Polisi canllawiau gorfodi a sancsiynau - atodiad 3 y sail dros apelio yn erbyn sancsiynau a osodir o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau

Rhestrir y sail dros apelio yn erbyn sancsiynau unigol a osodir o dan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau isod

Cosbau ariannol penodedig

  • Bod y penderfyniad yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
  • Bod y penderfyniad yn afresymol
  • Unrhyw reswm arall

Cosbau ariannol amrywiadwy

  • Bod y penderfyniad yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
  • Bod swm y gosb yn afresymol
  • Yn achos gofyniad anariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol
  • Bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall

Hysbysiadau cydymffurfio ac adfer

  • Bod y penderfyniad yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
  • Yn achos gofyniad anariannol, bod natur y gofyniad yn Afresymol
  • Bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall

Cosbau am beidio â chydymffurfio

  • Bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
  • Bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol am unrhyw reswm
  • Bod swm y gosb yn afresymol
  • Unrhyw reswm arall

Hysbysiadau adennill cost gorfodaeth

  • Yn erbyn ein penderfyniad i osod y gofyniad i dalu costau
  • Yn erbyn ein penderfyniad ynghylch swm y costau hynny
  • Unrhyw reswm arall

Tystysgrif gwblhau ymgymeriad gorfodi

  • Bod y penderfyniad i beidio â rhoi tystysgrif yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
  • Bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol
  • Bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall

Hysbysiadau stop

  • Bod y penderfyniad yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
  • Bod y penderfyniad yn afresymol
  • Bod unrhyw gam a nodir yn yr hysbysiad yn afresymol
  • Nad yw’r unigolyn wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai'r hysbysiad stop wedi'i gyflwyno
  • Na fyddai'r unigolyn, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i'w gael yn euog o drosedd pe na bai'r hysbysiad stop wedi'i gyflwyno
  • Unrhyw reswm arall

Tystysgrif gwblhau hysbysiad stop

  • Bod y penderfyniad i beidio â rhoi tystysgrif gwblhau yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
  • Bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol
  • Bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall

Digolledu

Gall unigolyn apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu swm y digollediad:

  • Ar y sail bod ein penderfyniad yn afresymol
  • Ar y sail bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir
  • Am unrhyw reswm arall

Yn ôl at polisi canllawiau gorfodi a sancsiynau 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf