Lefelau’r gwasanaeth trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru

Ers 1 Ebrill 2013 daeth yr holl ddyletswyddau trwyddedu (golyga hynny unrhyw gofrestriad, eithriad, cymeradwyaeth, caniatâd, trwydded, cydsyniad neu unrhyw awdurdodiad arall), a oedd yn gyfrifoldeb Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth Cymru i’w rheoleiddio ac, mewn rhai ardaloedd, Llywodraeth Cymru, o dan gylch gorchwyl Cyfoeth Naturiol Cymru.

Golyga’r newid hwn y bydd cwsmeriaid yn cael un ymateb clir a sengl i geisiadau trwydded ac na fydd yn rhaid ymgeisio i nifer o sefydliadau gwahanol ynghylch rhai gweithgareddau.

Monitro perfformiad

Byddwn yn monitro perfformiad rheoleiddio’n glos iawn ac yn darparu gwasanaeth o ansawdd da as fydd yn cyfarfod â gofynion yr amgylchedd a busnesau yng Nghymru. Mae manylion yn Nhabl 1 o lawer o’r cyfundrefnau rheoleiddio rydym yn gyfrifol amdanynt ac o’r cyfnodau amser y byddwn yn cadw atynt.

Cyfnodau amser

Os byddwch angen penderfyniad ar gais mewn llai o amser na’r cyfnod yn Nhabl 1, trafodwch gyda ni wrth gyflwyno’r cais.

Rydym yn argymell eich bod yn ymgeisio am drwyddedau mewn da bryd (yn ddelfrydol ar ôl cael cyngor cyn ymgeisio gennym ni), gan gyflwyno’r holl wybodaeth angenrheidiol a chan gadw’r cyfnodau amser penderfynu mewn cof. Efallai bydd ceisiadau cymhleth, sydd o gryn ddiddordeb cyhoeddus neu a allai gael cryn effaith ar leoliad sensitif, yn gofyn am gyfnod hirach i’w penderfynu nag sydd yn Nabl 1.

Rheoli’ch cais

Pan fyddwch yn cyflwyno cais i ni am drwydded, bydd un o’n swyddogion a fydd yn gyfrifol am benderfynu'ch cais yn cysylltu â chi. Bydd y swyddog hwnnw’n egluro wrthych sut y bydd y cais yn cael ei brosesu, sut y gallwch chi gysylltu a beth yw’r terfynau amser ar gyfer penderfynu. Bydd y swyddog hefyd yn trafod eich disgwyliadau gyda chi.

Byddwch yn cael gwybod hynt eich cais gydol y broses benderfynu fel eich bod yn ymwybodol o sut y mae’ch cais yn symud yn ei flaen.

Tabl 1. Cyfnodau amser statudol ar gyfer penderfynu

Trwydded/Cydsyniad/Awdurdodiad

Cyfnod Penderfynu Statudol neu Lefel Gwasanaeth

Math o drwydded

Trwydded Bwrpasol Gwastraff

4 mis (Statudol)

Gwastraff

Trwydded Rheol Safonol Gwastraff

3 mis (Statudol)

Gwastraff

Amrywiad Trwydded Gwastraff

3 mis neu 4 mis gydag ymgynghoriad (Statudol)

Gwastraff

Trosglwyddo Trwydded Gwastraff

2 fis (Statudol)

Gwastraff

Ildio Trwydded Gwastraff

3 mis (Statudol)

Gwastraff

Cyfleusterau Gwastraff Mwyngloddio – Categori A

9 mis (Statudol)

Gwastraff

Defnyddio Offer Symudol

25 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Gwastraff

Asesiad cynllun adfer gwastraff

25 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Gwastraff

Trwydded Bwrpasol Newydd o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol

4 mis (Statudol)

Gosodiadau

Trwydded Rheolau Safonol o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol

3 mis (Statudol)

Gosodiadau

Amrywio trwydded o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol

3 mis (Statudol)

Gosodiadau

Ildio trwydded o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol

3 mis (Statudol)

Gosodiadau

Trosglwyddo trwydded o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol

2 fis (Statudol)

Gosodiadau

Trwydded Bwrpasol Gosodiad

4 mis (Statudol)

Gosodiadau

Amrywiad sylweddol – gosodiad

4 mis (Statudol)

Gosodiadau

Trwydded Rheolau Safonol Gosodiad

3 mis (Statudol)

Gosodiadau

Amrywiad Trwydded – Gosodiad

3 mis (Statudol)

Gosodiadau

Ildio Trwydded Gosodiad

3 mis (Statudol)

Gosodiadau

Trosglwyddo Trwydded Gosodiad

2 fis (Statudol)

Gosodiadau

Trwydded bwrpasol ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig

4 mis (Statudol)

Gosodiadau

Trwydded rheolau safonol ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig

3 mis (Statudol)

Gosodiadau

Amrywio trwydded ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig

3 mis (Statudol)

Gosodiadau

Amrywiad sylweddol ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig

4 mis (Statudol)

Gosodiadau

Trosglwyddo trwydded ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig

2 fis (Statudol)

Gosodiadau

Ildio trwydded ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig

3 mis (Statudol)

Gosodiadau

Trwyddedau Cwympo Coed

91 diwrnod (13 wythnos) (Statudol)

