Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd

Beth sydd yma

Croeso

Yn swatio rhwng dinas Casnewydd ac aber afon Hafren, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd un o’r lleoliadau gorau yn y wlad i wylio adar, ac mae’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr yn caniatáu i chi wneud y gorau o’r profiad.

Rhan o ardal dawel Lefelau Gwent yw’r warchodfa ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd tir isel, yn cynnwys glaswelltir gwlyb, gwelyau cyrs, morfa heli a lagŵnau heli.

Ceir rhwydwaith saith cilomedr o lwybrau wedi eu hail-wynebu yn ardal corsleoedd Aber-wysg. Mae cors sgriniau gwylio â golygfeydd ar draws sianeli’r dyfnddwr, cors blatfform gwylio wedi’i godi a cuddfan wylio adar.

Mae pontŵn sy’n arnofio yn llunio llwybr uniongyrchol at oleudy Dwyrain Wysg sydd dros 120 oed.

Llwybrau cerdded

Ceir arwyddbyst ar hyd yr holl lwybrau cerdded.

Sylwer: croesawir cŵn ar dennyn byr ar y Lonydd Gwyrdd a Rhodfa’r Arfordir yn unig.

Llwybr y Tegeirianau

1 milltir/1.6 cilomedr, hygyrch

Yn hwyr yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf, chwiliwch am degeirianau.

Llwybr Cerfluniau

1 milltir/1.7 cilomedr, hygyrch

Llwybr drwy’r gwelyau cyrs, dros y bont sy’n arnofio a heibio’r goleudy.

Llwybr y Goedlan a’r Aber

1½ miles/2.3 cilomedr, hygyrch

Mynd drwy wahanol gynefinoedd megis gwelyau cyrs a choedlannau a heibio dwr agored a’r aber.

Profiad o’r Gwlyptir

2½ milltir/4 cilomedr, hygyrch

Mae’n gyfuniad o’r llwybr tegeirianau, llwybr y goedlan a’r aber a rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Llwybr Lonydd Gwyrdd ac Arfordir

3¾ miles/5.9 cilomedr, hawdd

Mae uchafbwyntiau yn cynnwys goleudy Dwyrain Wysg, golygfeydd dros Aber Afon Hafren cyn belled ag Exmoor, cuddfan adar a lonydd gwyrdd (gall Fish-house Lane fod yn fwdlyd iawn yn y gaeaf neu ar ôl glaw trwm).

Mae croeso i gwn ar dennyn byr ar y daith gerdded hon, ond cofiwch lanhau ar ôl eich ci.

Canolfan Ymwelwyr yr RSPB a'r cyfleusterau ymwelwyr

Partneriaeth yw Gwlyptiroedd Casnewydd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r RSPB.

Yr RSPB sy’n rheoli’r Ganolfan Addysg Amgylcheddol a’r Ganolfan Ymwelwyr, y caffi, siop a'r toiledau.

Mae’r RSPB yn trefnu digwyddiadau sy’n amrywio o ddiwrnodau hwyliog i deuluoedd i deithiau cerdded tywysedig - mae’n hanfodol archebu lle ar gyfer rhai ohonynt.

Am fwy o wybodaeth am y cyfleusterau ymwelwyr:

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Gwlypdiroedd Casnewydd yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Y gwanwyn

Clustfeiniwch am atsain ‘bwwwn’ aderyn y bwn yn y gwelyau cyrs, ‘tincian’ y titwod barfog a gwichian rhegenod y dŵr.

Mae’r  telorion Cetti yma drwy gydol y flwyddyn, ond yn y gwanwyn mae telorion y cyrs a’r hesg yn cyrraedd mewn niferoedd a’r gwrywod yn canu’n uchel yn y cyrs.

Cadwch lygad am gornicyll a chambig yn arddangos eu hunain, a cheisiwch wrando am gân rhywogaethau o deloriaid ac ehedyddion.

Draw ar y lagwnau heli, efallai y gwelwch rywogaethau o rydyddion mudol.

Yr adeg hon o'r flwyddyn, gall ymwelwyr sydd â phlant ifanc fwynhau chwilio am hwyaid bach ac adar bach o gwmpas y warchodfa.

Yr haf

Yn yr haf, gallwch fwynhau blodau a phlanhigion y warchodfa yn eu holl ogoniant.

Mae’r tegeirianau’n blodeuo ym mhobman, a chadwch olwg am y gardwenynen feinlais brin ymysg blodau’r pys bythol.

Wrth gerdded draw at y lagŵnau heli, fe welwch gynefin cwbl wahanol. Hon yw’r unig fan yng Nghymru lle mae’r cambig – aderyn rhydiog, hirgoes a chanddo big nodedig sy’n crymu at i fyny – yn magu.

Yn ystod y misoedd cynhesaf, mae'r dolydd gwair o amgylch y warchodfa yn frith o flodau gwyllt.

Os byddwch yn cerdded ar hyd y llwybrau, o amgylch y gwelyau cors, chwiliwch am degeirianau, gweision y neidr, hebogau yr ehedydd a gwenyn feinllais.

Gyda'r nos, bydd tylluanod gwyn yn dod allan i hela dros y gwelltir.

Yr hydref

Yr hydref yw’r adeg orau yn y flwyddyn i wylio adar yng Ngwlyptiroedd Casnewydd, gan mai dyna pryd mae’r adar gwylltion mudol a’r adar rhydiog yn dechrau cyrraedd.

Dyma adeg wych o'r flwyddyn i wylio rhywogaethau o rydyddion mudol ar y lagwnau heli a man clwydo'r drudwy ar y gwely cors.

Yn y cyfamser, mae heidiau o esgyll cochion a chesig y ddrycin yn brysur yn bwydo ar y gwrychoedd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, sydd ar ffin y warchodfa.

Y gaeaf

Mae’r heidiau mwyaf o adar i’w gweld yn y gaeaf – cadwch olwg am y cudyllod bach a’r hebog tramor pan fo haid o gornchwiglod yn cael eu dychryn.

Chwiliwch am heidiau mawr o chwiwellau, corhwyaid, pibydd y mawn a chornicyll.

Yn yr awyr agored eang uwchben y warchodfa, rydych yn debygol o weld adar ysglyfaeth sy'n hela, megis y boda tramor, y cudyll bach a boda'r wern.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Mae da byw’n pori ar rannau o’r warchodfa – peidiwch â mynd yn agos atyn nhw na’u bwydo.
  • Cadwch gŵn ar dennyn byr a chaewch gatiau ar eich ôl.
  • Caiff­ y gwastadeddau llaid a’r morfa heli eu gorchuddio’n rheolaidd gan y llanw.
  • Dŵr dwfn yn y ­osydd – cofiwch gadw at y llwybrau.
  • Llethrau serth ar y morglawdd – cadwch draw.
  • Ceblau trydan foltedd uchel uwchben.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth ynghylch hygyrchedd

Mae’r holl lwybrau o gwmpas y gwelyau cyrs yn Aber Wysg yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, ac mae meinciau bob rhyw 200 metr.

Mae’r llwybrau’n wastad, gyda rhai llethrau esmwyth a ramp igam-ogam i ddringo’r pum metr i fyny at y gwelyau cyrs sydd ar lefel uwch.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

  • parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas
  • mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn i’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi
  • toiledau ar gyfer yr anabl
  • tri sgwter trydan ar gyfer yr anabl ar gael i’w llogi, yn rhad ac am ddim (cysylltwch â’r RSPB i drefnu, ffôn: 01633 636363)
  • sgriniau gwylio a chuddfan wylio gyda lle i gadeiriau olwyn

Cyfyngiadau cŵn 

Croesawir cŵn ar dennyn byr ar y Lonydd Gwyrdd a Rhodfa’r Arfordir yn unig.

Amserau agor

Cysylltwch â'r RSPB am yr amserau agor:

Newidiadau i lwybrau

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau'r llwybrau neu unrhyw newidiadau eraill iddynt yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Lleolir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd bum milltir i’r de o Gasnewydd, oddi ar yr A48.

Mae’r safle hwn yn Sir Casnewydd.

Y cod post ar gyfer SAT NAV

Y cod post ar gyfer teclyn SAT NAV yw NP18 2BZ.

Cyfarwyddiadau

O Gyffordd 24 ar yr M4: cymerwch yr A48 i’r gorllewin, ac yna dilynwch yr arwyddion hwyaid brown i faes parcio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd.

O Gyffordd 28 ar yr M4: cymerwch yr A48 i’r dwyrain, ac yna dilynwch yr arwyddion hwyaid brown.

Mae’r maes parcio ar ffordd Gorllewin yr As, ychydig cyn y fynedfa i Orsaf Bŵer Aber Wysg.

Llwybr Beicio Cenedlaethol Sustrans

Mae gan Lwybr Beicio Cenedlaethol Sustrans, Rhif 4, gangen sy’n cysylltu â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd gan ddefnyddio llwybrau beicio a ffyrdd tawel.

Yn y maes parcio mae lle pwrpasol dan do i gadw beiciau a stand beiciau wrth fynedfa’r canolfan ymwelwyr.

Map Arolwg Ordnans

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd ar fap Arolwg Ordnans (AR) 152.

Cyfeirnod grid yr OS yw ST 334 834.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae yna wasanaeth bws sy’n rhedeg yn ôl y galw i Wlypdiroedd Casnewydd.

Ffoniwch 01633 21120 i fwcio bws cyn 5pm ar y diwrnod cyn y byddwch yn dymuno teithio.

Mae’r orsaf drenau agosaf yng Nghasnewydd.

Am fanylion ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Y RSPB sy’n rheoli’r maes parcio.

Prisiau meysydd parcio £4 (mae aelodau’r RSPB yn parcio am ddim).

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf