Beicio mynydd

Croeso

Mae ein coetiroedd a’n coedwigoedd yn gartref i rai o lwybrau beicio mynydd enwocaf Prydain.

Ceir llwybrau sy’n addas i ddechreuwyr hyd at feicwyr profiadol ac mae pob un wedi ei raddio fel y gallwch chi ddewis llwybr sy’n iawn i chi.

Os hoffech chi ddatblygu a gwella eich sgiliau beicio ewch draw i un o’n hardaloedd sgiliau neu barciau beicio.

Mae gan ein canolfannau ymwelwyr gyfleusterau sy’n amrywio o gawodydd a mannau golchi beiciau i gaffis a mannau llogi beiciau yn ogystal â llwybrau cerdded a rhedeg.

Ein llwybrau beicio mynydd

Mae ein holl lwybrau beicio mynydd:

  • yn dechrau o faes parcio neu ganolfan ymwelwyr.
  • yn cynnwys panel gwybodaeth ar y dechrau – cofiwch ei ddarllen cyn cychwyn.
  • yn defnyddio arwyddbyst.
  • yn rhad ac am ddim (rhaid talu i barcio mewn rhai safleoedd).
  • ar agor drwy gydol y flwyddyn (oni bai fod tywydd drwg neu waith yn y goedwig yn golygu fod angen i ni eu cau neu’u dargyfeirio).

Graddau llwybrau beicio mynydd

Mae ein holl lwybrau beicio mynydd wedi eu graddio o ran pa mor anodd ydyn nhw.

Ewch i’r graddau llwybrau beicio mynydd i weld beth mae’r graddau’n eu golygu.

Dewch o hyd i lwybr beicio mynydd

Llwybrau beicio mynydd gradd Ffordd goedwig a thebyg

Llwybrau beicio mynydd gradd Gwyrdd/Hawdd

Llwybrau beicio mynydd gradd Glas/Cymedrol

Llwybrau beicio mynydd gradd Coch/Anodd

Llwybrau beicio mynydd gradd Du/Anodd iawn

Cyfleusterau eraill ar gyfer beicwyr mynydd

Llogi beiciau

Ceir siopau llogi beiciau preifat yn rhai o’n coetiroedd.

Parciau beicio

Llwybrau beicio mynydd sy’n cael eu rheoli gan y gymuned

Mae’r llwybrau beicio mynydd hyn wedi’u lleoli yn ein coetiroedd a’r gymuned leol sy’n gofalu amdanynt.

Ardaloedd sgiliau

Canolfannau ymwelwyr

Mae cyfleusterau fel cawodydd, mannau golchi beiciau a chaffis yn ein canolfannau ymwelwyr – ewch i dudalen we pob canolfan i weld manylion ynghylch beth sydd yno.

Cynghorion ar gyfer newydd-ddyfodiaid i faes beicio mynydd

Fel gydag unrhyw chwaraeon newydd, mae gwella dy sgiliau ar feic mynydd yn mynd law yn llaw gydag ennill mwy o brofiad a hyder. Er ei bod hi’n bosib dy fod ti wedi gyrru beic ar darmac o’r blaen, fe all hi gymryd ychydig o amser i arfer gyda theimlad beicio oddi ar y ffordd.

  • Gwyrdd yw lliw’r llwybrau sydd orau i ddechreuwyr ac mae’r llwybrau ar gyfer pobl sy’n meddu ar sgiliau beicio oddi ar y ffordd sylfaenol yn las.
  • Mae gan rai o’r coedwigoedd hyn ardaloedd sgiliau ble gallwch ddysgu technegau reidio a siopau beicio ble gallwch logi beic neu archebu cwrs.
  • Does dim angen i ti brynu’r holl offer beicio i ddechrau, ond bydd angen helmet a menig arnat ti – a gwna’n siŵr dy fod ti’n gwisgo dillad cyffyrddus!
  • Os bydd y chwiw yn gafael ynot ti ac y byddi di eisiau beicio’n fwy aml, mae hi’n werth buddsoddi mewn siorts â wadin, padiau pen-glin a chrys seiclo.
  • Gwna’n siŵr dy fod ti’n dod â dŵr gyda thi a chôt rhag y glaw rhag ofn i’r tywydd newid.
  • A rhag ofn i ti gael teiar fflat, gwna’n siŵr dy fod ti’n gwybod sut i’w drwsio, a chofia fynd â’r offer trwsio gyda thi (neu bydd yn barod i wthio’r beic yr holl ffordd nôl i’r maes parcio!)

Cau a dargyfeirio llwybrau beicio mynydd

Weithiau mae’n rhaid cau neu ddargyfeirio llwybrau wrth inni wneud gwaith cynnal a chadw neu waith coedwig neu am resymau eraill fel tywydd gwael.

Rydyn ni’n rhoi manylion am gau a dargyfeirio llwybrau beicio mynydd ar wefannau’r coetiroedd neu’r canolfannau ymwelwyr perthnasol.

Rydyn ni hefyd yn gosod arwyddion sy’n sôn am gau neu ddargyfeirio ar ddechrau pob llwybr.

Gofynnwn yn garedig i chi ddilyn yr holl arwyddion dargyfeirio a chyfarwyddiadau gan ein staff ar y safle er eich diogelwch eich hun.

Cod Beicio’r Goedwig

Gall beicio mynydd fod yn weithgaredd peryglus sydd â chryn risg.

Dim ond os ydych chi’n deall pob risg sydd ynghlwm wrth y gweithgaredd y dylid ei wneud.

Dylid defnyddio’r canllawiau hyn ar y cyd â’ch profiad, eich greddf a’ch barn ofalus bob amser.

Dilynwch God Beicio’r Goedwig bob amser

Peidiwch â dibynnu ar eraill

  • Fedrwch chi gyrraedd adre’n ddiogel?
  • Dylech gario’r offer cywir a gwybod sut i’w ddefnyddio.

Er eich diogelwch

  • Gwisgwch y dillad diogelwch cywir, yn enwedig helmed a menig beicio.
  • Beiciwch o fewn eich gallu’n unig.
  • Rhowch gynnig ar neidiau a sialensiau sydd o fewn eich gallu’n unig – cymerwch gipolwg arnynt yn gyntaf!
  • Hyfforddwch yn iawn yn enwedig ar gyfer llwybrau anodd a thechnegol.

Ar y ffordd ac oddi arni

  • Byddwch yn barod am yr annisgwyl – cadwch lygad yn agored am ymwelwyr eraill.
  • Er mwyn eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill dilynwch yr arwyddion rhybuddio ac unrhyw gyngor a gynigir.
  • Os bydd cerbyd yn llwytho pren disgwyliwch i’r gyrrwr adael i chi fynd heibio’n ddiogel.

Argyfwng ar y llwybrau

  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am yr heddlu.
  • Gwnewch nodyn o’r rhan o’r llwybr – cadwch lygad am y pyst sydd wedi eu rhifo.
  • Mae signal ffonau symudol yn ysbeidiol ar y llwybrau.

Fideos am feicio mynydd

Cwrteisi ar y llwybrau

Mae’r fideo hwn yn egluro rheolau cwrteisi syml y dylech eu dilyn ar y llwybrau.

Cafodd ei gynhyrchu gan British Cycling ac mae’n cynnwys rhai o’n llwybrau beicio mynydd ni.

Technegau ar gyfer y llwybrau

Mae British Cycling wedi cynhyrchu cyfres o fideos ar sgiliau beicio mynydd i helpu beicwyr i ddysgu technegau ar gyfer y llwybrau.

Ewch i wefan British Cycling i wylio’r fideos.

Atal clefydau coed rhag lledaenu

Gall plâu a chlefydau ddod am dro yn y mwd ar eich esgidiau neu ar olwynion eich beic.

Bydd dod gydag offer glân yn arafu ymlediad plâu a chlefydau coed ac yn cadw ein coedwigoedd yn iachach am hirach.

Ewch i Bioddiogelwch mewn coetiroedd: Cadwch y Cyfan yn Lân i ddarganfod sut y gallwch chi atal clefydau coed rhag lledaenu.

Llwybrau beicio mynydd eraill yng Nghymru

Mae amrywiaeth o sefydliadau eraill yn darparu llwybrau beicio mynydd a chyfleusterau eraill fel gwasanaethau cario beiciau a disgyniadau ledled Cymru.

Ewch i wefan MBWales i weld manylion pob llwybr beicio mynydd yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf