Rhif trwydded: GEN / WCA / 009 / 2024
Yn ddilys o: 1 Ionawr 2024
Dod i ben: 31 Rhagfyr 2024

Trwydded i ryddhau adar ar atodlen 9 sydd wedi bridio yn y gwyllt.

Mae’r drwydded hon, a roddwyd o dan Adran 16 (4) (c) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), gan y Corff Adnoddau Naturiol Cymru elwir fel arall yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn fodlon bod o ran y diben a nodir ym mharagraff 2 nad oes ateb boddhaol arall, trwyddedir personau awdurdodedig i gyflawni amrywiaeth o weithgareddau yn erbyn adar o'r rhywogaeth rhestredig a drwy hyn yn awdurdodi y drwydded a ganlyn sy'n gymwys yn unig yng Nghymru.

Mae'r drwydded hon yn caniatáu ail-ryddhau yr adar canlynol sydd wedi bridio yn gwyllt a restrir yn at ddibenion cadwraeth.

Enw cyffredin

Enw gwyddonol

Bran goes-goch Pyrrhocorax pyrrhocorax
Gwalch marth Accipiter gentilis
Barcyd Coch Milvus milvus
Tylluan wen Tyto alba

lle maent wedi:

  • cymryd at ddibenion tueddu a rhyddhau i'r gwyllt unwaith y bydd yr aderyn
    wedi ailsefydlu, neu
  • dal yn ddamweiniol mewn trap neu rwyd a osodwyd yn gyfreithlon ar gyfer
    rhywogaethau arall, neu
  • cymryd dros dro o dan awdurdod trwydded NRW (ee i fodrwyo neu archwilio)

Mae'r gwaith a nodwyd uchod wedi eu drwyddedu ar gyfer y cyfnod a nodir uchod, ac yn cael eu ganiatáu yn amodol ar gydymffurfio â'r amodau fel a nodwyd. Gall unrhyw beth a wnaed heb fod yn unol â thelerau'r drwydded fod yn drosedd.

Iwan G. Hughes, Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau
Llofnodwyd ar gyfer ac ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

Amodau

1. Gellir dim ond dibynnu ar y drwydded hon lle nad yw'r anifail a ryddhawyd wedi ei gymryd gan weithred anghyfreithlon.

2. Mae'r drwydded hon yn berthnasol yn unig i'r rhywogaeth a restrwyd a'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 2.

3. Rhaid i adar cael eu rhyddhau neu eu disodli mor agos â phosibl at y lleoliad lle cawsant eu cymryd neu'n hatal, ond gall gael ei ryddhau hyd at un cilomedr o'r lle hwn os nad rhyddhau yn y lleoliad ffynhonnell yn bosibl, neu na fyddai'n ddiogel.

4. Mae'n ofynnol cael caniatâd neu awdurdod y tirfeddiannwr y lleoliad ryddhau ymlaen llaw cyn rhyddhau, oni bai bod yr anifail yn cael ei ryddhau yn syth ar ôl cymryd ac yn yr un lleoliad o ble y cafodd ei gymryd.

5. Rhaid cydymffurfio a pob ddeddfwriaeth lles anifeiliaid berthnasol bob amser, gan gynnwys Deddf Lles Anifeiliaid 2006.

6. Efallai y bydd methu â gweithredu yn unol â diben y drwydded fel y’i nodir ym mharagraff 2, neu fethu â chydymffurfio â’r telerau a’r amodau, yn golygu na ellir dibynnu ar y drwydded ac o’r herwydd gallai tramgwydd gael ei gyflawni. Y gosb uchaf sydd ar gael ar gyfer tramgwydd o dan y Ddeddf yw dirwy lefel 5 (£5,000) a/neu ddedfryd o chwe mis yn y carchar.

7. Ni chaniateir i unrhyw berson a gollfarnwyd o dramgwydd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo ddefnyddio’r drwydded hon oni bai, mewn perthynas â’r tramgwydd hwnnw, naill ai iddo (1) gael ei ryddhau gyda rhybudd, neu (2) ei fod yn berson wedi’i adsefydlu at ddibenion Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 ac yr ystyrir bod y gollfarn wedi’i disbyddu. Caniateir i berson ddefnyddio’r drwydded hon hefyd os, mewn perthynas â thramgwydd o’r fath, y bydd Llys wedi gwneud gorchymyn yn ei ryddhau’n gyfan gwbl. Mae'r paragraff hwn yn berthnasol i droseddau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Ceirw 1991, Deddf (Gwarchod) Mamolion Gwylltion 1996, Deddf Hela 2004, Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaeth 2017, Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (i gyd fel y'u diwygiwyd). 

Nodiadau

1. Cyhoeddwyd trwydded mewn termau tebyg gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a Gweithrediaeth yr Alban.

2. Gall y drwydded hon gael ei newid neu ei dirymu ar unrhyw bryd.

Diffiniadau

Yn y drwydded hon ystyr " bridio yn y gwyllt" yw aderyn na chafodd ei bridio mewn caethiwed o fewn ystyr Adran 27(2) o’r Ddeddf.

Diweddarwyd ddiwethaf