Rhif trwydded: GEN / WCA / 012 / 2024
Yn ddilys o: 1 Ionawr 2024
Dod i ben: 31 Rhagfyr 2024

Trwydded i werthu adar marw.

Mae’r drwydded hon, a roddwyd o dan Adran 16 (4) (a) 16(5) and 16(5)(a) o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), gan y Corff Adnoddau Naturiol Cymru elwir fel arall yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) , yn fodlon bod o ran y diben a nodir ym mharagraff 1 nad oes ateb boddhaol arall, trwyddedir personau awdurdodedig i gyflawni amrywiaeth o weithgareddau yn erbyn adar o'r rhywogaeth rhestredig a drwy hyn yn awdurdodi y drwydded a ganlyn sy'n gymwys yn unig yng Nghymru.

1. Diben y drwydded hon yn ddarostyngedig i’r canllawiau isod yw:

    • i. werthu (gan gynnwys hurio, ffeirio neu gyfnewid), cynnig neu arddangos ar gyfer gwerthu, meddu neu gludo ar gyfer gwerthu; a
    • ii. cyhoeddi neu achosi cyhoeddi unrhyw hysbyseb sy’n debygol o gael ei dehongli i olygu prynu neu werthu neu bwriadu prynu neu werthu;

unrhyw adar marw (neu rhan o adar marw) a nodir ym mharagraff 2 a 3 islaw.

2. Pob maser unrhyw aderyn gwyllt

(a) Adar a rhestrir ar Rhan 1 o Atodlen 2, Rhan 2 neu 3 o Atodlen 3 o’r ddeddf, neu;

(b) Gŵydd Wyran Branta leucopsis ;

(c) Gŵydd Dalcen-wen (yr Ynys Las) Anser albifrons flavirostris.

3. Rhwng 1 Mawrth a 31 Awst – unrhyw aderyn a rhestrir ar Rhan III o Atodlen 3 or ddeddf (mae hawl gwerthu yr adar yma ar adegau eraill drwy’r flwyddyn o dan y ddeddf).

Mae'r gwaith a nodwyd uchod wedi eu drwyddedu ar gyfer y cyfnod a nodir uchod, ac yn cael eu ganiatáu yn amodol ar gydymffurfio â'r amodau fel a nodwyd. Gall unrhyw beth a wnaed heb fod yn unol â thelerau'r drwydded fod yn drosedd.

Iwan G. Hughes, Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau
Llofnodwyd ar gyfer ac ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

Amodau

1. Nid yw’r drwydded hon yn gymwys i adar sy’n cael eu gwerthu i bobl eu bwyta.

2. Nid yw’r drwydded hon yn gymwys ond i werthu niferoedd bach o adar marw, neu unrhyw ran neu gynnyrch o’r cyfryw adar marw:

(a) a gafodd eu bridio mewn caethiwed. Rhaid peidio â thrin aderyn fel un sydd wedi’i fridio mewn caethiwed oni bai bod ei rieni mewn caethiwed cyfreithlon pan ddodwyd yr wˆ y y deorodd ohono. Rhaid darparu tystiolaeth ddogfennol bod yr aderyn wedi’i fridio mewn caethiwed wrth werthu unrhyw aderyn, neu

(b) a dynnwyd o’r cyflwr naturiol o fewn y Deyrnas Unedig o dan y darpariaethau cyfreithiol sydd mewn grym yn y Deyrnas Unedig. Rhaid darparu tystiolaeth ddogfennol bod yr aderyn wedi’i dynnu’n gyfreithlon o’r cyflwr naturiol wrth werthu unrhyw eitem.

(c) a restrwyd yn Atodiad A o Reoliad (EC) Rhif 338/97 y Cyngor, a lle mae’n briodol cafwyd tystysgrif Erthygl 10 gyntaf.

3. Rhaid i unrhyw berson sy’n gwerthu aderyn marw, neu ran neu gynnyrch o aderyn marw o’r fath, o dan y drwydded hon (“y gwerthwr”) gadw cofnod (“y cofnod”), am o leiaf dwy flynedd ar ôl gwerthiant o’r fath.

(a) Rhaid i’r cofnod hwn gynnwys manylion:

(i) y person y cafodd y gwerthwr yr aderyn neu ran neu gynnyrch o’r cyfryw aderyn oddi wrtho;
(ii) y person y gwerthwyd yr aderyn neu ran neu gynnyrch o’r cyfryw aderyn iddo; ac
(iii) rhywogaeth yr aderyn a werthwyd, achos y farwolaeth (os yw’n hysbys) ac oed yr aderyn.

(b) Rhaid i’r gwerthwr ardystio bod y cofnod yn gywir.

(c) Rhaid i’r gwerthwr, ar ôl cael hysbysiad ysgrifenedig rhesymol oddi wrth Llywodraeth Cymru, ddangos y cofnod i berson sydd wedi’i awdurdodi’n ysgrifenedig gan Llywodraeth Cymru a rhaid hefyd i’r gwerthwr ganiatáu i’r cyfryw berson awdurdodedig archwilio’r cofnod.

4. Rhaid i’r gwerthwr gyflwyno adroddiad i Gyfoeth Naturiol Cymru erbyn 31ain Rhagfyr bob blwyddyn yn rhoi manylion unrhyw werthiant ganddo yn y flwyddyn honno o unrhyw aderyn marw neu ran neu gynnyrch o’r cyfryw aderyn marw nad yw yn y naill achos na’r llall wedi’i werthu o’r blaen. Rhaid hefyd i’r adroddiad:

(a) dweud sut y cafodd y gwerthwr bob aderyn o’r fath neu bob rhan neu gynnyrch o aderyn o fath; a

(b) rhestru’r math a’r nifer o bob rhywogaeth a werthwyd.

5. Ni chaniateir i unrhyw berson a gollfarnwyd o dramgwydd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo ddefnyddio’r drwydded hon oni bai, mewn perthynas â’r tramgwydd hwnnw, naill ai iddo (1) gael ei ryddhau gyda rhybudd, neu (2) ei fod yn berson wedi’i adsefydlu at ddibenion Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 ac yr ystyrir bod y gollfarn wedi’i disbyddu. Caniateir i berson ddefnyddio’r drwydded hon hefyd os, mewn perthynas â thramgwydd o’r fath, y bydd Llys wedi gwneud gorchymyn yn ei ryddhau’n gyfan gwbl. Mae'r paragraff hwn yn berthnasol i droseddau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Ceirw 1991, Deddf (Gwarchod) Mamolion Gwylltion 1996, Deddf Hela 2004, Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaeth 2010, Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (i gyd fel y'u diwygiwyd).

6.  Bydd methu â gweithredu yn unol â diben y drwydded fel y’i nodir ym mharagraff 1, neu fethu â chydymffurfio â thelerau ac amodau’r drwydded, yn golygu na ellir dibynnu ar y drwydded ac o’r herwydd gallai tramgwydd gael ei gyflawni. Y gosb uchaf sydd ar gael ar gyfer tramgwydd o dan y Ddeddf yw dirwy lefel 5 (£5000) a/neu ddedfryd o chwe mis yn y carchar.

Nodiadau

1. Cyhoeddwyd trwydded mewn termau tebyg gan Natural England, mewn perthynas â Lloegr a chan Weithrediaeth yr Alban mewn perthynas â’r Alban.

2. Gall y drwydded yma gael ei newid neu ei dirymu ar unrhyw bryd.​

Diweddarwyd ddiwethaf