Gofynion o ran allbwn modelau

Gofynion o ran allbwn modelau

Bydd yr allbwn isod yn ei gwneud yn bosibl i ni ddefnyddio data eich model i ddiweddaru mapiau llifogydd Cymru a'i ymgorffori yng nghronfa ddata Pecyn Offerynnau Economaidd Asesu Perygl Llifogydd Cymru.

Dylech drafod y gofynion o ran allbwn modelau gyda ni ar ddechrau'r prosiect, a chytuno ar y dull. 

Modelu afonydd ac arwynebau

Mae gan nodweddion a amddiffynnir, nodweddion nas amddiffynnir, a datblygiadau arfaethedig / ‘fel y'i hadeiladwyd’ y Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol canlynol: 

  • un ym mhob 2 (Qmed)
  • un ym mhob 10
  • un ym mhob 30
  • un ym mhob 30 (amcangyfrif canolig o ran newid yn yr hinsawdd)
  • un ym mhob 75
  • un ym mhob 100
  • un ym mhob 100 (amcangyfrif canolig o ran newid yn yr hinsawdd)
  • un ym mhob 200
  • un ym mhob 1,000
  • un ym mhob 1,000 (amcangyfrif canolig o ran newid yn yr hinsawdd)

Mae gan ffactorau sensitifrwydd, rhwystrau a bylchau y Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol canlynol: 

  • un ym mhob 100

Dylech gadarnhau’r gofynion modelu o ran sensitifrwydd, rhwystrau a bylchau fel rhan o'r astudiaeth gwmpasu. Gall y rhain amrywio fesul achos.

Dylech wneud eich dadansoddiad newid yn yr hinsawdd ar gyfer gorwel amser 100 mlynedd er mwyn diweddaru ein gwaith mapio cenedlaethol.

Gwaith modelu arfordirol

Mae gan nodweddion a amddiffynnir, nodweddion nas amddiffynnir, a datblygiadau arfaethedig / ‘fel y'i hadeiladwyd’ y Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol canlynol: 

  • Cyrhaeddiad cymedr penllanw mawr
  • un ym mhob 30
  • un ym mhob 30 (amcangyfrif canolig o ran newid yn yr hinsawdd)
  • un ym mhob 75
  • un ym mhob 100
  • un ym mhob 200
  • un ym mhob 200 (amcangyfrif canolig o ran newid yn yr hinsawdd)
  • un ym mhob 1,000
  • un ym mhob 1,000 (amcangyfrif canolig o ran newid yn yr hinsawdd)
  • un ym mhob 1,000 (amcangyfrif uwch o ran newid yn yr hinsawdd)

Mae gan ffactorau sensitifrwydd, rhwystrau, a bylchau y Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol canlynol: 

  • un ym mhob 200

Dylech gadarnhau'r gofynion modelu o ran tonnau'n gorlifo, sensitifrwydd, rhwystrau a bylchau fel rhan o'ch astudiaeth gwmpasu. Gall y rhain amrywio fesul achos.

Dylech wneud eich dadansoddiad newid yn yr hinsawdd ar gyfer gorwel amser 100 mlynedd er mwyn diweddaru ein gwaith mapio cenedlaethol. Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi ystyried y gallai fod angen i orwelion amser ychwanegol fodloni canllawiau Llywodraeth Cymru.

Diweddarwyd ddiwethaf