Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol (Swyddogaethau) 2013 (y Gorchymyn Swyddogaethau) yn gosod dyletswydd newydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru, i fod â chynllun ar wahân yn ymwneud yn benodol â gwybodaeth ynghylch ceisiadau trwydded a’n penderfyniadau trwyddedu ni. Cyfeiriwn at hwn fel y “Cynllun Cyhoeddi Trwyddedu”.

Sut mae ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 4 o’r gloch y pnawn ar 27 Hydref 2014, yn unrhyw un o’r moddion canlynol:

E-bost:

publicationschemeconsultation@naturalresourceswales.gov.uk

neu trwy’r

Post:

Cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu (Tîm Pontio)
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Caerdydd, CF24 0TP

Cyhoeddi canlyniadau ein hymgynghoriad

Cyhoeddwn ein hymateb cyflawn i’r ymgynghoriad erbyn 1 Rhagfyr 2014. Cynhwysa sylwadau ac ymholiadau cryno a dderbyniasom yn yr ymatebion, ac amlinella ein hargymhellion a fydd yn ystyried y cyfryw. Bydd yr adroddiad ar ein gwefan.