Beth yw cyfeiriannu?

Mae cyfeiriannu’n gamp llawn antur y gallwch ei mwynhau yn yr awyr agored.  Byddwch yn cerdded neu’n rhedeg ac yn ceisio canfod eich ffordd o amgylch cwrs gan ddefnyddio map manwl a chwmpawd weithiau.

Y nod yw canfod eich ffordd o un pwynt rheoli i’r llall gan ddewis y llwybr gorau er mwyn cwblhau’r cwrs yn yr amser cyflymaf.

Does dim gwahaniaeth pa mor ffit ydych chi – gallwch redeg neu gerdded y cwrs ar eich cyflymder eich hun.

Mae cyfeiriannu’n gamp wych i redwyr, loncwyr a cherddwyr sydd eisiau gwella eu sgiliau canfod ffordd ac i bawb sy’n hoffi bod allan yn yr awyr agored.

Pa wybodaeth sydd ar gael am gyfeiriannu?

British Orienteering yw’r corff llywodraethu ar gyfer camp cyfeiriannu yn y Deyrnas Unedig. 

Ewch i wefan British Orienteering i gael mwy o wybodaeth am gyfeiriannu.  

Ble galla i fynd i gyfeiriannu yng Nghymru?

Mae yna gyrsiau cyfeiriannu penodol ym mhob cwr o Gymru.

  • Ewch i wefan British Orienteering i ddod o hyd i gwrs cyfeiriannu penodol yn agos atoch chi
  • Mae yna gyrsiau cyfeiriannu penodol mewn pedair coedwig sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Ble mae’r cyrsiau cyfeiriannu sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru?

Mae cyrsiau cyfeiriannu penodol yng Nghoedwig Niwbwrch, ym Mharc Coedwig Gwydir, Mharc Coedwig Coed y Brenin ac yng Nghoedwig Bwlch Nantyrarian.

Mae tri chwrs cyfeiriannu parhaol yng Nghoedwig Niwbwrch.

Mae'r cyrsiau wedi eu graddio yn unol â safonau Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain a chawsant eu cynllunio gan Gyfeirianwyr Eryri.

  • Mae’r cwrs Oren yn un canolig o ran anhawster ac yn addas ar gyfer rhai sy’n cychwyn sy’n gallu deall map
  • Mae’r Cwrs Gwyrdd yn gofyn am sgiliau cyfeiriannu technegol anodd ac mae’n addas ar gyfer cyfeirianwyr profiadol
  • Mae’r Cwrs Glas yn gofyn am sgiliau cyfeiriannu technegol anodd, mae’n hirach na’r Cwrs Gwyrdd, ac yn addas ar gyfer cyfeirianwyr profiadol

Mae pob un o’r tri llwybr yn cychwyn yng ngogledd ddwyrain y prif faes parcio ac yn gorffen yn y llannerch yn ne-ddwyrain y maes parcio.

Mwy o wybodaeth ynglŷn â chyfeiriannu yng Nghoedwig Niwbwrch

Cyfeiriannu ym Mharc Coedwig Gwydir

Mae dau lwybr cyfeiriannu sefydlog ym Mharc Coedwig Gwydir.

Mae’r llwybr byrrach wedi’i raddio fel un o lefel gymedrol o ran her llywio. Mae’r llwybr arall yn hirach ac yn anoddach ac yn addas i gyfeirianwyr profiadol.

Mae’r ddau lwybr yn dechrau yn agos at Fetws-y-coed ac yn gorffen yng nghanol y pentref.

Mwy o wybodaeth ynglŷn â chyfeiriannu ym Mharc Coedwig Gwydir

Cyfeiriannu ym Mharc Coedwig Coed y Brenin

Mae pedwar cwrs cyfeiriannu parhaol ym Mharc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau.

  • dau gwrs haws ar gyfer dechreuwyr, un ohonyn nhw’n addas i blant
  • dau gwrs anos ar gyfer rhai sy’n darllen map yn hyderus a chyfeirianwyr profiadol

Mae’r cyrsiau’n cychwyn ac yn gorffen yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Coed y Brenin lle mae caffi, toiledau a chyfleusterau eraill i ymwelwyr.

Edrychwch ar dudalen Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin i gael mwy o wybodaeth. 

Cyfeiriannu yng Nghoedwig Bwlch Nantyrarian

Mae yna bedwar cwrs cyfeiriannu parhaol yng Nghoedwig Bwlch Nantyrarian, ger Aberystwyth.

Mae’r rhain yn cynnwys cwrs haws ar gyfer dechreuwyr, sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan deuluoedd, a chwrs anos ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.

Mae’r cyrsiau’n cychwyn ac yn gorffen yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nantyrarian lle mae caffi, toiledau a chyfleusterau eraill ar gyfer ymwelwyr.

Edrychwch ar dudalen Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nantyrarian i gael mwy o wybodaeth. 

Sut alla i gael gwybodaeth am lwybrau sydd wedi cael eu cau neu eu gwyro?

Weithiau mae’n rhaid cau neu wyro hawl dramwy gyhoeddus.

Dylai arwyddion ar y safle ddweud wrthych chi ydy hawl dramwy gyhoeddus ar agor neu wedi cau.

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae gwaharddiadau neu gyfyngiadau’n cael eu defnyddio ar dir mynediad agored, ewch i’r dudalen rheoli mynediad.

Sut alla i gael caniatâd ar gyfer digwyddiad cyfeiriannu mewn coetir sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru?

Caniatâd i drefnu digwyddiad cyfeiriannu yn un o’r coetiroedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.  

Y Cod Cefn Gwlad

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn berthnasol i bob ardal yng nghefn gwlad Cymru a Lloegr.

Ei nod yw helpu pawb i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad.

Gallwch lawrlwytho copi o’r Cod Cefn Gwlad cyn eich ymweliad.

Diweddarwyd ddiwethaf