Trwyddedau madfallod dŵr cribog ar gyfer arolygon a gwaith cadwraeth

Bydd arnoch angen trwydded os ydych chi’n bwriadu cynnal unrhyw fath o waith arolygu, ymchwil neu gadwraeth os ydych chi am:

  • wneud unrhyw fath o waith ymchwil neu arolygu
  • darfu ar fadfallod dŵr cribog neu eu trin
  • difrodi, addasu neu rwystro mynediad at fan magu neu orffwys

Gwneud cais ar gyfer trwydded arolygu

Os hoffech gyflwyno cais am drwydded arolygu ac os nad ydych wedi meddu ar un o'r blaen, bydd angen i chi ddangos bod gennych yr hyfforddiant a'r profiad angenrheidiol. Bydd angen i chi anfon eich ffurflen gais am arolwg a thrwydded cadwraeth wedi’i chwblhau.

Ffurflen geirda

Os nad ydych wedi meddu ar drwydded berthnasol gennym o’r blaen, rhaid i’ch cais gynnwys ffurflen geirda.

Rhaid i'r canolwyr:

  • allu rhoi sylwadau ar eu profiad o weithio gyda'r rhywogaethau perthnasol
  • gallu defnyddio'r dulliau a'r offer a gynigir yn eich cais am drwydded
  • bod yn gymwys eu hunain a rhaid eu bod wedi dal trwydded berthnasol o'r blaen
  • bod â phrofiad o'ch gwaith am o leiaf un tymor arolwg

Dim ond un geirda y gallwn ei dderbyn gan y cwmni rydych chi'n gweithio iddo ar hyn o bryd. Efallai y byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr i wirio eu datganiadau.

Gwneud cais am drwydded ar gyfer prosiect ymchwil

Gallwn roi trwyddedau ar gyfer technegau marcio ac arolygu uwch, gan gynnwys:

  • tagiau olrhain trwy radio
  • microsglodynnu

Caiff trwyddedau eu dyrannu ar gyfer safleoedd penodol ac am gyfnod cyfyngedig. Mae trwyddedu'r technegau mwy ymosodol hyn yn gofyn am ddatganiad dull prosiect manwl a gwyddonol.

Os nad ydych wedi meddu ar drwydded o’r blaen ar gyfer y gweithgareddau, dulliau neu dechnegau y gofynnir amdanynt, bydd angen i chi ddangos prawf o hyfforddiant priodol a phrofiad sylweddol cyn y gellir rhoi trwydded.

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Adnewyddu eich trwydded ac adrodd ar eich gweithgareddau

Os ydych chi eisiau adnewyddu eich trwydded neu adrodd ar y gweithgareddau ydych chi wedi’u gwneud o dan eich trwydded, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais adrodd ac adnewyddu’r drwydded arolygu.

Diwygio eich trwydded

Gallwch ofyn am ddiwygiadau i'ch trwydded gan ddefnyddio'r ffurflenni perthnasol.

Ffurflen gais i ddiwygio
Ffurflen newid trwyddedai
Ffurflen newid ecolegydd

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf