Trwyddedau ar gyfer gollyngiadau o rwydweithiau carthffosiaeth cwmnïau dŵr

Sut i wneud cais am drwydded newydd i ollwng elifion carthion wedi’u trin o waith trin dŵr gwastraff cwmni dŵr

Sut i newid trwydded bresennol ar gyfer gollyngiadau elifion carthion wedi’u trin o waith trin dŵr gwastraff cwmni dŵr

Darganfyddwch sut i drosglwyddo eich trwydded bresennol i rywun arall

Darganfyddwch sut i ildio eich trwydded

Os oes angen cyngor arnoch cyn i chi wneud cais am drwydded, defnyddiwch ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio

Ffioedd a Thaliadau

Gweithgarwch arfaethedig

Ffi

Cais newydd am drwydded

£5,741

Amrywiad – Sylweddol

£4,592

Amrywiad – arferol

£2,870

Amrywiad – mân

£862

Amrywiad – gweinyddu

£363

Trosglwyddo’r drwydded

£363

Ildio’r drwydded

£363

Os na allwn wneud y cais yn briodol, byddwn yn cadw

£585

Os byddwch yn tynnu eich cais yn ôl ar ôl iddo gael ei wneud, byddwn yn cadw

£5,741

Ffi Asesiadau Cynefinoedd

Os yw eich gollyngiadau’n agos at safle cynefin Ewropeaidd cydnabyddedig, bydd angen i ni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) wrth asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £2,870

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y gallai fod angen yr asesiadau hyn, gweler ein tudalen we ‘Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer eich Trwydded Amgylcheddol’.

Ffi Asesiadau Risg Amgylcheddol

Os yw eich gollyngiadau i ddŵr wyneb yn cynnwys cemegau ac elfennau peryglus efallai y bydd angen i ni gwblhau Asesiad Risg Amgylcheddol wrth asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £2,870

I gael rhagor o wybodaeth am y cemegau a’r elfennau peryglus hyn a phryd y gallai fod angen yr asesiadau hyn, ewch i’n tudalen gwe, ‘Asesiadau Risg Amgylcheddol ar gyfer gollyngiadau dŵr’.

Ffi flynyddol

Bydd tâl blynyddol parhaus i dalu ein costau cynnal ac adolygu eich trwydded, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded a monitro’r corff dŵr rydych yn gollwng iddo.

Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl am drwyddedau amgylcheddol.

Diweddarwyd ddiwethaf