Gwarchodaeth Afon Dyfrdwy: Perfformiad yn erbyn y cynllun diogelwch ar gyfer gweithrediadau morol

Cyflwyniad

Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yw'r enw ffurfiol a roddir ar ardal harbwr ddiffiniedig y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn awdurdod gwarchodaeth, harbwr a goleudy lleol ar ei chyfer. Mae'r ardal harbwr hon yn cynnwys Afon Dyfrdwy a'i haber, yn ymestyn o Wilcox Point i lawr yr afon o'r gored yng Nghaer, tua'r môr at linell ddychmygol sy'n cysylltu'r Parlwr Du ar arfordir Cymru â Thrwyn Hilbre yng Nghilgwri.

Mae Cod Diogelwch Morol ar gyfer Porthladdoedd a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau porthladdoedd gyhoeddi cynllun diogelwch ar gyfer gweithrediadau morol. Cafodd System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy ei datblygu i fodloni gofynion y Cod hwn.

Y cyfnod dan sylw yn adolygiad y deiliad dyletswydd yw 20 Medi 2021 hyd at 30 Medi 2022.

Cynhaliwyd adolygiad ffurfiol o System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy gan y Deiliad Dyletswydd ar y cyd â'r Unigolyn Dynodedig a Harbwrfeistr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy ar 11 Tachwedd 2022. Mae'r Deiliad Dyletswydd yn derbyn canfyddiadau'r adolygiad ffurfiol, sy'n cael eu cyfleu yn Adroddiad yr Unigolyn Dynodedig.

Datganiad polisi

Mae CNC wedi ymrwymo i hyrwyddo rheolaeth dda o'r adnoddau sydd ar gael iddo, er mwyn:

  • Cynnal a rheoleiddio gweithrediadau morol mewn ffordd sy'n diogelu Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy, ei ddefnyddwyr, y cyhoedd a'r amgylchedd i gyflawni safon diogelwch morol sy’n ofynnol gan God Diogelwch Morol y Porthladd.
  • Hyrwyddo'r defnydd o Fwrdd Gwarchod Dyfrdwy a sicrhau bod ei ddatblygiad economaidd yn ystyried ac yn cydbwyso barn ac anghenion yr holl randdeiliaid o ran defnyddio adnoddau naturiol a gwarchod yr amgylchedd.

Amcanion y cynllun

Er mwyn bodloni gofynion y Cod a'n Datganiad Polisi, rydym yn adolygu'r cynnydd yn erbyn amcanion canlynol System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy:

Bydd y dyletswyddau a'r pwerau perthnasol yn cael eu hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod CNC yn gallu rheoleiddio a gwarchod mordwyo diogel yn effeithiol o fewn ei ardal harbwr statudol a'i ddynesfeydd.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am Orchymyn Adolygu Harbwr Aber Dyfrdwy yn dangos bod yr Adran Drafnidiaeth yn gweithio gydag asiantiaid seneddol CNC i fwrw ymlaen ag arwyddo'r Gorchymyn Adolygu Harbwr.  Mae’r cysylltiad rhwng CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd a'i bartneriaid wedi cynyddu mewn ymateb i'r gwaith, i sicrhau dilyniant gwasanaethau Awdurdod Harbwr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy.

Bydd System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn cael ei chynnal yn seiliedig ar asesiad risg trylwyr:

Nid yw prif weithrediadau morol Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy wedi newid yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Mae System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn parhau i fod yn seiliedig ar asesiad risg ac yn cael ei chyfarwyddo ganddo. Mae'r pedwar asesiad risg ar wahân sy'n cwmpasu gweithrediadau morol o fewn y Bwrdd Gwarchod a'r dynesfeydd yn cael eu hadolygu unwaith bob tair blynedd, gyda gweithgareddau ad-hoc yn cael eu hasesu'n unigol.  Cafodd adolygiad ffurfiol o System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2021, a chafodd adolygiad o'r asesiad ei gwblhau ym mis Ebrill 2022.

Cafodd methiannau a welwyd mewn Awdurdodau eraill eu cymharu yn erbyn System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy, yn dilyn cyhoeddi crynodeb Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau o wiriadau iechyd sy’n cydymffurfio â Chod Diogelwch Morol y Porthladd. Ar y cyfan, mae'r Bwrdd Gwarchod yn bodloni'r gofynion i safon uchel.  Mae Grŵp Rheoli Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy wedi ei drefnu ac yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn. 

Yn unol â monitro System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy a Gweithdrefnau ar y Cyd, cynhaliwyd arolygiad a threfn archwilio llawn.

Bydd asesiadau risg ar gyfer gweithrediadau morol yn cael eu hadolygu'n gyson i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddilys a bod y rheolaethau a nodwyd i liniaru risgiau yn briodol ac yn effeithiol wrth leihau'r risgiau gymaint ag y bo'n rhesymol yn ymarferol:

Mae Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn monitro gweithrediadau morol newydd sy'n digwydd yn yr aber a phan fo hynny’n ymarferol mae’n ymgysylltu â rhanddeiliaid ymhell cyn iddynt gychwyn i sicrhau bod mesurau rheoli priodol yn cael eu cyflwyno lle bo angen. Mae asesiadau risg ar gyfer gwaith morol bach yn cael eu cwblhau pan fo angen.

Bydd y gofynion monitro, archwilio ac adolygu, sydd wedi’u dogfennu o fewn y System Rheoli Diogelwch Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn cael eu gweithredu fel y bo'n briodol gan Harbwrfeistr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy, dirprwy enwebedig, neu gontractwr awdurdodedig:

Mae'r broses archwilio eleni wedi cael ei chwblhau unwaith eto gan gyfeirio at adrannau perthnasol o Gymorth Cof Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau i Arolygwyr sy’n bresennol fel y gwelir yng nghanllawiau diweddaraf  Cod Diogelwch Morol y Porthladd. Mae lefel gyffredinol y gydymffurfiaeth yn debyg i archwiliad y llynedd, a nodwyd fod pob diffyg blaenorol ac eithrio un wedi cael ei weithredu.

Bydd CNC yn darparu cymhorthion mordwyo er mwyn gwella diogelwch mordwyo a bodloni gofynion yr Awdurdod Goleudai Cyffredinol (Trinity House):

Mae Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn parhau i ddarparu cymhorthion mordwyo sy'n caniatáu i longau deithio ar draws yr afon a’r aber yn ddiogel yn ystod cyfnodau dŵr uchel addas. Mae'r adolygiad parhaus o’r data arolygon sydd ar gael yn golygu y gall newidiadau i leoliadau’r sianel gael eu monitro ac y gellir defnyddio cymhorthion mordwyo neu gael gwared ohonynt yn ôl y galw.

Bydd CNC yn monitro ac yn cynnal ei gymhorthion mordwyo er mwyn sicrhau bod ei safonau perfformiad yn bodloni'r gofynion targed a osodwyd gan y Gymdeithas Ryngwladol Cymhorthion Morol ar gyfer Awdurdodau Mordwyo a Goleudai:

Mae'r holl gymhorthion mordwyo yn cael eu harchwilio'n wythnosol ac yn destun amserlen gynnal a chadw sy’n cael ei chynllunio’n flynyddol. Mae'r adolygiad parhaus o ddata arolygon sydd ar gael wedi caniatáu i leoliadau’r sianel gael eu monitro a'u marcio'n gywir.  Mae CNC, fel awdurdod goleudy lleol yn parhau i ragori ar y meini prawf perfformiad a osodwyd gan y Gymdeithas Ryngwladol Cymhorthion Morol ar gyfer Awdurdodau Mordwyo a Goleudai ar gyfer pawb ond y rhai ar Wal Hyfforddi'r Gogledd.

Dyddiad: 1 Tachwedd 2023

Llofnodwyd: Gareth O'Shea, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gweithrediadau

Diweddarwyd ddiwethaf