Coedwigaeth

Penderfyniadau o dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth)

28  diwrnod gwaith (Statudol)

Coedwigaeth

Cynllun Rheoli Coedwig

91 diwrnod (13 wythnos) (Statudol)

Coedwigaeth

Trwydded Rhywogaethau a Warchodir  

30 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwydded Rhywogaethau

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop – datblygiad, prosiectau cadwraeth a choedwigaeth 

40 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwydded Rhywogaethau

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop – diogelu iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd 

30  diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

TrwyddedRhywogaethau

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop (Morol) 

40 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwydded  Rhywogaethau

Trwydded rheoli adar – diogelu iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, diogelu pysgodfeydd, gwarchod adar gwyllt, diogelu cnydau, stoc, bwydydd ar gyfer stoc, neu atal clefyd rhag lledaenu 

40 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwydded  Rhywogaethau

Trwydded moch daear at ddiben datblygiad 

40 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwydded  Rhywogaethau

Trwydded Rhywogaethau a Warchodir – diwygiad (syml) 

15 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwydded  Rhywogaethau

Trwydded Rhywogaethau a Warchodir – diwygiad (cymhleth) 

30 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwydded  Rhywogaethau

System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Cronfa Newydd-ddyfodiaid (Ehangu Capasiti’n Sylweddol)

2 fis 

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Adolygiad o Newidiadau Lefel Gweithgaredd System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd 

4 mis

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Adolygiad o Fonitro Allyriadau Blynyddol System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd 

4 mis

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Mân Amrywiad  

2 fis

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Amrywiad Sylweddol  

2 fis  

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Trosglwyddiad  

2 fis  

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Trosglwyddo Cyfuniad  

2 fis 

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Ildiad  

2 fis  

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Dirymiad  

2 fis 

Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir

System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Hysbysiad  

6 wythnos   

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Adnoddau Dŵr – Ynni Trydan Dŵr

4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu (Statudol)

Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr – Tynnu Dŵr

4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu (Statudol)

Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr – Cronni Dŵr

4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu (Statudol)

Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr – Trwydded Dros Dro

20 diwrnod gwaith (Statudol)

Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr – Trwydded Drosiannol (awdurdodiadau newydd)

Yn ystod y cyfnod 01 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2022

Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr – Dirymu Trwydded Tynnu Dŵr

20 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr – Dirymu Trwydded Cronni Dŵr

20 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr – Gweinyddu Amrywiad, gan gynnwys rhaniadau

20 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Adnoddau Dŵr

Trosglwyddo Deiliad Trwydded a breinio trwydded

20 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr – Tariff Dwy Ran

20 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr – Cyn Ymgeisio (ynni dŵr)

45 diwrnod gwaith (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr – Cyn Ymgeisio (nad yw'n ynni dŵr)

45 diwrnod gwaith  (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Adnoddau Dŵr

Adnoddau Dŵr – Cydsyniad Ymchwilio Dŵr Daear

45 diwrnod gwaith  (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Adnoddau Dŵr

Gwasgaru Pwrpasol ar Dir (Dip Defaid)

4 mis (Statudol)

Ansawdd Dŵr

Gwasgaru ar Dir (Dip Defaid) – Amrywiad

4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu (Statudol)

Ansawdd Dŵr

Ildio Trwydded

20 diwrnod gwaith (Statudol)

Ansawdd Dŵr

Trosglwyddo Trwydded

20 diwrnod gwaith (Statudol)

Ansawdd Dŵr

Amrywio Trwydded

4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu (Statudol)

Ansawdd Dŵr

Amrywiad Trwydded – Gweinyddol

3 mis (Statudol)

Ansawdd Dŵr

Trwydded Bwrpasol

4 mis (Statudol)

Ansawdd Dŵr

Deddf y Diwydiant Dŵr 166a

7 a 14 o ddiwrnodau (Statudol)

Ansawdd Dŵr

Deddf y Diwydiant Dŵr 166b

3 mis (Statudol)

Ansawdd Dŵr

Trwydded Rheolau Safonol

3 mis (Statudol)

Ansawdd Dŵr

Trwyddedau Morol – Band 2

4 mis (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwyddedau Morol

Trwyddedau Morol – Band 1

6 wythnos (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwyddedau Morol

Amrywiad 1 (gweinyddol)

21 diwrnod (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwyddedau Morol

Amrywiad 2 (cymhleth) (B2)

4 mis (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwyddedau Morol

Amrywiad 3 (arferol)

8 wythnos (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwyddedau Morol

Trosglwyddo – Amrywiad

21 diwrnod (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwyddedau Morol

Cais am Gynllun Samplau

4 wythnos (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwyddedau Morol

Rhyddhau amodau – Band 2

6 wythnos (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwyddedau Morol

Cymeradwyaeth monitro

8 wythnos (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwyddedau Morol

Barn Sgrinio

90  diwrnod (Statudol)

Trwyddedau Morol

Barn Gwmpasu

90 diwrnod (Cytundeb Lefel Gwasanaeth)

Trwyddedau Morol

Trwydded gweithgarwch perygl llifogydd

2 mis (Statudol)

Gweithgareddau perygl llifogydd

Caniatadau Draenio Tir

2 fis (statudol) 

Rheoleiddio Ardaloedd Draenio Mewnol

 

Diweddarwyd ddiwethaf