Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rôl allweddol i'w chwarae yn y gwaith o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac o ymaddasu i ganlyniadau'r newid anochel yn yr hinsawdd.

Dau ymrwymiad i leihau allyriadau

Mae ein gwaith ar leihau allyriadau yn cael ei ysgogi gan ddau beth: ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau 80% o'r allyriadau, o gymharu â lefelau 1990, erbyn 2050, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru, o 2011 ymlaen, i leihau, bob blwyddyn, 3% o'r allyriadau y mae ganddi reolaeth arnyn nhw.

Mynd ati i leihau allyriadau 

  • Mae ein prif effeithiau ar allyriadau yn cael eu cyflawni trwy gyfrwng ein gwaith yn y meysydd canlynol: 
  • Rheoleiddio diwydiant trwm, yn bennaf trwy Gynllun Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd
  • Rheoleiddio'r diwydiant gwastraff, yn bennaf trwy leihau allyriadau methan o safleoedd tirlenwi
  • Rheoleiddio'r sectorau busnes, masnachol a chyhoeddus, yn bennaf trwy Gynllun Effeithiolrwydd Ynni yr Ymrwymiad Lleihau Carbon 
  • Rhyngweithio â'r sector ynni trwy reoleiddio uniongyrchol a thrwy ddylanwadu ar benderfyniadau cynllunio 
  • Rheoli a dylanwadu ar ddefnydd tir er mwyn cadw a chynyddu'r carbon yn y pridd, yn arbennig mewn mawndiroedd
  • Rheoli coedwigoedd, sy'n gweithredu fel dalfa garbon trwy godi carbon deuocsid o'r atmosffer

Cyflawni ein gwaith ein hunain mewn ffordd gyfrifol

Rydyn ni hefyd yn anelu at gyflawni ein gwaith ein hunain mewn ffordd ragorol ac at hyrwyddo ein dysgu ar leihau allyriadau ledled Cymru. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoli ein heffiath amgylcheddol ein hunain.

Rheoli coedwigoedd

Fel rheolwyr Ystâd Goed Llywodraeth Cymru, rydyn ni'n cefnogi'r defnydd o bren fel adnodd ynni glân, effeithlon ac adnewyddadwy. Rydyn ni hefyd yn hyrwyddo'r defnydd o diroedd yr ystâd ar gyfer ynni gwynt a dŵr, pan fydd hi'n bosibl gwneud hynny heb gyfaddawdu ar agweddau eraill sy'n ymwneud ag ansawdd yr amgylchedd.  

Gwneud defnydd effeithlon o adnoddau 

Mae gwneud nwyddau o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu yn hytrach na deunyddiau craidd yn cynhyrchu llawer llai o nwyon tŷ gwydr. Felly mae ein gwaith ar ailgylchu ac effeithlonrwydd adnoddau yn bwysig iawn er mwyn atal cynhyrchu allyriadau yn y lle cyntaf - boed hynny yn y Deyrnas Unedig neu dramor. Yn yr un modd, rydyn ni'n hyrwyddo pren fel deunydd adeiladu sydd â llawer llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn rhan ohono na deunyddiau eraill tebyg i blastig neu ddur.

Peryglon yng Nghymru

Mae ein gwaith ar ymaddasu i newid yn yr hinsawdd yn cael ei ysgogi'n bennaf gan yr Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd, a gafodd ei gyhoeddi yn 2012. Roedd yr adroddiad hwn wedi amlygu'r peryglon canlynol yng Nghymru: 

  • Cynnydd yn nifer y marwolaethau a'r achosion o salwch sy'n gysylltiedig â thywydd poeth
  • Newidiadau i gyflwr y pridd, bioamrywiaeth a'r dirwedd o ganlyniad i hafau cynhesach a sychach
  • Gostyngiad yn llif afonydd a'r dŵr sydd ar gael yn ystod misoedd yr haf, a hyn wedyn yn effeithio ar gyflenwadau dŵr a'r amgylchedd naturiol
  • Cynnydd mewn achosion o lifogydd ar yr arfordiroedd ac ar y tir, a hyn wedyn yn effeithio ar bobl, eiddo a seilwaith
  • Newidiadau i esblygiad arfordiroedd, yn cynnwys erydiad a gwasgfa arfordirol, a hyn wedyn yn effeithio ar draethau, ardaloedd rhynglanwol a nodweddion arfordirol eraill 
  • Newidiadau i rywogaethau anifeiliaid, yn cynnwys dirywiad mewn rhywogaethau brodorol, newidiadau i batrymau mudo a chynnydd mewn rhywogaethau estron a goresgynnol

Mwy o berygl o blâu ac afiechydon yn effeithio ar amaethyddiaeth a choedwigaeth

Roedd yr adroddiad hefyd wedi amlygu'r cyfleoedd canlynol:

  • Cynnydd mewn cnydau glaswellt, sydd wedyn yn caniatáu cynnydd posibl mewn cynhyrchu da byw
  • Cynnydd yn nifer y twristiaid a thymor twristiaid hirach
  • Gostyngiad yn nifer y marwolaethau a'r afiechydon sy'n gysylltiedig â thywydd oer  

Ymchwil barhaus

Mae'r ail Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd ar y gweill ar hyn o bryd a bydd yr adroddiad ar gael yn 2017. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfrannu at y broses hon a bydd yn gweithredu ar ganlyniadau'r adroddiad.

Ymrwymiadau i Lywodraeth Cymru

Rydyn ni wedi addo i Lywodraeth Cymru i ddilyn eu harweiniad statudol ac i sicrhau bod ymaddasu i newid yn yr hinsawdd yn rhan annatod o holl weithgareddau ein sefydliad. Mae enghreifftiau o'r gwaith hwn i'w weld ar hyd a lled ein gwefan, fel y bo'n addas. 

Sut mae ein sefydliad yn ymaddasu i'r newid yn yr hinsawdd 

Mae rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys delio gyda digwyddiadau unigol, fel stormydd, yn ogystal â thaclo tueddiadau sylfaenol tebyg i newidiadau yn y glawiad tymhorol.

Mae ein gwaith hyd yma wedi amlygu'r meysydd blaenoriaeth canlynol:

  • Rheoli'r perygl cynyddol o lifogydd o afonydd, systemau carthffosiaeth a'r môr 
  • Rheoli effeithiau sychderau mwy aml a mwy difrifol 
  • Delio gydag ansawdd dŵr afon gwael yn ystod cyfnodau gwlyb iawn a sych iawn
  • Rheoli effeithiau newid yn yr hinsawdd ar dirweddau a chynefinoedd, yn ogystal ag ar y rhywogaethau y maen nhw'n eu cynnwys
  • Paratoi canllawiau ar gyfer rheolwyr coetiroedd ar sut i ddygymod yn well â newid yn yr hinsawdd 

Perthnasoedd cyd-ddibynnol

Mae ymaddasu i newid yn yr hinsawdd yn gofyn am gydweithrediad rhwng nifer o asiantaethau a phartïon gwahanol. Os bydd yna lifogydd ar ffordd, er enghraifft, efallai na fydd y gwasanaethau argyfwng yn gallu teithio ar hyd-ddi a bydd pobl yn dioddef. Am y rheswm hwn, rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill a hefyd gyda chymunedau lleol. Er enghraifft, rydyn ni'n gweithio'n agos gydag Un Llais Cymru i helpu cynghorau tref a chymuned, a'r cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli, i wella eu gallu i ddygymod â newid yn yr hinsawdd.

Darllen mwy 

Chwilio am stocrestrau nwyon tŷ gwydr at gyfer y DU at Adnodd Gwybodaeth Awyr y DU DEFRA (Saesneg in unig) 

Chwilio am bapurau ymchwil ar dargedau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf