Gwneud cais am drwydded bwrpasol ar gyfer safle

Cyn i chi wneud cais

Bydd angen i chi ymgeisio am drwydded arbennig os yw Atodlen 1 y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 yn berthnasol i chi fel y'u disgrifir ar yr hafan safleoedd. Mae'r ddolen 'Oes angen i mi wneud cais am drwydded neu gofrestru eithriad' yn rhoi manylion y gwahanol sectorau lle gallai'ch gweithgarwch fod yn berthnasol.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon fe gewch ffurflenni cais ar gyfer trwydded bwrpasol newydd a'r nodiadau canllaw i'ch helpu i gwblhau'r ffurflenni cais. Rhaid i chi lenwi rhan A ac F a chwblhau'r adrannau priodol yn rhan B.

Nodwch

Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r bocsys priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.

Er mwyn cyfrifo faint sydd angen i chi ei dalu, bydd angen i chi gwblhau'r Offeryn Tâl. Mae'r offeryn yn cynnwys canllawiau ar sut i'w gwblhau, ond os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost ymholiadau cyffredinol isod."

Bydd angen i chi hefyd gwblhau taenlen OPRA i gyfrifo eich tâl cynhaliaeth blynyddol.

Sut i dalu

Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Trosglwyddiad BACS i:

Enw'r wwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Bwlch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Lundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438​

Ffioedd a thaliadau

Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl trwyddedau amgylcheddol

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000 

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.

Diweddarwyd ddiwethaf