Bodloni’r prawf diwedd gwastraff

Pan fyddwn ni’n ystyried nad yw deunydd gwastraff bellach yn wastraff, fe’i gelwir fel arfer yn ‘ddiwedd gwastraff’.

Wrth i ni ddechrau ystyried gwastraff fel adnodd gwerthfawr, mae'n rhaid i ni hefyd ystyried statws reolaethol cynnyrch a defnyddiau sy'n deillio o wastraff.

Gellir penderfynu a gyrhaeddwyd diwedd gwastraff fel arfer drwy un o dri dull:

  • cydymffurfiad â rheoliadau diwedd gwastraff
  • cyfarfod â phrotocol ansawdd
  • drwy asesu achosion yn unigol

Rheoliadau diwedd gwastraff

O dan Erthygl 6 (1) a (2) Cyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi mabwysiadu rheoliadau diwedd gwastraff ar gyfer:

  • rheoliadau diwedd gwastraff ar gyfer haearn ac alwminiwm sgrap
  • rheoliadau diwedd gwastraff ar gyfer ysgyrion gwydr

Yn ôl rheoliadau’r Comisiwn Ewropeaidd, cyn bod y deunyddiau hyn yn peidio â bod yn wastraff, mae’n rhaid iddyn nhw:

  • gyfarfod â meini prawf penodol ar gyfer ansawdd ac mae’n rhaid i’r cynhyrchydd neu’r mewnfudwr allu cyflwyno datganiad o gydymffurfiad yn cadarnhau bod y safonau hynny’n cael eu cyfarfod
  • mae’n rhaid i’r gweithredydd fod â system reoli ansawdd ardystiedig sy’n gallu dangos cydymffurfiad â’r meini prawf ansawdd hynny

Protocolau ansawdd

Mae protocolau’n cynnwys meini prawf diwedd gwastraff ar gyfer cynhyrchu a defnyddio cynnyrch o fathau penodol o wastraff. Gwirfoddol yw'r meini prawf hyn. Ystyrir ei fod yn ddigon sicrhau y gellir defnyddio’r cynnyrch, ar ôl ei adfer yn llwyr, heb fod angen iddo ddod o dan reolaethau rheoli gwastraff.

Asesiad fesul achos

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn ddigon amlwg a yw rhywbeth yn wastraff ai peidio fel na fydd busnesau a sefydliadau eraill angen canllawiau i benderfynu ar hynny.

Pan na fydd y dewisiadau a restrir uchod yn berthnasol i gynnyrch yn deillio o wastraff, bydd yn rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch statws y defnydd gael ei seilio ar y canlynol:

  • egwyddorion cyfraith gwastraff
  • y gyfarwyddeb Fframwaith Wastraff Ddiwygiedig
  • cyfraith achos berthnasol yng Nghymru a Lloegr – prawf y Grŵp OSS pan sefydlodd yr Arglwydd Ustus Carnwath gymalau prawf ar gyfer penderfynu pa bryd y bydd olew iro gwastraff yn peidio â bod yn wastraff
    • bydd yn rhaid i’r defnydd sy’n deillio fod yn amlwg yn wahanol ac yn farchnadadwy; a
    • gellir ei ddefnyddio yn union yr un ffordd a’r deunydd cyffredin y mae’n ei ddisodli; ac
    • nid yw ei effaith ar yr amgylchedd yn waeth na’r deunydd cyffredin

Mae Llwyodraeth Cymru a DEFRA wedi paratoi canllawiau ar y cyd ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill sy’n penderfynu’n ddyddiol a yw rhywbeth yn wastraff ai peidio. Dylai busnesau a sefydliadau eraill gyfeirio at y ddogfen hon  i benderfynu a yw eu defnyddiau wedi peidio â bod yn wastraff.

Diweddarwyd ddiwethaf