Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel, ger Llandeilo

Beth sydd yma

Croeso

Archwiliwch dapestri cyfoethog o gynefinoedd sy’n amrywio o goetir hynafol i laswelltir llawn blodau ar ein taith gerdded gylchol drwy Warchodfa Natur Genedlaethol Carmel.

Mae calchfaen wedi cael ei gloddio yn y dyffryn hwn ers yr Oesoedd Canol ac mae'r golygfeydd estynedig o ben y chwarel segur yn werth y ddringfa serth.

Mae'r warchodfa yn gartref i ‘dirlyn’, sef llyn tymhorol prin sy'n llenwi â dŵr yn y gaeaf ac yn gwacáu yn y rhan fwyaf o hafau.

Nid oes unrhyw nentydd yn llifo i mewn nac allan ohono a’r unig ddŵr sy’n ei fwydo yw dŵr daear mewn tyllau yn y calchfaen gwaelodol.

Ceir ardal bicnic fechan gyda dau fwrdd picnic ger y maes parcio.

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru sy’n gofalu am rannau gorllewinol y warchodfa ger pentref Carmel.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr y Chwarel

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 1¼ milltir/1.9 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn serth ar adegau gyda cherrig rhydd – cofiwch wisgo esgidiau cerdded. Mae gwaith dringo caled i ddechrau a grisiau serth ar y diwedd. Mae wynebau’r chwarel yn serth - cadwch at y llwybrau a pheidiwch ag agosáu at ymylon y chwarel. Ceir meinciau mewn dwy o’r golygfannau.

Mae’r daith gerdded gylchol hon yn dringo i ben y chwarel ble gallwch chi werthfawrogi’r golygfeydd.

Yna mae’n pasio drwy goedwig, sy’n llawn clychau’r gog yn y gwanwyn, i’r tirlyn (llyn tymhorol).

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Carmel yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Gwanwyn

Mwynhewch garpedi o glychau'r gog, bresych y cwn, craf y geifr a blodau’r gwynt yn y goedwig.

Ewch i chwilio am degeirianau wrth ymyl y llwybr i'r chwarel.

Mae cannoedd o ly antod yn heidio i'r llyn i silio yn y gwanwyn (gan fentro croesi'r ordd yn y nos!).

Haf

Chwiliwch am blanhigion prin fel lili’r dy rynnoedd, cwlwm cariad a’r deintlys yn y goedwig.

Mwynhewch flodau'r glaswelltir calchfaen fel pys-y-ceirw, y penrhudd, troed-y-golomen a chlychau’r eos.

Chwiliwch yn ofalus am adar y coetir fel y dringwr bach, y gnocell fraith fwyaf a’r tingoch.

Hydref

Fforiwch am yngau yn y goedwig a chapiau cwyr llachar yn y glaswelltiroedd.

Mwynhewch liwiau’r hydref a chiciwch dipyn o ddail.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Mae wynebau’r chwarel yn serth - cadwch at y llwybrau a pheidiwch â mynd yn agos at yr ymylon.
  • Mae perygl i greigiau syrthio - cadwch oddi wrth waelod llethrau'r chwarel.
  • Odynnau calch segur a hen weithfeydd chwarel - peidiwch â mynd atyn nhw nac i mewn iddyn nhw.
  • Ogofâu - dim ond ar gyfer ogofwyr profiadol gydag offer.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel bum milltir i’r de-orllwein o Landeilo, oddi ar yr A476.

Mae yn Sir Gaerfyrddin.

Map Arolwg Ordnans

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel ar fap Arolwg Ordnans (AR) 178.

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans yw SN 605 164.

Cyfarwyddiadau

O Landeilo: Ewch ar yr A476 o Landeilo i Lanelli. Ewch trwy bentref Carmel ac, ar ôl milltir, wrth y groesffordd groesgam trowch i’r chwith, arwydd Llandybie. Dilynwch y ffordd hon am filltir ac mae maes parcio’r warchodfa ar y chwith cyn cyffordd.

O Lanelli: Ewch ar yr A476 o Lanelli i Landeilo. Ym mhentref Carmel, anwybyddwch yr arwydd mawr brown a gwyn am y warchodfa natur cyn cyrraedd pentref Carmel (sy’n mynd â chi i ran orllewinol y warchodfa sy’n cael ei gwarchod gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru) a chymerwch y troad nesaf i’r dde syth yn ôl yr arwydd hwn, sydd ag arwydd i Landybie. Dilynwch y ffordd hon am filltir ac mae maes parcio’r warchodfa ar y chwith cyn cyffordd.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llandybie.

I gael manylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru. 

Parcio

Mae gan y maes parcio bach ddigon o le i bedwar o geir.

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf