Datganiadau trwyddedau gwastraff

Unigolyn perthnasol ddylai wneud y datganiad.

Rhaid i chi fod yn unigolyn perthnasol neu fod gennych awdurdod unigolyn perthnasol i lofnodi cais trwydded wastraff ar ei ran.

Unigolion

Rhaid i bob unigolyn (neu ymddiriedolwr unigol) sy’n gwneud cais i’w enw ymddangos ar y drwydded gwblhau’r datganiad.

Cwmnïau

Yn achos cwmnïau, mae pobl berthnasol yn golygu’r canlynol:

  • cyfarwyddwr
  • rheolwr
  • ysgrifennydd y cwmni

neu unrhyw swyddog neu gyflogai tebyg a restrir ar y penodiadau presennol yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Er mwyn symleiddio a chyflymu’r broses ymgeisio, rydym yn argymell bod y datganiad yn cael ei lenwi gan swyddog cwmni.

Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig

Yn achos partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, mae pobl berthnasol yn cynnwys unrhyw bartner.

Er mwyn symleiddio a chyflymu’r broses ymgeisio, rydym yn argymell bod y datganiad yn cael ei lenwi gan un o’r partneriaid mewn partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Sefydliadau o unigolion

Os yw deiliad y drwydded yn sefydliad o unigolion, mae’n rhaid i bob unigolyn (neu ymddiriedolwr unigol) gwblhau datganiad.

Bydd angen i chi uwchlwytho i’ch cais ddatganiadau ychwanegol sy’n cynnwys y ‘geiriad ar gyfer datganiadau ychwanegol’.

Deiliaid trwydded ar y cyd

Os ydych yn ddeiliaid trwydded ar y cyd, dylech lenwi eich datganiadau eich hunain ar wahân.

Bydd angen i chi uwchlwytho i’ch cais ddatganiadau ychwanegol sy’n cynnwys y ‘geiriad ar gyfer datganiadau ychwanegol’.

Llofnodi ar ran unigolyn perthnasol

Os yw rheolwr, gweithiwr neu ymgynghorydd er enghraifft yn llofnodi’r datganiad ar ran unigolyn perthnasol, bydd angen inni gael cadarnhad ysgrifenedig gan yr unigolyn perthnasol. Bydd yn cadarnhau fod gan yr unigolyn yr awdurdod i lenwi’r datganiad.

Bydd angen i chi uwchlwytho’r cadarnhad ysgrifenedig hwn i’r cais.

Ansolfedd

Lle mae’r gweithredwr yn destun unrhyw weithdrefn ansolfedd, mae’n rhaid i’r datganiad gael ei lenwi gan y derbynnydd swyddogol neu ymarferydd ansolfedd penodedig.

Trosglwyddo

Pan fyddwch yn gwneud cais i drwydded gael ei throsglwyddo i chi, bydd angen i chi roi datganiad wedi’i lofnodi i ni gan ddeiliad presennol y drwydded.

Bydd angen i chi uwchlwytho dogfen i’ch cais. Rhaid iddi:

  • gael ei llofnodi gan ddeiliad y drwydded
  • cynnwys y testun yn y ‘geiriad ar gyfer datganiadau ychwanegol’ ar y dudalen hon

Os na allwch ddod o hyd i ddeiliad presennol y drwydded

Bydd angen i chi uwchlwytho tystiolaeth i’ch cais yn dangos eich bod wedi ceisio dod o hyd i ddeiliad presennol y drwydded a chysylltu ag ef.

Geiriad ar gyfer datganiadau ychwanegol

Dylech gynnwys y geiriad canlynol mewn unrhyw ddatganiadau ychwanegol:

Rwy'n datgan bod yr wybodaeth yn y cais hwn yn wir hyd eithaf fy ngwybodaeth a'm cred. Deallaf y gallai'r cais hwn gael ei wrthod neu gallai cymeradwyaeth gael ei thynnu’n ôl os wyf yn rhoi gwybodaeth anwir neu anghyflawn. 

Deallaf, os byddaf yn gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol a hynny’n fwriadol neu’n ddi-hid: 

  • y gallaf gael fy erlyn; a 
  • os caf fy nyfarnu’n euog, efallai y bydd yn rhaid i mi dalu dirwy a/neu fynd i'r carchar. 

Trwy lofnodi, rydych yn cadarnhau eich bod yn deall ac yn cytuno â'r datganiad uchod. 

Teitl 

Enw cyntaf

Cyfenw

Dyddiad

Diweddarwyd ddiwethaf