymwneud ag amcanion y ddeddfwriaeth a dorrwyd
  • Pan fo’r cynnig yn ymwneud â digwyddiad a achosodd effaith amgylcheddol, dylai:
    • Unioni'r niwed amgylcheddol a achoswyd ganddo
    • Sicrhau budd cyfatebol i'r amgylchedd ynghyd â digollediad lle na ellir adfer y niwed yn uniongyrchol
    • Cynnwys cyfraniad ariannol at achos/elusen amgylchedd leol neu gysylltiedig (hyd yn oed pan nad yw’r toriad yn cael effaith uniongyrchol ar yr amgylchedd, er enghraifft, torri cyfrifoldebau cynhyrchydd gwastraff mewn perthynas â deunyddiau pecynnu)
  • Mae cynigion sy’n cynnig cyfrannu at brosiect i wella statws ecolegol cyrff dŵr na fyddai’n fforddiadwy heb y cyfraniad hwn yn cael eu hystyried yn ofalus.
  • Os gwneir cynnig i dalu mewn rhandaliadau, bydd y cynigiwr yn darparu tystiolaeth o’i anallu i dalu'n gyfan gwbl (fel cyfrifon ardystiedig).

Enghreifftiau o gamau gweithredu y gellid eu cynnwys yn eich cynnig

  • hyfforddi staff
  • gwneud gwaith i atal hyn rhag digwydd eto (gan gynnwys cynnal astudiaethau llygredd a rhaglenni lleihau llygredd)
  • gweithredu rhaglen i wella eich cydymffurfedd cyffredinol â'r ddeddfwriaeth

Hoffem weld yr elfennau canlynol yn cael eu cynnwys mewn rhaglen gydymffurfio fewnol:

  • manylion y mecanweithiau monitro ac adrodd y bydd yr unigolyn yn eu mabwysiadu
  • ymrwymiad amlwg gan y bwrdd a’r uwch-reolwyr i’r rhaglen gyfan ac i fod yn rhan ohoni
  • aseinio cyfrifoldeb am y rhaglen gydymffurfio i uwch-reolwr penodedig yr unigolyn
  • datblygu a lledaenu polisi cydymffurfio clir ym mhob rhan o’r sefydliad
  • nodi materion cydymffurfio a gweithdrefnau gweithredu ar gyfer cydymffurfio
  • datblygu a chyflwyno rhaglen hyfforddiant cydymffurfio i grwpiau o bersonél allweddol o fewn y sefydliad;
  • sefydlu mecanweithiau gwirio a monitro gweithdrefnol parhaol, megis enwebu swyddog cydymffurfio a gweithdrefnau i atal achosion o dorri rheolau yn y dyfodol ac i sicrhau bod unrhyw doriadau posibl nid yn unig yn cael eu hosgoi ond hefyd yn cael eu hadrodd i uwch-reolwyr
  • ymrwymiad i archwiliad annibynnol o'r rhaglen gydymffurfio yn rheolaidd (yn flynyddol fel arfer), am gyfnod penodol (tair blynedd fel arfer)
  • gofyniad i adrodd i ni ar amser penodol ar y camau a gymerwyd i weithredu'r rhaglen gydymffurfio

Gall yr ymgymeriad gorfodi hefyd gynnwys

Enw uwch-reolwr sy'n gyfrifol am fonitro'r ymgymeriad a chydymffurfio ag ef, ac enw swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru y mae'n rhaid i'r swyddog cyswllt adrodd iddo.

Yn gyffredinol, bydd y sawl sy’n rhoi’r ymgymeriad yn gyfrifol am y canlynol:

  • monitro sut y gweithredir yr ymgymeriad
  • adrodd hyn i Cyfoeth Naturiol Cymru yn y modd penodedig

Rhaid i’r ffordd y mae’r sawl sy’n rhoi’r ymgymeriad yn bwriadu gwneud hyn gael ei nodi yn y cynnig ymgymeriad gorfodi a rhaid inni fod yn fodlon bod hyn yn ddigonol. Wrth ddatrys unrhyw fater, rydym am ddod o hyd i ffyrdd o unioni'r drosedd.

Pan dderbynnir y cynnig

Unwaith y bydd eich cynnig wedi’i dderbyn, daw’n gytundeb ysgrifenedig sy’n rhwymo mewn cyfraith rhyngoch chi a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os bydd cynigiwr yn methu â chydymffurfio, naill ai’n llawn neu’n rhannol, rydym yn debygol o wneud y canlynol: Cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer; neu o Erlyn am y drosedd wreiddiol; neu o Amrywio neu ymestyn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag ymgymeriad gorfodi

3.1 Amrywio neu ymestyn ymgymeriad gorfodi

Gellir amrywio ymgymeriad gorfodi, neu gellir ymestyn y cyfnod ar gyfer cwblhau'r cam(au) o'i fewn, os bydd y ddau barti'n cytuno'n ysgrifenedig.

Byddwn ond yn ystyried cais i amrywio neu estyn eich ymgymeriad gorfodi os byddwn yn ei dderbyn cyn y dyddiad(au) cwblhau gwreiddiol a’ch bod yn gallu dangos eich bod wedi cymryd camau rhesymol i gydymffurfio.

Cyflawni ymgymeriad gorfodi

Unwaith y credwch eich bod wedi cydymffurfio'n llawn â'r ymgymeriad gorfodi, gallwch wneud cais am dystysgrif gwblhau unrhyw bryd.

Rhaid i chi gynnwys

  • gwybodaeth ddigonol i’n helpu i benderfynu a gydymffurfiwyd yn llawn â’r ymgymeriad ai peidio, gyda thystiolaeth sy’n dangos bod pob trydydd parti yr effeithiwyd arno wedi derbyn unrhyw arian sy’n ddyledus iddo fel rhan o’ch cynnig

Unwaith y byddwn wedi asesu eich cais, byddwn yn penderfynu a ddylid dyroddi tystysgrif gwblhau o fewn 14 diwrnod calendr o dderbyn eich cais, drwy naill ai:

  • rhoi tystysgrif gwblhau i chi; neu
  • cyflwyno hysbysiad gwrthod yn amlinellu'r rhesymau dros ein penderfyniad

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn dirymu tystysgrif gwblhau, os credwn iddi gael ei rhoi ar sail gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol. Yna ystyrir nad ydych wedi cydymffurfio â'r ymgymeriad gorfodi.

Ymgymeriadau trydydd parti

Mae ymgymeriad trydydd parti yn debyg i ymgymeriad gorfodi ond y gellir ei gynnig dim ond pan fydd troseddwr eisoes wedi derbyn hysbysiad o fwriad i gyflwyno un o’r canlynol:

  • cosb ariannol amrywiadwy
  • hysbysiad cydymffurfio
  • hysbysiad adfer

Dim ond i wneud cynnig i ddigolledu rhywun yr effeithiwyd arno gan y drosedd y gellir defnyddio ymgymeriad trydydd parti.

Yn ôl at polisi canllawiau gorfodi a sancsiynau 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf