Trwyddedau madfallod dŵr cribog ar gyfer gwaith datblygu, seilwaith neu waith cynnal a chadw

Os ydych chi’n gwneud gwaith datblygu, seilwaith neu gynnal a chadw, bydd arnoch angen trwydded datblygu rhywogaethau ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar fadfallod dŵr cribog neu eu mannau gorffwys.

Beth i'w gynnwys yn eich cais

Bydd angen i'ch cais gynnwys y canlynol hefyd:

  • Eich ffurflen gais
  • Ein templed datganiad dull ar gyfer madfallod dŵr cribog
  • map lleoliad (yn ddelfrydol graddfa 1:10.000) sy'n dangos yr ardal lle mae'r broblem yn digwydd
  • cynlluniau a lluniadau manwl o safleoedd presennol a gwaith arfaethedig
  • adroddiad arolwg rhywogaethau
  • tystiolaeth i gefnogi diben y gwaith
  • copïau o unrhyw ganiatadau neu gydsyniadau sy'n gysylltiedig â'r cais
  • unrhyw ohebiaeth berthnasol os yw'r gwaith ar neu'n agos at safle dynodedig
  • asesiad rheoliadau cynefinoedd, os yw'n berthnasol

Adroddiad arolwg madfallod dŵr cribog

Bydd angen i chi gyflogi ecolegydd i gynnal arolwg ar eich rhan. Dylai’r ecolegydd gynnal yr arolwg gan ddilyn y canllaw i gamau lliniaru madfallod dŵr cribog.

Dylai’r ecolegydd ddarparu adroddiad ysgrifenedig o ganlyniadau’r asesiad i ddangos eich bod wedi ystyried madfallod dŵr cribog wrth gynllunio’r gwaith.

Mae’n rhaid i chi gynnal arolygon o byllau bridio i asesu presenoldeb madfallod ar yr adeg iawn o’r flwyddyn.

Dylai’r adroddiad gynnwys y canlynol:

  • pryd y cynhaliwyd y gwaith arolygu
  • sut y cynhaliwyd y gwaith arolygu
  • pwy a gynhaliodd yr arolwg
  • p’un a oes angen argymhellion ar gyfer unrhyw arolygon pellach
  • manylion am unrhyw waith lliniaru
  • argymhellion am bryd y dylid dechrau'r gwaith adeiladu
  • unrhyw waith monitro y dylid ei wneud ar ôl cwblhau'r gwaith

Mae'r arolwg yn ffurfio sail ar gyfer y datganiad dull sydd angen ei gyflwyno fel rhan o'r cais am drwydded.  

Pwy all wneud cais ar gyfer trwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Ffurflen geirda

Os nad ydych wedi meddu ar drwydded berthnasol gennym o’r blaen, rhaid i’ch cais gynnwys ffurflen geirda.

Rhaid i'r canolwyr:

  • allu rhoi sylwadau ar eu profiad o weithio gyda'r rhywogaethau perthnasol
  • gallu defnyddio'r dulliau a'r offer a gynigir yn eich cais am drwydded
  • bod yn gymwysedig eu hunain a rhaid eu bod wedi meddu ar drwydded berthnasol o’r blaen
  • bod â phrofiad o'ch gwaith am o leiaf un tymor arolwg

Dim ond un geirda y gallwn ei dderbyn gan y cwmni rydych chi'n gweithio iddo ar hyn o bryd. Efallai y byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr i wirio eu datganiadau.

Adroddwch eich gweithredoedd o dan drwydded

Rhaid i chi gwblhau ffurflen adrodd y drwydded ddatblygu bedair wythnos ar ôl y dyddiad mae’r drwydded i fod i ddod i ben.

Efallai y gofynnir i chi gyflwyno ffurflen archwilio cydymffurfiaeth ecolegol os ydych chi’n cynnig cynllun datblygu mawr, neu gynllun sydd â risg uwch ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig. Bydd y gofynion hyn yn un o amodau eich trwydded.

Gallai cynllun monitro priodol hefyd fod yn amod a rhaid cyflwyno canlyniadau gan ddefnyddio’r ffurflen adrodd ar fonitro’r drwydded.

Diwygio eich trwydded

Gallwch ofyn am ddiwygiadau i'ch trwydded gan ddefnyddio'r ffurflenni perthnasol.

Ffurflen gais i ddiwygio
Ffurflen newid trwyddedai
Ffurflen newid ecolegydd

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf