Caniateir trin carthion domestig yn breifat mewn ardal lle y ceir carthffos dim ond os nad yw’n ymarferol cysylltu â’r garthffos gyhoeddus.

Yn gyffredinol, os yw ffin eiddo unigol o fewn 30 metr i garthffos gyhoeddus, ystyrir ei bod yn ymarferol cysylltu. Yn achos datblygiadau mwy, caiff nifer yr eiddo ei luosi â 30 i gyfrifo’r pellter pan fo’n dal yn ymarferol cysylltu.

Caiff carthion domestig eu diffinio’n garthion sy’n deillio o weithgareddau domestig arferol, gan gynnwys ysgolion, bwytai, gwestai, parciau gwyliau a chartrefi nyrsio.

Os yw cwmni dŵr yn gwrthod caniatáu ichi gysylltu â’r garthffos gyhoeddus

Mae gennych hawl i gysylltu â charthffos gyhoeddus. Os yw cwmni dŵr yn gwrthod mabwysiadu eich cyswllt, rhaid ichi gyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad i Ofwat cyn y gallwch wneud cais am drwydded ar gyfer system trin carthion breifat.

Nid yw diffyg capasiti yn y garthffos yn rheswm dilys i gwmni dŵr wrthod cyswllt.

Pan allai fod yn anymarferol cysylltu â charthffos gyhoeddus

Os ydych o fewn y pellter a ystyrir yn ymarferol ar gyfer cysylltu â charthffos gyhoeddus ond rydych yn dal i ystyried safle trin carthion preifat, rhaid ichi ddarparu tystiolaeth ynglŷn â pham nad yw’n ymarferol cysylltu â’r garthffos gyhoeddus.
Rhaid ichi ddweud wrthym:

  • os yw cost cysylltu â’r garthffos gyhoeddus yn fwy na chost gosod system drin breifat 
  • os oes unrhyw anawsterau ymarferol o ran cysylltu â’r garthffos gyhoeddus, er enghraifft os oes angen ichi groesi cwrs dŵr neu dir y mae rhywun arall yn berchen arno
  • os oes manteision amgylcheddol yn gysylltiedig â gosod system garthion breifat
  • os ydych yn darparu cynllun rheoli a chynnal a chadw a ariennir

Nid oes dim rhwymedigaeth ar y datblygwr i gyfrannu at gostau cysylltu a gaiff eu creu oddi ar y safle.

Gallwch ddarllen rhagor am rwymedigaethau cyfreithiol cwmni dŵr ar wefan Ofwat.

Diweddarwyd ddiwethaf