Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel

Croeso

Rydym yn gofalu am goetiroedd a gwarchodfeydd natur cenedlaethol ledled Cymru.

Mae’r rhan fwyaf o’r lleoedd hyn ar agor i bobl eu mwynhau ac rydym am i bawb ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eu hymweliad.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Darllenwch ymlaen am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Paratowch ar gyfer eich ymweliad

Gwiriwch dudalen y safle ar y wefan hon i ddarganfod beth i'w ddisgwyl yn y coetir neu'r warchodfa rydych chi am ymweld â hi. Gwnewch hyn cyn cychwyn gan fod y signal ffôn symudol yn annibynadwy mewn rhai mannau.

Gwiriwch ragolygon y tywydd ac, os ydych am fwynhau'r môr, gwiriwch ansawdd y dŵr ymdrochi ac amseroedd y llanw i leihau'r risg o gael eich dal gan y llanw.

Sicrhewch fod gennych bopeth sydd ei angen arnoch gan gynnwys y canlynol:

  • dillad priodol a dillad glaw
  • esgidiau addas
  • digon o fwyd a dŵr
  • ffôn symudol a digon o fatri
  • offer ar gyfer eich gweithgaredd

Cyn i chi adael, dywedwch wrth rywun ble rydych chi'n mynd a phryd rydych chi'n disgwyl bod yn ôl – cofiwch efallai na fydd eich ffôn symudol yn gweithio mewn ardaloedd gwledig os byddwch chi'n mynd ar goll neu'n mynd i drafferthion.

Rhagor o fanylion

Cadwch yn ddiogel ar y safle

Mae rhai o’n coetiroedd a’n gwarchodfeydd wedi’u lleoli yn rhannau mwyaf gwledig Cymru ac eraill wedi’u lleoli ar arfordiroedd anghysbell.

Dylech wneud y canlynol:

  • byddwch yn barod ar gyfer rhai peryglon naturiol.
  • dilynwch y llwybrau cywir.
  • byddwch yn wyliadwrus o gerbydau’n defnyddio ffyrdd y goedwig.
  • byddwch yn ystyriol o ymwelwyr eraill ac yn barod i rannu’r lle.
  • dylech osgoi ymylon clogwyni neu gerdded ar dir lle nad ydych chi'n teimlo'n ddiogel.
  • trowch yn ôl os bydd y tywydd yn gwaethygu – gall yr amodau newid yn gyflym yn enwedig ar y mynyddoedd.
  • byddwch yn wyliadwrus o goed neu frigau’n syrthio mewn gwyntoedd cryfion.
  • gwiriwch yr arwyddion a dilynwch gyngor mewn ardaloedd arfordirol – nid yw rhai traethau yn ddiogel ar gyfer nofio.
  • peidiwch â mynd i mewn i'r dŵr os oes gennych unrhyw amheuaeth – yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau, nid oedd y dioddefwr erioed wedi bwriadu mynd i'r dŵr.

Dewiswch lwybr sy’n addas ar eich cyfer

Ceir llwybrau cerdded, rhedeg, beicio mynydd, beicio neu farchogaeth yn nifer o’n coetiroedd a’n gwarchodfeydd.

Mae ein llwybrau:

  • wedi’u graddio i roi syniad o'i anhawster ac i'ch helpu i ddewis y llwybr orau i chi.
  • wedi'u harwyddo â saeth lliw neu symbol arall o'r dechrau i'r diwedd.
  • yn dechrau gyda phanel gwybodaeth sy'n rhoi gradd y llwybr, lliw ei harwyddion, ei hyd a faint o amser y mae'n debygol o gymryd.

Cymerwch amser i ddarllen y panel gwybodaeth cyn cychwyn ar un o’n llwybrau.

Rhagor o fanylion

Byddwch yn ymwybodol o weithrediadau coedwigaeth

Mae gweithrediadau coedwigaeth yn digwydd mewn llawer o'n coedwigoedd a gallant gynnwys peiriannau mawr a phwerus.

Os bydd y gwaith hwn yn effeithio ar ein llwybrau wedi’u harwyddo, rydym yn darparu llwybrau amgen neu ddargyfeiriadau lle bo modd. Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni gau llwybr i ganiatáu i'r gwaith ddigwydd yn ddiogel.

Dilynwch unrhyw ddargyfeiriadau i lwybrau i helpu i sicrhau eich diogelwch yn ogystal â diogelwch ein staff a chontractwyr hyd yn oed os na allwch glywed neu weld unrhyw weithgaredd.

Rhagor o fanylion

Gwyliwch ein ffilm am ymweld â'n coedwigoedd yn ddiogel.

Byddwch yn barod am newidiadau i gyfleusterau

Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni gau safle o ganlyniad i dywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y risg o anaf i ymwelwyr neu staff.

Mae'n bosibl y byddwn yn cau neu’n dargyfeirio ein llwybrau er mwyn eich diogelwch wrth i ni gynnal gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau eraill.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar arwyddion neu a roddir gan staff lleol gan gynnwys unrhyw arwyddion dargyfeirio llwybrau.

Rydyn ni'n rhoi gwybodaeth am unrhyw drefniadau i gau llwybrau ac unrhyw ddargyfeiriadau neu newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr ar y wefan hon. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio am unrhyw newidiadau cyn cychwyn, yn enwedig os ydych am ddilyn llwybr penodol.

Rhagor o fanylion

Gwiriwch dudalen y safle ar y wefan hon i ddod o hyd i unrhyw fanylion am drefniadau arfaethedig i gau llwybrau neu newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yr hoffech ymweld â nhw.

Darllenwch gyngor ar weithgareddau

Cod Cefn Gwlad

Mae'r Cod Cefn Gwlad yn cynnig cyngor i bobl sy’n ymweld â chefn gwlad a dyma'ch canllaw i fwynhau parciau a dyfrffyrdd, yr arfordir a chefn gwlad yn ddiogel.

Mae’r codau hyn yn rhoi cyngor i’ch cadw’n ddiogel wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau penodol:

  • Y Cod Cerdded Cŵn
  • Y Cod Defnyddwyr Llwybrau
  • Cod y Glannau
  • Y Cod Canŵio
  • Y Cod Pysgota
  • Y Cod Nofio yn y Gwyllt

I ddarllen unrhyw un o'r codau gweithgarwch hyn, ewch i dudalennau gwe’r Cod Cefn Gwlad.

Beicio mynydd

Mae ein coetiroedd a’n coedwigoedd yn gartref i rai o’r llwybrau beicio mynydd enwocaf ym Mhrydain.

Mae beicio mynydd yn weithgaredd cyffrous ond mae'r cyflymder a'r rhwystrau sy'n ei wneud yn hwyl hefyd yn ei wneud yn beryglus. Dylech ond gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn gyda dealltwriaeth lawn o'r holl risgiau cynhenid.

Gallwch ddysgu am yr hyn mae graddau llwybr yn ei olygu, edrych ar rai awgrymiadau ar gyfer newydd-ddyfodiaid i feicio mynydd a darllen y Cod Beicio Coedwig ar ein tudalen beicio mynydd.

Beth i’w wneud mewn argyfwng

Ffoniwch am help os byddwch chi neu unrhyw un yn eich grŵp (gan gynnwys eich ci) yn mynd i drafferthion neu os byddwch yn dod o hyd i rywun arall mewn trafferth – peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl!

Digwyddiadau ar y tir

Ffoniwch 999, gofynnwch am yr heddlu ac yna'r tîm Achub Mynydd.

Digwyddiadau mewn dyfroedd mewndirol

Ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Digwyddiadau mewn ardaloedd morol ac arfordirol

Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â'n canolfan ddigwyddiadau i roi gwybod am ddifrod i'n llwybrau neu gyfleusterau ymwelwyr.

 

Diweddarwyd ddiwethaf