Gollyngiadau o gronfa ddŵr: gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu

Byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol pan fyddwch yn gwneud cais am ganiatâd i ollwng dŵr o gronfa ddŵr. 

Asesiad risg

Mae angen i’ch asesiad risg ystyried y canlynol:

  • y cynnydd yn y llif i lawr yr afon
  • gollwng gwaddod
  • gollwng gwaddod llygredig
  • gollwng dŵr o ansawdd gwael
  • rhyddhau pysgod

Mae’n rhaid i chi gynnal asesiad risg manylach os oes risg sylweddol i bobl neu’r amgylchedd. Dylai hyn gynnwys:

  • manylion y risgiau
  • mesurau lliniaru i osgoi neu leihau effaith yr holl risgiau a nodwyd.

Y cynnydd yn y llif i lawr yr afon

Mae’n rhaid i chi asesu a fydd y gollyngiad o’r gronfa ddŵr yn cael effaith ar y llif i lawr yr afon.

Gall cynnydd mawr yn llif y dŵr i lawr yr afon achosi effeithiau amgylcheddol difrifol a pheri risgiau o ran diogelwch, gan gynnwys llifogydd.

Gall cynnydd yn y llif i lawr yr afon:

  • ddifrodi eiddo, pontydd, cychod, a strwythurau ar y lan
  • effeithio ar ddefnydd o’r tir, er enghraifft rhwystro llwybrau mynediad
  • peryglu bywyd ac iechyd pobl ac anifeiliaid
  • newid ymddangosiad yr afon, er enghraifft erydu glan yr afon
  • niweidio ecoleg yr afon, er enghraifft golchi planhigion dyfrol i ffwrdd
  • dinistrio cynefinoedd pysgod a’u safleoedd bridio
  • dadleoli pysgod i lawr yr afon

Er mwyn lleihau’r effaith mae’n rhaid i chi reoli’r canlynol:

  • y gyfradd ollwng
  • cyfaint y dŵr a gaiff ei ollwng
  • y cynnydd yn nyfnder y sianel i lawr yr afon

Rhaid i bob gwaith arferol i ostwng lefel y dŵr mewn cronfa ddŵr atal neu leihau effeithiau i lawr yr afon a pheryglon llifogydd cyn belled ag y bo modd. 

Rhaid i’ch asesiad risg nodi unrhyw eiddo neu sefyllfaoedd y gallai eich gweithrediadau gollwng arferol effeithio arnynt. Er enghraifft:

  • tai
  • busnesau
  • carafannau
  • safleoedd gwersylla

defnyddwyr dŵr lleol fel:

  • pysgotwyr
  • pobl mewn cwch
  • pobl mewn canŵ

Dylech gadw cofrestr o gysylltiadau a rhoi rhybudd cyn gwneud gwaith i ostwng lefel y dŵr.

Gollwng gwaddod

Mae’n rhaid i chi ystyried a fydd y gollyngiad o’ch cronfa ddŵr yn effeithio ar waddodion i lawr yr afon. Gall dyddodion sylweddol o waddodion:

  • niweidio ecoleg yr afon
  • dinistrio cynefinoedd pysgod a’u safleoedd bridio
  • newid ymddangosiad yr afon

Ystyriwch yr angen am arolwg i ddarganfod faint o waddod sydd wedi cronni a allai gael ei olchi drwy’r falf sgwrio. Dylech gynnwys manylion am lefelau’r gwaddod mewn perthynas ag uchder y falf sgwrio a samplau gwaddod, fel rhan o’ch cais am ganiatâd.

Mae eich gollyngiad yn fwy o risg os:

  • nad ydych wedi agor y falf sgwrio ers dros flwyddyn
  • bu digwyddiad a allai fod wedi creu llawer iawn o waddodion, er enghraifft llifogydd i fyny’r afon o’r gronfa ddŵr

Os yw’n bosib y bydd llawer iawn o waddod yn golchi drwy’r falf sgwrio, rhaid i chi ddatblygu cynllun i atal gollyngiad niweidiol.

Er mwyn lleihau’r effaith, ystyriwch y mesurau lliniaru canlynol:

  • gwnewch y gollyngiad i gyd-fynd â llifoedd naturiol uwch yn yr afon a chynnydd yn y gwaddod sy’n cael ei gludo’n naturiol
  • agorwch y falf sgwrio yn raddol
  • gwnewch ollyngiadau bach yn aml
  • gosodwch drapiau gwaddod i gael gwared ar waddodion wedi’u rhwystro, gan eu cynnal a’u cadw.

