Pwyllgorau’r Bwrdd
Mae gan Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru y pwyllgorau canlynol:
Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARAC)
Un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd. Ei brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a chefnogi’r Swyddog Cyfrifyddu ar faterion risg, stiwardiaeth ariannol ac atebolrwydd, rheoli a llywodraethu.
Kath Palmer yw Cadeirydd Dros y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARAC)
Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid
Mae’r Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid yn un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd. Mae’n ystyried materion yn ymwneud â chyflog ac amodau gwaith ein haen uchaf o staff ynghyd â strategaeth gyflog gyffredinol yr holl staff a gyflogir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mark McKenna yw Cadeirydd Dros y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid
Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig (PrAC)
Mae’r Prif Fwrdd wedi dirprwyo ei gyfrifoldebau statudol mewn perthynas â gwrthwynebiadau i hysbysu ac ail-hysbysu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig i’r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig. Bydd y Pwyllgor yn cefnogi’r Bwrdd Gweithredol a’r Bwrdd llawn drwy ddarparu cyngor ar faterion ehangach yn ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig a gwaith achos strategol; bydd hefyd yn ganolbwynt i drafodaethau’r Bwrdd ar faterion yn ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig yn cynnwys eu swyddogaeth ym maes prif ffrydio dull rheoli ar lefel yr ecosystem.
Adam Taylor yw Cadeirydd Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig (PrAC)
Y Pwyllgor Cyllid (FC)
Pwyllgor sefydlog y Bwrdd yw FC. Ei brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a chynorthwyo’r Swyddog Cyfrifo wrth adrodd ar reoli arian, cynllunio busnes ac adrodd ar berfformiad, cynllun taliadau a materion masnachol.
Helen Pittaway yw Cadeirydd Dros y Pwyllgor Cyllid (FC)
Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth (EAC)
Mae'r Grŵp Cynghori hwn, er nad yw'n un o bwyllgorau sefydlog y prif fwrdd, yn gyfrifol am ddarparu cyngor, sialens ac adolygiad annibynnol ar gyfer gweithgareddau tystiolaeth CNC. Mae'r Pwyllgor yn rhoi cyngor i'r Bwrdd ac i CNC yn ehangach ar gaffael, ansawdd, dehongli a defnyddio tystiolaeth, yn arbennig mewn meysydd dadleuol neu gymhleth.
Rhys Jones yw Cadeirydd Cynghori ar Dystiolaeth (EAC)
Pwyllgor Cyflawni Strategol (SDC)
Mae'r Pwyllgor Cyflawni Strategol yn cefnogi'r Bwrdd drwy ddarparu craffu â ffocws, wedi'i arwain gan ganlyniadau, ar gyflawni yn erbyn Amcanion Llesiant CNC. Rôl y Pwyllgor yw herio’r Bwrdd, a rhoi sicrwydd strategol iddo, ynghylch a yw'r Tîm Gweithredol yn cyflawni'r blaenoriaethau cywir, ac yn creu'r amodau sy'n angenrheidiol i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol, o fewn parodrwydd cymeradwy'r Bwrdd i dderbyn risg.
Dr Pete Fox a'r Athro Calvin Jones yw Cadeiryddion ar y cyd y Pwyllgor Cyflawni Strategol