Cofrestru neu adnewyddu fel cludydd, brocer neu ddeliwr gwastraff

Nid yw'r system talu ar-lein yn gweithio i rai cwsmeriaid.

Ffoniwch 0300 065 3000 os byddwch yn derbyn neges gwall talu.

Pwy sy'n gorfod cofrestru

Os ydych yn cludo gwastraff fel arfer ac yn rheolaidd fel rhan o'ch busnes eich hun, bydd angen i chi gofrestru fel cludwr gwastraff. Mae “fel arfer ac yn rheolaidd” yn golygu ei fod yn rhan o'ch busnes arferol, hyd yn oed os ydych yn ei wneud yn afrheolaidd. 

Os yw eich busnes yn trefnu i wastraff o sefydliadau eraill gael ei gludo, ei waredu neu ei adfer, mae angen i chi gofrestru fel brocer gwastraff.

Os yw eich busnes yn prynu a gwerthu gwastraff, neu'n defnyddio asiant i wneud hyn, mae angen i chi gofrestru fel deliwr gwastraff.

Mae cludo, delio mewn, neu frocera gwastraff heb fod wedi’ch cofrestru gyda ni yn drosedd sy’n peri uchafswm o £5,000 o ddirwy.

Canfyddwch a yw eich gweithgareddau chi’n golygu eich bod yn gludydd, brocer neu ddeliwr gwastraff, ac ym mha haen y mae’n rhaid ichi gofrestru.

Gwiriwch os nad oes angen i chi gofrestru

Nid oes angen i chi gofrestru os ydych:

  • yn ddeiliad tŷ sy'n cario gwastraff sydd wedi'i gynhyrchu gartref ac nid o ganlyniad i unrhyw weithgarwch busnes
  • yn dirfeddiannydd sy'n gwaredu gwastraff tipio anghyfreithlon o'ch tir
  • dim ond yn cario gwastraff rhwng gwahanol leoedd o fewn yr un safle
  • dim ond yn cario gwastraff drwy'r awyr neu dros fôr o le ym Mhrydain Fawr (Lloegr, yr Alban neu Gymru) i unrhyw le y tu allan i Brydain Fawr
  • dim ond yn cario gwastraff o wlad y tu allan i Brydain Fawr i'r man cyrraedd cyntaf
  • yn cario gwastraff ar gyfer gweithrediad morol sydd naill ai'n gofyn am drwydded forol neu'n gallu cael ei gyflawni o dan esemptiad morol

Gwnewch gais i'r rheoleiddiwr cywir

Os yw eich busnes yng Nghymru, rhaid i chi gofrestru gyda ni a dilyn y canllawiau hyn.

Os yw eich busnes yn Lloegr, cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd. Os yw eich busnes yn yr Alban, cysylltwch ag Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA).

Sut i gofrestru adnewyddiad


Adnewyddu eich trwydded

Os oes gennych drwydded ar hyn o bryd ar gyfer cofrestriad haen uchaf, bydd angen i chi ei hadnewyddu gyda ni bob 3 blynedd.

Byddwn yn cysylltu â chi drwy anfon llythyr atgoffa neu e-bost gyda dolen a chod unigryw fel y gallwch adnewyddu eich trwydded, 6 wythnos cyn y daw eich cofrestriad i ben. Nid oes angen i chi wneud cais am drwydded newydd na chreu cyfrif newydd.

Er mwyn adnewyddu bydd angen ichi wneud y canlynol:

  • dilyn y ddolen unigryw yn eich llythyr neu e-bost adnewyddu
  • defnyddio’r cod unigryw sydd hefyd yn y llythyr neu e-bost adnewyddu
  • dilyn y camau i adnewyddu eich trwydded ar-lein

Bydd eich cofrestriad newydd yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i’ch cofrestriad cyfredol ddod i ben.

Os na fyddwch wedi derbyn llythyr adnewyddu ac os yw eich trwydded ar fin dod i ben, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 065 3000.

Taliadau

Ni chodir tâl am gofrestriad haen is. Nid oes angen i chi adnewyddu cofrestriad haen is.

Mae cofrestriad haen uwch newydd yn costio £159. Bydd hwn yn dod i ben ar ôl tair blynedd. Mae'n costio £109 i adnewyddu cofrestriad haen uwch cyn y dyddiad dod i ben.

Mae pob cofrestriad wedi'i eithrio rhag TAW. Nid ydym yn anfon anfonebau na derbynebau TAW.

Datgan euogfarnau perthnasol

Os byddwch yn cofrestru ar yr haen uwch, rhaid i chi ddweud wrthym os ydych chi neu bartner, cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifenydd cwmni cyfredol neu debyg wedi cael eich euogfarnu o drosedd a restrwyd isod. Mae'r rhain yn euogfarnau a allai olygu na allwch gofrestru ar yr haen uwch.

Dylech hefyd roi gwybod i ni os yw partner, cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifenydd cwmni cyfredol neu debyg wedi cael ei euogfarnu o drosedd berthnasol ers i'r cofrestriad gael ei dderbyn.​

Mae'r euogfarnau perthnasol cyfredol yn cynnwys troseddau o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Adran 110(2) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995
  • Deddf Delwyr Metel Sgrap 1964
  • Adran 1, 8, 9, 10, 11, 17, 18, 22 neu 25 o Ddeddf Dwyn 1968, lle y mae’r drosedd yn ymwneud â metel sgrap neu’n drosedd sy’n ymwneud â’r amgylchedd
  • Adran 170 neu 170B o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979, lle y mae’r drosedd yn ymwneud â metel sgrap
  • Adran 9 o Ddeddf Diogelu Bwyd a’r Amgylchedd 1985
  • Adran 1, 5 neu 7 o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989
  • Adran 33, 34 neu 34B o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
  • Adran 85, 202 neu 206 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991
  • Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Draws Ffiniau 1994
  • Adran 110 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995
  • Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999
  • Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000
  • Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001
  • Rheoliad 17(1) o Reoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002
  • Adran 327, 328 neu 330 i 332 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002
  • Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005
  • Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
  • Adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, lle y mae’r drosedd yn ymwneud â metel sgrap neu’n drosedd sy’n ymwneud â’r amgylchedd
  • Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2006
  • Rheoliad 38 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007
  • Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007
  • Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Draws Ffiniau 2007
  • Rheoliad 38 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010
  • Rheoliad 42 o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011
  • Adran 146 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012
  • Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013
  • Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013

Ar ôl i chi gofrestru neu adnewyddu

Byddwch yn derbyn eich tystysgrif gofrestru drwy e-bost o fewn 15 diwrnod. Os na allwn dderbyn y cofrestriad am ryw reswm, fel euogfarnau perthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Eich cyfeirnod yw'r dystiolaeth o'ch cofrestriad a chadarnhad eich bod wedi cofrestru.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd eich busnes yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus o gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff.

Newid eich cofrestriad

Rhaid i chi roi gwybod i ni am newidiadau i'ch manylion cofrestru o fewn 28 diwrnod i'r newid.

Math o weithgaredd

Gallwch newid eich math o weithgaredd. Er enghraifft, os ydych wedi eich cofrestru fel cludydd a deliwr, gallwch newid i gludydd, brocer a deliwr. Gallwn wneud hyn yn rhad ac am ddim.

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000.

Endid cyfreithiol

Os bydd endid cyfreithiol eich busnes yn newid, bydd angen i chi wneud cais newydd ar gyfer cofrestru. Bydd endid cyfreithiol yn newid:

  • pan fyddwch chi, fel unig fasnachwr, yn newid i gwmni cyfyngedig
  • pan fydd eich partneriaeth yn dod yn gwmni cyfyngedig
  • pan fydd unigolyn newydd yn cymryd eich busnes drosodd
  • pan fydd cwmni'n cymryd y busnes drosodd a'i fod yn dod yn endid cyfreithiol newydd, gyda rhif cwmni newydd.

Haenau

Ni allwch newid cofrestriad haen is i gofrestriad haen uwch. Byddai angen i chi wneud cais am gofrestriad newydd a thalu’r ffi o £159.

Pwy mae eich cofrestriad yn ei gynnwys

Cofrestriad Pwy sydd wedi'i gynnwys yn y cofrestriad

Unigolyn neu unig fasnachwr

Yr unigolyn ac unrhyw un a gyflogir gan yr unigolyn hwnnw fel cyflogai sy'n gwneud gwaith i'r unigolyn

Cwmni

Unrhyw un a gyflogir gan y cwmni fel cyflogai sy'n gwneud gwaith i'r cwmni

Partneriaeth

Unrhyw bartner a nodwyd ac unrhyw un a gyflogir gan y bartneriaeth fel cyflogai sy'n gwneud gwaith i'r bartneriaeth

Elusen neu sefydliad gwirfoddol

Unrhyw un a gyflogir gan yr elusen neu'r sefydliad gwirfoddol sy'n gwneud gwaith i'r elusen neu'r sefydliad gwirfoddol

Yr awdurdod lleol

Unrhyw gyflogai o'r awdurdod lleol sy'n gwneud gwaith ar ran yr awdurdod lleol

Ysgrifennydd Gwladol adran

Unrhyw gyflogai o'r adran sy'n gwneud gwaith ar ran yr adran. Noder y byddai'r cofrestriad yn gymwys i bob rhan o'r adran.


Eich cyfrifoldebau

Unwaith yr ydych wedi cofrestru fel cludydd, brocer neu ddeliwr gwastraff, mae gennych gyfrifoldebau o ran cludo gwastraff.

Darllenwch fwy ynghylch eich dyletswydd gofal.

Darllenwch fwy ynghylch symud gwastraff peryglus.

Ad-daliadau

Dylech fod yn sicr bod angen i chi gofrestru fel cludwr gwastraff cyn gwneud cais. Ar gyfer cludwyr haen uchaf, ni fyddwn yn darparu ad-daliadau oni bai bod cwsmer o tu allan i Gymru wedi cofrestru'n anghywir gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, neu os yw cwsmer wedi cofrestru ddwywaith yn ddamweiniol.

I ofyn am ad-daliad, e-bostiwch ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan:

  • egluro'r rheswm am yr ad-daliad
  • rhowch eich cyfeirnod a
  • chadarnhau’r enw ar y cerdyn a ddefnyddiwyd i dalu am y cofrestriad

Nodwch y gall ad-daliadau gymryd hyd at 30 diwrnod gwaith.

Diweddarwyd ddiwethaf