Gollwng gwaddod llygredig

Mae’n rhaid i chi ystyried a allai llygryddion fod yn bresennol mewn symiau sylweddol yng ngwaddod eich cronfa ddŵr.

Gallai cronfeydd dŵr mewn ardaloedd diwydiannol fod â gwastraff diwydiannol gwenwynig yn y gwaddod.

Os yw gwaddod y gronfa ddŵr yn cynnwys llygryddion, gallai’r rhain gael eu cludo i lawr yr afon a gallent:

  • achosi dirywiad yn ansawdd yr afon, i’r rhai sy’n defnyddio’r dŵr ac yn tynnu’r dŵr
  • niweidio ecoleg yr afon, yn y tymor byr neu’r tymor hir

Os yw’n bosib y gallai’r gwaddod gynnwys llygryddion, rhaid i chi brofi’r gwaddod yn gemegol.

Er mwyn lleihau’r effaith, ystyriwch garthu’r gwaddod llygredig o’r gronfa ddŵr. Rhaid i chi ddilyn y gofynion ar gyfer gwaredu gwastraff rheoledig neu beryglus a chael gwared ar y gwaddod wedi’i garthu yn gyfreithlon.

Gollwng dŵr o ansawdd gwael

Mae’n rhaid i chi wirio a oes haenu thermol yn eich cronfa ddŵr. Ystyr haenu thermol ydy pan fo newidiadau yn y tymheredd ac ocsigen tawdd ar wahanol ddyfnderoedd yn y gronfa ddŵr.

Gall gollwng dŵr wedi’i haenu ostwng lefelau’r ocsigen tawdd a chynyddu lefelau haearn a manganîs. Gall hyn:

  • achosi dirywiad yn ansawdd yr afon, i’r rhai sy’n defnyddio’r dŵr ac yn tynnu’r dŵr
  • niweidio cynefinoedd pysgod a’u safleoedd bridio
  • lladd pysgod ac anifeiliaid dyfrol eraill.

Yn achos cronfeydd dŵr wedi’u haenu, rhaid i’ch asesiad risg gynnwys proffilio ar gyfer:

  • ocsigen tawdd
  • tymheredd

Rydym yn annhebygol o ganiatáu gollyngiad os yw’r gwaith proffilio yn dangos bod dirlawnder yr ocsigen tawdd yn is na 50% ym mhroffil isaf y gronfa ddŵr.

Os yw’ch gwaith proffilio yn dangos llai nag 80% o ocsigen tawdd, dylech fonitro’r cwrs dŵr i lawr yr afon pan gaiff y dŵr ei ollwng. Dylai eich asesiad risg bennu terfyn sbardun i lawr yr afon ar gyfer ocsigen tawdd. Os bydd lefelau’r ocsigen tawdd yn gostwng o dan y terfyn hwn, stopiwch y gollyngiad a rhoi gwybod i ni.

Gall gordyfiant algâu mewn cronfeydd dŵr achosi gollyngiadau ansawdd dŵr gwael. Ni ddylech wneud gollyngiadau wedi’u cynllunio os oes gordyfiant sylweddol o algâu, oni bai eich bod wedi dangos nad yw’r gordyfiant yn effeithio ar ansawdd y dŵr a ollyngir.

Rhyddhau pysgod

Gall gollyngiadau dŵr ddisodli pysgod o’r gronfa ddŵr i lawr yr afon.

Mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith ar bysgod os ydych chi’n bwriadu gostwng lefel y dŵr mewn cronfa yn sylweddol. Mae hyn yn cynnwys gostwng lefel y dŵr i lefel barhaol is a hefyd i lefel is dros dro er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw cyn i chi ail-lenwi.

Dylech gysylltu â ni a gofyn i gael siarad â’ch tîm amgylchedd lleol. Efallai y bydd angen i chi achub y pysgod fel y gallwch eu hadleoli mewn man arall neu ailstocio’r gronfa ddŵr ar ôl i chi ei hail-lenwi.

Systemau rheoli

Rhaid i’ch system reoli ddangos sut y byddwch chi’n gwneud y gollyngiad gyda’r lefel isaf bosib o lygredd, ynghyd â pha gamau y byddwch yn eu cymryd os bydd eich gweithgaredd yn arwain at ddigwyddiad llygredd.

Bydd angen i chi egluro mesurau ychwanegol i atal llygredd os yw’r gweithgaredd mewn lleoliad sensitif neu’n agos leoliad sensitif.

Byddwn ond yn rhoi caniatâd i chi os ydych wedi lliniaru’r risgiau cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf