Perygl llifogydd isel iawn o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Mae llifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach yn digwydd pan nad yw dŵr glaw yn draenio drwy'r systemau draenio arferol nac yn ymdreiddio i'r ddaear, ond yn hytrach yn gorwedd ar y ddaear neu'n llifo drosto.

Beth y mae 'isel iawn' yn ei olygu?

Mae'r lliwiau ar fap Asesiad Risg Llifogydd i Gymru yn dangos y risg llifogydd o afonydd, y môr ac o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. 

Mae pob ardal tu allan i'r lliwiau ar y map yn cael ei hystyried yn risg isel iawn o lifogydd. 

Mae isel iawn yn golygu bod gan yr ardal hon, bob blwyddyn, siawns o lai nag 1 ym mhob 1000 (0.1%) o ddioddef o lifogydd.

Mae hyn yn rhoi ystyriaeth i effaith unrhyw amddiffynfeydd rhag llifogydd a allai fod yn yr ardal hon. Er bod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn lleihau'r siawns o lifogydd, dydyn nhw ddim yn eu rhwystro'n llwyr. Gall y dŵr fynd drostynt neu gall yr amddiffynfeydd ollwng.

Mae llifogydd yn dinistrio - byddwch yn barod

Peidiwch ag aros nes y bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch yn barod ar gyfer llifogydd trwy ddilyn ychydig gamau syml i leihau eu heffaith ar eich cartref neu'ch busnes.

Cynllunio datblygiad

Nid yw'r wybodaeth hon yn addas ar gyfer ei defnyddio wrth gynllunio defnydd tir. Os ydych chi'n cynllunio datblygiad, mae angen i chi ddefnyddio Map Cyngor Datblygu Llywodraeth Cymru. Y rheswm am hyn yw bod angen i chi ddefnyddio gwybodaeth sy'n seiliedig ar lifogydd heb amddiffynfeydd i ddibenion cynllunio.

Rhagor o wybodaeth

Am rhagor o wybodaeth am yswiriant llifogydd, ymweld â’r isod:

Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth ym Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru i weld yr ardaloedd bras lle y byddai llifogydd.

Os oes gennych fwy o gwestiynau ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.

Gall yr ardal hon fod mewn perygl o fathau eraill o lifogydd.

Diweddarwyd ddiwethaf