Deddf Coedwigaeth 1967

Adran 7(4)

Atal unigolyn ag awdurdod gan y Comisiynwyr i arfer ei bwerau neu ei ddyletswyddau dan isadran (2) (atal difrod gan gwningod, ysgyfarnogod a fermin) Deddf Coedwigaeth 1967.

Trosedd ddiannod yn unig.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.

Adran 17(1)

Cwympo coeden heb awdurdod trwydded i gwympo coed mewn achos sy’n gofyn am drwydded o dan adran 9(1) Deddf Coedwigaeth 1967.

Trosedd ddiannod yn unig.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Adran 24(4)

Methu, heb esgus rhesymol, â chymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol gan hysbysiad o dan adran 24 (Hysbysiad Gorfodi) Deddf Coedwigaeth 1967.

Trosedd ddiannod yn unig.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Adran 24C(10)

Methu, heb esgus rhesymol, â chymryd unrhyw gamau sy’n ofynnol gan hysbysiad o dan adran 24C (Hysbysiad Atal, Amrywio neu Ddirymu) o Ddeddf Coedwigaeth 1967 fel y’i diwygiwyd.

Trosedd ddiannod Mae ymatebion i droseddau ac ymatebion trosedd-benodol safonol fel a ganlyn:

  • Rhybudd
  • Rhybuddion Ffurfiol
  • Erlyniad

Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.

Adran 30(5)

a.30(5): Bod yn feddiannydd tir neu unrhyw unigolyn sydd, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn derbyn rhent mewn perthynas ag unrhyw dir, ac yn methu â rhoi gwybodaeth am natur ei ddiddordeb ynddo, neu enw a chyfeiriad unrhyw unigolyn arall sy’n hysbys iddo sydd â diddordeb yn y tir, ar ôl i'r Comisiynwyr Coedwigaeth ofyn iddo wneud hynny at ddiben eu galluogi i gyflwyno neu roi unrhyw ddogfen neu gyfarwyddyd dan Ran II Deddf Coedwigaeth 1967.

a.30(5): Bod yn feddiannydd tir neu unrhyw unigolyn sydd, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn derbyn rhent mewn perthynas ag unrhyw dir, ac yn mynd ati’n fwriadol i wneud datganiad anwir am natur ei ddiddordeb ynddo neu enw a chyfeiriad unrhyw unigolyn arall sy’n hysbys iddo sydd â diddordeb yn y tir, ar ôl i'r Comisiynwyr Coedwigaeth ofyn iddo ddarparu'r wybodaeth honno at ddiben eu galluogi i gyflwyno neu roi unrhyw ddogfen neu gyfarwyddyd dan Ran II Deddf Coedwigaeth 1967.

Trosedd ddiannod yn unig.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Adran 46(5)

Methu â chydymffurfio ag is-ddeddf a wnaed dan adran 46 Deddf Coedwigaeth 1967 neu fynd yn groes iddi.

Trosedd ddiannod yn unig.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Adran 48(3)

Atal swyddog neu was sydd wedi'i benodi neu sy'n cael ei gyflogi gan y Comisiynwyr i arfer neu gyflawni ei bwerau neu ei ddyletswyddau dan isadran 48(2) (Gorfodi Is-ddeddfau) Deddf Coedwigaeth 1967.

Trosedd ddiannod yn unig.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth)(Cymru a Lloegr) 1999 

Rheoliad 22(1)

Gwneud gwaith mewn perthynas â phrosiect perthnasol sy'n mynd yn groes i ofyniad i ddod â'r gwaith hwnnw i ben mewn hysbysiad gorfodi a roddwyd iddo yn unol â rheoliad 20.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Rheoliad 22(2)

Methu, o fewn y cyfnod a nodwyd yn yr hysbysiad gorfodi, â chyflawni unrhyw fesur, ar wahân i derfynu'r prosiect perthnasol, sy'n ofynnol gan yr hysbysiad gorfodi.

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Rheoliad 39

Trosedd Ddiannod yn Unig

Methu cydymffurfio â darpariaeth o hysbysiad, awdurdodiad neu drwydded neu gyfeiriad.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i’r drosedd yn cynnwys

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys

  • Hysbysiad Cydymffurfio
  • Hysbysiad Adfer
  • Cosb Ariannol Benodedig
  • Cosb Ariannol Newidiol
  • Hysbysiad stop

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys

  • ymgymeriad gorfodi

Rheoliad 43

Trosedd Ddiannod yn unig

Rhwystro unigolyn, sy'n gweithredu neu'n gorfodi’r Rheoliadau, yn fwriadol, gan fethu rhoi cymorth neu wybodaeth y gall unigolyn awdurdodedig ofyn amdani’n rhesymol neu fethu cynhyrchu dogfen neu gofnod.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i’r drosedd yn cynnwys

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad stop

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys

  • ymgymeriad gorfodi
Diweddarwyd ddiwethaf