Cyngor Cadwraeth ar gyfer Safleoedd Morol Ewropeaidd (Rheoliad 37)

Pam fod angen rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig?

Er mwyn gwarchod ein cynefinoedd a’n rhywogaethau morol anhygoel, ac i sicrhau dyfodol i’r holl ddiwydiannau sy’n ddibynnol ar ein moroedd, mae’n hanfodol bod defnydd o’r amgylchedd morol yn cael ei reoli.

Mae arfordiroedd a moroedd Cymru yn cynnal ystod eang o gynefinoedd a rhywogaethau, maent yn cynhyrchu incwm i’r economi Gymreig ac yn rhan allweddol o’n diwylliant, ein hanes, a’n tirwedd.

Ein rôl ni wrth gynnig cyngor cadwraeth

Cynhyrchir cyngor cadwraeth fel rhan o reol 37 (3) o’r Rheoliadau Cynefinoedd. Mae’r rheoliad yn datgan cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl i safle gael ei benodi’n safle morol Ewropeaidd, dylai’r corff cadwraethol priodol gynghori’r awdurdodau perthnasol ynglŷn ag-

  • yr amcanion cadwraethol ar gyfer y safle; ac
  • unrhyw weithgareddau allai achosi dirywiad yn y cynefinoedd naturiol sy’n gysylltiedig â’r safle, neu gynefinoedd y rhywogaethau sy’n gysylltiedig â’r safle, neu darfu ar y rhywogaethau hynny

Cynhyrchwyd y set gyntaf o gyngor cadwraeth ar gyfer ein safleoedd yn 2003/04, a’r ail set yn 2009. Mae’r fersiynau diweddaraf a gyhoeddwyd yn 2017 a 2018 yn ddiweddariadau o gyngor 2009 er mwyn cynnwys newidiadau yn yr awdurdod cymwys a newidiadau deddfwriaeth.

Cyngor ar weithredoedd

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd hefyd yn galw ar CNC i ddarparu gwybodaeth ar weithredoedd allai beri difrod i nodwedd neu nodweddion safle. Mae’r wybodaeth yn cael ei gynnwys o fewn y pecyn cyngor cadwraeth (Dogfen Rheoliad 37).

Cyngor ar Reoliad 37

Gall ein pecynnau cyngor cadwraeth fod yn ddefnyddiol os ydych yn:

  • Datblygu, cynnig, neu asesu gweithgaredd, cynllun, neu brosiect allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig Safle Morol Ewropeaidd (EMS)
  • Paratoi Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd neu Asesiadau Effaith ar yr Amgylchedd ar gyfer cynlluniau neu brosiectau arfaethedig allai effeithio ar nodweddion yr EMS
  • Cynllunio mesurau i gynnal neu adfer EMS a’i nodweddion gwarchodedig
  • Gwneud unrhyw weithred allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig yr EMS ac angen gwybod sut i weithredu yn unol â’r gyfraith; neu
  • Monitro a/neu asesu cyflwr y nodweddion gwarchodedig

Mae digon o wybodaeth ar gael ynglŷn â chyngor cadwraeth i ddatblygwyr. Mae’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol ar eu gwefan.

Ardal Morol Gawrchodedig Dogfen Rheoliad 37 Map JNCC

ACA Afon Menai a Bae Conwy

Afon Menai a Bae Conwy  - Dogfen Rheoliad 37

Map - Afon Menai a Bae Conwy

Afon Menai a Bae Conwy (gwefan JNCC)

ACA Penrhyn Llŷn a’r Sarnau

Penrhyn Llŷn a’r Sarnau - Dogfen Rheoliad 37

Map - Penrhyn Llŷn a’r Sarnau

ACA Penrhyn Llŷn a’r Sarnau (gwefan JNCC)

ACA Bae Ceredigion

Bae Ceredigion -  Dogfen Rheoliad 37

Map - Bae Ceredigion

ACA Bae Ceredigion (gwefan JNCC) 

ACA Sir Benfro Forol

Sir Benfro Forol - Dogfen Rheoliad 37

Map - Sir Benfro Forol

ACA Sir Benfro Forol (gwefan JNCC)

ACA Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd

Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd -  Dogfen Rheoliad 37

Map - Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd 

ACA Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd (gwefan JNCC)

AGA Gogledd Bae Ceredigion 

Gogledd Bae Ceredigion -Dogfen Rheoliad 37

Map - Gogledd Bae Ceredigion

Ffurflen ddata safonol (Gwefan JNCC)

 

Diweddarwyd ddiwethaf