Ymwadiad tynnu dŵr

Mae unigolion a sefydliadau y rhoddwyd trwydded tynnu dŵr iddynt gan CNC (‘Trwyddedeion’) yn ddarostyngedig i rwymedigaethau contractiol a/neu statudol i fonitro, cyfrifo a chyflwyno adroddiadau sy’n ymwneud â’u defnydd o ddŵr er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu o fewn telerau eu trwydded.

Mae cyflwyno cyfrifiadau defnydd dŵr drwy Borth Tynnu Dŵr CNC (y ‘Porth’) yn un ffordd i Drwyddedeion (neu bartïon sy’n gweithredu ar ran Trwyddedai) gyflwyno gwybodaeth sy’n ymwneud â defnydd dŵr Trwyddedai.

Fodd bynnag, mae’r cyfrifiadau defnydd dŵr a’r data tynnu dŵr hanesyddol sydd ar gael drwy’r Porth hwn wedi’u darparu gan CNC yn ganllaw yn unig. Ni fwriedir iddynt gymryd lle cyfrifoldeb contractiol a/neu statudol Trwyddedai i gyfrifo’n gywir gyfaint y dŵr y mae’n ei dynnu a sicrhau ei fod yn gweithredu o fewn telerau ei drwydded. Felly, ni ddylai Trwyddedeion ddibynnu ar y cyfrifiadau tynnu dŵr na’r data hanesyddol sydd ar gael drwy’r Porth hwn.

Nid yw CNC yn cyflwyno dim ymhoniad ac nid yw’n rhoi dim gwarantiad, boed yn ddatganedig neu ymhlyg, ynghylch cywirdeb unrhyw gyfrifiadau neu ddata tynnu dŵr hanesyddol sydd ar gael drwy’r Porth hwn nac y bydd y rhain yn gyflawn neu’n gyfoes. Nid yw CNC ychwaith yn derbyn dim atebolrwydd i’w Drwyddedeion (neu unrhyw barti sy’n gweithredu ar ran Trwyddedai), boed mewn contract, camwedd neu ar unrhyw sail arall, yng nghyswllt y cyfryw gyfrifiadau neu ddata.

Nid yw’r ymwadiad uchod yn ceisio eithrio neu gyfyngu ar atebolrwydd CNC lle y byddai’n anghyfreithlon gwneud hynny, gan gynnwys, heb gyfyngiad, atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeuluster CNC neu esgeuluster ei gyflogeion, asiantiaid neu is-gontractwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf