Rhowch wybod am achosion posib o gwympo coed yn anghyfreithlon

Mae’n drosedd torri rhai coed i lawr heb drwydded.

Os oes unrhyw un yn bwriadu torri coed i lawr, mae’n rhaid sicrhau bod ganddynt y drwydded gywir ar gyfer cwympo coed cyn dechrau ar unrhyw waith.

Gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch.

Rhowch wybod am achosion posib o gwympo coed yn anghyfreithlon

neu ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (24 awr y dydd), i roi gwybod am achos posib o gwympo coed yn anghyfreithlon.

Croesewir galwadau yn Gymraeg neu Saesneg.

Calls welcomed in Welsh or English.

Beth sydd ei angen oddi wrthoch chi

Mae angen i chi ateb y cwestiynau canlynol:

  • ydych chi’n gwybod pryd dechreuodd y gwaith cwympo coed ac a yw’n dal i ddigwydd
  • os yw’r cwympo coed wedi dod i ben, allwch chi ddisgrifio beth oedd yn digwydd

Mae angen i ni hefyd wybod union leoliad y digwyddiad. Gallwch naill ai roi gwybod i ni am:

  • enw’r eiddo
  • enw’r safle
  • y cyfeirnod grid
  • y cod post

Cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth

Efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad.

Rydym yn deall bod rhai sefyllfaoedd yn sensitif. Efallai yr hoffech aros yn ddienw a rhoi gwybodaeth sylfaenol i ni yn unig.

Os byddech yn fodlon i ni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth, rhowch wybod i ni. Gallwn hefyd roi gwybod i chi am ganlyniadau ein hymchwiliadau.

Byddwn yn parchu pa bynnag benderfyniad a wnewch. Ein prif nod yw annog adrodd am ddigwyddiadau.

Cosbau am gwympo coed heb drwydded

Mae’n drosedd torri rhai coed i lawr heb drwydded. Mae hefyd yn drosedd gwerthu pren sydd wedi’i dorri i lawr yn anghyfreithlon.

Os cewch eich collfarnu am dorri coed yn anghyfreithlon, gallwn roi dirwy ddiderfyn.

Diweddarwyd ddiwethaf