Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Mr Andrew Williams

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-023989
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Cryno
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Ty Ucha Caravan Park, Heol Maes Mawr, Llangollen, Sir Ddinbych, LL20 7PP
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SJ 23314 41507
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Nant Caregan
Math o elifiant: Elifiant carthion triniedig
Cyfaint: 10 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 28 Mai 2024.

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf