Rhif y Drwydded: GEN / WCA / 018 / 2019
Yn ddilys o: 1 Chwefror 2019
Dod i ben: 31 Rhagfyr 2024

Trwydded i feddu ar sbesimenau marw at ddibenion gwaith ymchwil ac addysgol ac at ddibenion unrhyw arddangosfa gyhoeddus.

Mae'r drwydded hon, a gyflwynir o dan Adran 16 (1) (a) ac (f) ac 16 (5) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990) gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, a adnabyddir fel arall fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn rhoi caniatâd i'r amgueddfeydd hynny a restrwyd yn Atodiad A wneud y canlynol:

meddu ar sbesimenau marw (gan gynnwys rhannau neu ddarnau a ddeillir ohonynt) o unrhyw rywogaeth o adar a ddiogelir gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), a’u cludo a'u harddangos yn gyhoeddus.

Mae gan yr amgueddfeydd hynny a restrwyd yn Atodiad A yr awdurdod i fod ym meddiant, arddangos,
cyfnewid, benthyg, llogi a chludo sbesimenau sydd wedi eu derbyn gan yr amgueddfeydd a restrwyd yn
Atodiad A, gan fynd ati â diwydrwydd dyladwy a chyda Dogfen Trosglwyddo Teitl neu Ffurflen Cofnodi
Gwrthrych.

Mae'r drwydded hon yn rhoi'r awdurdod i feddu ar sbesimenau o fewn casgliadau a roddwyd,
a gedwir tan iddynt gael eu harchwilio'n llawn, a sbesimenau y gellid cael eu cynnig i'r amgueddfeydd
hynny a restrwyd yn Atodiad A o ganlyniad i ymchwiliadau. Gallai sbesimenau sydd wedi eu casglu'n
anghyfreithlon a'u fforffedu o ganlyniad i erlyniad gael eu cadw gan yr amgueddfeydd hynny a restrwyd
yn Atodiad A.

Mae'r gweithgareddau a nodir uchod dan drwydded dros y cyfnod a nodir uchod a chânt eu caniatáu yn
unol â chydymffurfio â'r amodau fel y'u nodwyd. Gallai unrhyw beth arall a wneir nad yw'n cyd-fynd ag
amodau'r drwydded gael ei ystyried yn drosedd.

Iwan G. Hughes, Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau
Wedi ei llofnodi ar gyfer ac ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru

Amodau

1. Dim ond y sefydliadau a restrwyd yn Atodiad A a'u cyflogeion, is-gontractwyr, cludwyr a gwasanaethau post sy'n gweithredu ar eu rhan a ddiogelir o dan y drwydded hon.

2. Mae'r drwydded hon dim ond yn awdurdodi sefydliadau i fod ym meddiant ac i gludo sbesimenau a/neu rannau sy'n deillio o rywogaethau adar a ddiogelir gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd)

a) sy'n cael eu cadw a'u cludo at ddibenion gwyddoniaeth neu addysg neu at ddibenion unrhyw arddangosfa gyhoeddus; a

b) sydd wedi eu cymryd o'r gwyllt yn y Gymuned Ewropeaidd, heb dorri deddfwriaeth berthnasol yr aelod-wladwriaeth dan sylw (gweler Nodyn 1).

3. Bydd pob amgueddfa a restrwyd yn Atodiad A yn enwebu "unigolyn penodedig" i oruchwylio'r defnydd o'r drwydded hon. Yr "unigolyn penodedig" yw cyflogai sy'n cael ei enwebu i weithredu fel un pwynt cyswllt ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r drwydded hon. Disgwylir i'r unigolyn penodedig oruchwylio'r defnydd o'r drwydded, gan gynnwys awdurdodi cyflogeion i weithredu o dan y drwydded, hyfforddiant, cadw cofnodion a chydymffurfio.

4. Bydd yr "unigolyn penodedig" ym mhob amgueddfa yn gyfrifol am bob gweithgaredd a gyflawnir o dan y drwydded hon, gan gynnwys gweithgareddau a gyflawnir gan ei chyflogeion.

5. Gall y drwydded hon gael ei defnyddio gan gyflogeion yr amgueddfeydd penodol a restrwyd yn Atodiad A, ond dim ond pan fyddant yn cyflawni busnes swyddogol yr amgueddfa honno. Mae "cyflogeion" yn cyfeirio at bobl sy'n gweithio'n barhaol neu dros dro i'r amgueddfeydd a restrwyd yn Atodiad A, ac mae hefyd yn cynnwys pobl a gaiff eu his-gontractio gan yr amgueddfeydd hynny pan fyddant yn gweithredu ar ran yr amgueddfeydd. Nid yw'r drwydded yn rhoi awdurdod i gyflogeion fod ym meddiant, cludo neu arddangos sbesimenau at eu dibenion personol eu hunain.

6. Rhaid i'r "unigolyn penodedig" feddu ar wybodaeth a phrofiad priodol, a dylai sicrhau, cyn belled â bod hynny'n rhesymol bosibl, fod gan y cyflogeion eraill sy'n defnyddio'r drwydded hon yr wybodaeth a'r profiad angenrheidiol hefyd. Dylai hyn gynnwys: adnabod y rhywogaethau a warchodir sydd wedi'u cynnwys yng nghwmpas y drwydded hon a chael gwybodaeth weithiol o'r Ddeddf, ynghyd â dealltwriaeth o droseddau y gallai gael eu cyflawni.

7. Cyfrifoldeb yr "unigolyn penodedig" yw sicrhau bod pob unigolyn awdurdodedig sy'n defnyddio'r drwydded yn cynnal ei arbenigedd ar lefel briodol i weithredu o dan y drwydded hon.

8. Mae'r drwydded hon yn awdurdodi unrhyw amgueddfa a restrwyd yn Atodiad A i fod ym meddiant unrhyw sbesimen a gynigir i'r casgliad gyda dogfen Trosglwyddo Teitl, waeth beth yw ei darddiad neu'r dyddiad y derbyniwyd ef. Gallai statws sbesimenau fod yn unrhyw un o'r canlynol:

  • Aros i gael ei archwilio'n llawn gyda phosibilrwydd o gael ei dderbyn yn ffurfiol i'r casgliad; neu,
  • Cael ei dderbyn yn llawn a'i gadw am byth o fewn y casgliad at ddibenion yr amgueddfa.

9. Rhaid cadw sbesimenau mewn lle sy'n eiddo i'r amgueddfeydd hynny a restrwyd yn Atodiad A neu mewn lle a feddiannir ganddynt, ond gellir eu rhoi ar fenthyg dros dro i amgueddfeydd eraill neu sefydliadau gwyddonol.

10. Gall yr "unigolyn penodedig" roi'r hawl i un o swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, gydag unrhyw bobl o'r fath y mae'n credu sydd eu hangen at y diben, yn unol â dangos tystiolaeth o bwy ydynt yn ôl y galw, gael mynediad rhesymol at gofnodion a sbesimenau a gasglwyd at ddibenion pennu a yw amodau'r drwydded hon yn cael eu dilyn neu wedi eu dilyn. Bydd y personél awdurdodedig yn rhoi pob cymorth rhesymol i swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru ac unrhyw un sydd gydag ef.

11. Bydd y trwyddedai'n sicrhau bod:

a. Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei hysbysu o unrhyw ddeunydd a gynigir i aelod o'r amgueddfa cyn derbyn yr eitemau.

b. pob casgliad a ddaw i mewn a'i dderbyn gan yr amgueddfa'n cael ei gofnodi'n briodol a, lle y bo'n briodol, ei dderbyn mewn modd amserol o dan y ddarpariaeth a wnaed gan Ddeddf Amgueddfa Brydeinig 1963.

c. rhaid i bob sbesimen a gedwir o dan y drwydded hon gael ei gatalogio, a rhaid cadw cofrestr barhaol a diweddaru hon bob blwyddyn. Rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael i'w harolygu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar unrhyw adeg resymol.

12. Bydd methiant i gydymffurfio â thelerau ac amodau'r drwydded hon (gan gynnwys y gofynion cofnodi) yn dirymu'r drwydded hon yn awtomatig, ac ni ellir dibynnu arni hyd oni chyfyd amser pan fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadarnhau yn ysgrifenedig y gellir ei defnyddio eto.

13. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn disgwyl cael ei hysbysu o bob toriad i'r drwydded hon, a rhaid i'r sefydliad trwyddedig gymryd y camau angenrheidiol i fynd i'r afael ag unrhyw doriadau neu arfer gwael a nodwyd. 

14. Yn unol ag Amod 15, rhaid i unrhyw sefydliad neu unigolyn sy'n dibynnu ar y drwydded hon yn  rhinwedd cael ei restru yn Atodiad A neu yn rhinwedd fod yn gyflogai neu'n is-gontractwr i sefydliad a restrwyd yn Atodiad A, hysbysu Tîm Diogelu Rhywogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru yn ysgrifenedig, gan roi ei fanylion cyswllt, gan gynnwys ei gyfeiriad e-bost, o fewn un mis i'r dyddiad y daeth y sbesimen i'w feddiant yn gyntaf.

15. Pan fydd amgueddfa wedi hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol ag Amod 14 uchod, ni fydd angen i'r rhai hynny sy'n dibynnu ar y drwydded hon yn rhinwedd fod yn gyflogeion neu'n is-gontractwyr hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru yn unigol.

16. Nid oes angen i gludwyr a gwasanaethau post hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru ar wahân na chadw cofrestr o sbesimenau pan fyddant yn gweithredu ar ran amgueddfa a restrwyd yn Atodiad A sydd wedi hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru fel y bo'n ofynnol yn Amod 14.

Nodiadau

N1. Mae'r drwydded hon yn ymdrin â bod ym meddiant sbesimenau a gymerwyd o'r gwyllt ar ôl y 'dyddiad perthnasol', heb fynd yn groes i unrhyw gyfraith berthnasol sydd gan yr aelod-wladwriaeth y cymerwyd ef ohoni. Yn y DU, er enghraifft, byddai hyn yn golygu heb fynd yn groes i ddeddfwriaeth bywyd gwyllt berthnasol fel Rheoliadau Cynefinoedd 1994, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Plâu 1954 a Deddf Lles Anifeiliaid 2007.

N2. O ran amodau sy'n ymwneud â Rhywogaethau a Warchodir yn Genedlaethol, caiff y trwyddedai ei atgoffa y gallai unrhyw beth a wneir nad yw'n cael ei gynnwys ac nad yw'n unol ag amodau'r drwydded hon olygu bod trosedd yn cael ei chyflawni o dan adrannau 1, 5, 6 (3), 7, 8, 9 (1 – 2), 9 (4 – 4A, 11 (1 – 2) ac 13 (1) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

N3. Gall y drwydded hon gael ei haddasu neu ei dirymu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar unrhyw adeg.

N4. Nid oes unrhyw ran o'r drwydded hon yn eithrio unrhyw ddarpariaeth sydd wedi'i chynnwys mewn unrhyw Ddeddf, heblaw am y Ddeddf/Deddfau y mae'r drwydded wedi'i chyflwyno oddi tani/tanynt. Pan fo'n briodol, dylid cael trwyddedau o'r Swyddfa Gartref er mwyn bodloni gofynion Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.

N5. Bydd yr wybodaeth bersonol ar y drwydded hon yn cael ei chadw a'i defnyddio gennym ni, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae'n bosibl y byddwn yn trafod cynnwys y drwydded gyda thrydydd partïon dewisol. Ar wahân i'r hyn a nodwyd uchod, ni fyddwn yn rhoi'r data personol ar y drwydded hon i drydydd partïon oni bai fod yna fuddiant cyhoeddus tra phwysig. Mae'r GDPR yn rhoi'r hawl i chi wybod pa ddata sydd gennym amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, i ba drydydd partïon y datgelir y data iddynt, a bod y data hwnnw yn gywir. Er mwyn manteisio ar yr hawl hon, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

N6. Rydych yn cytuno i lenwi adroddiad trwydded gyda manylion y cofnodion bioamrywiaeth gofynnol a gasglwyd mewn cysylltiad â'r drwydded hon. Rydym yn cael eich caniatâd i storio, copïo, defnyddio a rhyddhau neu gyhoeddi unrhyw gofnodion bioamrywiaeth sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r drwydded hon. Pan fydd ein polisi ar fynediad cyhoeddus i ddata yn nodi bod yr wybodaeth yn sensitif, bydd cyhoeddi a mynediad yn cael eu cyfyngu, yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a'n canllawiau ar fynediad i ddata ar nodweddion bioamrywiaeth sensitif. Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu'r cofnodion bioamrywiaeth a gyflwynir gyda sefydliadau cadwraeth o'n dewis ni. Pan fydd ein polisi ar fynediad cyhoeddus i ddata yn nodi bod yr wybodaeth yn sensitif, bydd unrhyw ryddhad o'r fath yn cael ei wneud o dan amodau trwydded cyfyngol, yn unol â'n canllawiau ar fynediad i ddata ar nodweddion bioamrywiaeth sensitif. Noder y bydd ffurflen annigonol yn niweidio ceisiadau am drwydded yn y dyfodol.

N7. Rhaid i gofnodion bioamrywiaeth sy'n gysylltiedig â chyhoeddiad y drwydded hon fod mor ddibynadwy a chywir â phosibl, a'u casglu gyda'r holl ganiatadau angenrheidiol.

N8. Rydym yn cydnabod y bydd cofnodion biolegol a gesglir mewn perthynas â'r drwydded hon, oni bai y cânt eu casglu o dan gontract (gyda darpariaethau eraill sy'n ymwneud â Hawliau Eiddo Deallusol) ar ein cyfer ni neu drydydd parti, yn parhau i fod yn eiddo deallusol i ddeiliad y drwydded. Byddwn yn ceisio cydnabod eiddo deallusol ym mhob achos, ac ni fyddwn yn defnyddio unrhyw gofnodion biolegol a gesglir o dan drwydded at ddibenion ar wahân i'r dibenion a nodwyd uchod. 

Atodiad A

Atodiad A
Y Fenni
Brycheiniog
Sir Gaerfyrddin
Cas-gwent
Ceredigion
Castell Cyfarthfa
Llanidloes/Powysland
Rhaeadr Gwy
Scolton Manor
Abertawe
Dinbych-y-pysgod

Diweddarwyd ddiwethaf