Yr hyn y dylech ei wneud os ydych yn darganfod ystlumod yn eich cartref

Mae'n gyfreithiol symud ystlum o ardal fyw eich cartref, ond mae'n anghyfreithlon symud ystlum o lofft neu adeilad allanol.

Dod o hyd i ystlum yn eich eiddo

Os yw'r ystlum wedi hedfan i mewn i'ch tŷ a'i fod yn gallu hedfan, yna dylech agor ffenestri neu ddrysau allanol a diffodd goleuadau llachar. Dylai allu hedfan allan eto oni bai ei fod yn ystlum ifanc neu wedi'i anafu.

Os nad oes gan yr ystlum anafiadau, neu fod cath wedi dod ag ef i'r tŷ, efallai na fydd yn gallu hedfan. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â gofalwr ystlumod drwy'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod neu fynd â'r ystlum at y milfeddyg lleol. Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gymorth Ystlumod Genedlaethol ar 0345 1300 228.

Mae ystlum sy'n oedolyn llawn yn fach iawn - oddeutu maint blwch matsis. Caiff ystlumod ifainc eu geni rhwng mis Mai a mis Awst. Y tu allan i'r amser hwn, bydd unrhyw ystlum rydych yn dod o hyd iddo'n oedolyn.

Os byddwch yn dod o hyd i ystlum ifanc, dylech gael cyngor gan eich grŵp ystlumod lleol neu'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod. Byddant yn gallu cynnig cyngor ar sut i'w ddychwelyd i'w glwydfan i roi'r cyfle gorau posib iddo oroesi.

Os byddwch yn dod o hyd i fwy nag un ystlum, mae'n debygol bod clwydfan yn y tŷ a bod yr ystlumod ifainc yn colli eu ffyrdd ar gam. Dylech geisio cyngor gan eich grŵp Ystlumod lleol neu gysylltu â ni am gymorth.

Dod o hyd i ystlum yn ystod gwaith adeiladu

Os ydych yn dod o hyd i ystlum pan fo gwaith adeiladu'n mynd rhagddo, mae'n rhaid i chi atal y gwaith a chysylltu â ni am gyngor.

Cyngor i ddeiliaid tai am waith adeiladu ac ystlumod

Nid yw presenoldeb ystlumod yn eich eiddo'n eich atal rhag gwneud gwaith adfer na gwaith adeiladu.

Gweithiau bychain ac atgyweiriadau

Gall gweithiau bychain megis gosod inswleiddio llofft, trin pren a newid cwteri aflonyddu ystlumod. Gall y gwaith hwn hefyd ddifrodi eu clwydfannau neu rwystro mynediad i'r clwydfan. Gan ddibynnu ar y gwaith a'r math o glwydfan, efallai y byddwch yn gallu amseru'r gwaith i osgoi difrodi’r clwydfan nac aflonyddu'r ystlumod.

Os bydd y gwaith yn aflonyddu ar ystlumod neu'n difrodi safle'r clwydfan, gysylltu â ni cyn cychwyn ar y gwaith. Gallwn gynnig cyngor i ddeiliaid tai am weithiau bychain a gallwn helpu gyda chyflwyno cais am drwydded os oes angen un arnoch chi.

Gwaith adeiladu a datblygu sylweddol

Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith sylweddol yn eich eiddo megis gosod to newydd, trosi llofft neu godi estyniadau, dylech geisio cyngor yn gynnar. Os ydych yn gwybod fod gennych glwydfan, bydd angen i chi gael cyngor ecolegydd proffesiynol o ran dyluniad ac amseru'r gwaith.

Os oes angen caniatâd cynllunio am y gwaith, gall yr awdurdod cynllunio lleol ofyn am arolwg ystlumod. Mae'n rhaid i'r arolwg gael ei gynnal cyn y gallant ystyried eich cais.

Bydd angen i ecolegydd proffesiynol gynnal arolwg ystlumod yn ystod tymor gweithredol yr ystlumod, rhwng mis Mai a mis Medi. Fe'ch cynghorir i chi drafod eich cynigion gyda'ch ecolegydd cyn i chi ddechrau ar gynlluniau manwl.

Adrodd am glwydfan ystlumod

Gwarchodir yr holl rywogaethau ystlumod gan y gyfraith ond nid oes rheidrwydd i adrodd am glwydfan ystlumod, oni bai eich bod yn bwriadu gwneud gwaith a fydd yn effeithio arnynt.

Rydym yn annog pobl i anfon manylion gweld bywyd gwyllt i'w Canolfan Cofnodion Lleol.

Mae nifer yr ystlumod yn fy nghartref yn cynyddu

Rydych yn fwy tebygol o sylwi ar ystlumod yn eich cartref ar ddechrau'r haf. Dyma'r amser y mae'r ystlumod benywaidd yn casglu mewn clwydfannau mamolaeth i roi genedigaeth. Mae pob mam yn rhoi genedigaeth i un babi'r flwyddyn. Nid ydynt yn bridio fel llygod. Mae cytrefi'n dechrau gwahanu unwaith y gall y babanod hedfan, fel arfer rhywbryd ar ôl canol mis Awst. Mae ystlumod yn ffyddlon i'w safleoedd clwydo ac maent yn aml yn dychwelyd i'r un glwydfan ar yr un adeg bob blwyddyn.

Anaml iawn y mae ystlumod yn achosi difrod i eiddo

Mewn clwydfan ystlumod, mae ystlumod yn cuddio mewn tyllau bychain neu'n hongian o'r pren yn y to. Nid ydynt yn adeiladu nythod nac yn dod ag unrhyw ddeunyddiau creu nythod i'r ardal. Maent yn bwyta pryfed sy'n hedfan yn unig ac nid ydynt yn cnoi nac yn bwyta weiars, deunydd inswleiddio na phren.

Os yw cytref fawr o ystlumod yn clwydo mewn ardal fechan mewn to lle nad oes unrhyw awyriad, gall tail gronni ac achosi arogl drwg. Fel arfer nid yw ystlumod yn achosi unrhyw broblemau ac yn aml nid yw deiliaid tai yn ymwybodol o'u presenoldeb.

Beth gallwch ei wneud os nad ydych am gael ystlumod yn eich cartref?

Gallwn roi cyngor i ddeiliaid tai am yr hyn i'w wneud os ydynt yn cael unrhyw broblemau a achosir gan ystlumod. Mewn rhai achosion, mae angen gwahardd yr ystlumod o'ch cartref, ond nid yw'n bosib symud cytref o ystlumod na'u cludo ymaith. Mae modd gwahardd ystlumod drwy aros nes eu bod yn gadael a'u hatal rhag dychwelyd y flwyddyn ganlynol.

Mae'n rhaid i chi gysylltu â ni am gyngor cyn gwneud unrhyw gamau gweithredu i wahardd yr ystlumod. Gall methu â gwneud hyn olygu y byddwch yn cyflawni trosedd a bod yr ystlumod yn cael eu niweidio.

Ystlumod a chlefydau

Mae rhai ystlumod yn y DU yn trosglwyddo feirws sy'n debyg i'r gynddaredd. Yn anaml iawn y daw ystlumod i gyswllt â phobl ac felly nid oes unrhyw risg os nad ydych yn trin yr ystlumod. Nid yw'n cael ei drosglwyddo drwy wrin nac ysgarthion. Dylech wisgo menig os oes angen dal ystlum a'i symud. Os ydych yn cael eich cnoi neu eich crafu gan ystlum, dylech olchi'r clwyf gyda sebon a dŵr glân am o leiaf pum munud a cheisio cyngor meddygol ar unwaith.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf