Dychwelyd i dir Cymru

Gyda phedair blynedd wedi mynd heibio ers i ni ddewis moch coed yn ofalus o boblogaeth ffynidwydd Douglas Abercarn i’w plannu a’u meithrin mewn meithrinfa yn Lloegr, mae 120,000 o goed ifanc bellach wedi dychwelyd adref i’w plannu mewn pridd Cymreig.

Bydd y coed yn cael eu plannu gyferbyn â’u rhiant-goed yn y dyffryn, yn un o sawl rhywogaeth arall a ddefnyddir yng Nghymru i adfer ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan glefyd y  llarwydd. 

Yn ôl Jonathan Singleton, Arolygwr Coetiroedd, y mae hi’n bwysicach yn awr nag erioed i gynhyrchu ystod eang o goed ifanc o hadau lleol, o’r safon uchaf, er mwyn sicrhau cynaladwyedd ein coedwigoedd yn y dyfodol.

“Mae clefyd y llarwydd wedi cael effaith ddifrifol ar ein coedwigoedd yng Nghymru, gan effeithio ar oddeutu 6.7 miliwn o goed hyd a lled y wlad. Mae’n trawsnewid gwedd ein coetiroedd, yn ogystal â’n dulliau ni o’u rheoli.

Profion casglu hadau

“Cychwynnwyd prawf yn nhymor yr Hydref 2014 i gasglu hadau sawl rhywogaeth wahanol o goetiroedd de ddwyrain Cymru, gan gynnwys ffynidwydd Douglas, sbriws Norwy,  cedrwydd coch, cochwydd California, sbriws Omorika, a phinwydd Macedonia.

“Dyma’r poblogaethau a ddewiswyd fel ein cnydau gorau, cryfaf, ac iachaf, ac o ganlyniad yn addas ar gyfer casglu eu had. Cafodd y cnydau eu monitro’n ofalus er mwyn adnabod y cyfnod gorau i gasglu - blynyddoedd ‘mast’, ble cynhyrchir toreth o hadau gan y coed. Casglwyd yr hadau gyda llaw, a bu’n rhaid dibynnu ar brydiau ar ddringwyr proffesiynol i esgyn dros 40m i frig y coed!

“Mae’n wych gweld y coed ifanc yn dychwelyd i’w cynefin. Mae ein planwyr yn dweud wrthym eu bod ymysg y ffynidwydd Douglas gorau iddynt eu plannu erioed.

“Trwy blannu coed o had lleol gellir sicrhau eu bod eisoes wedi addasu ar gyfer amodau’r safle- ffactorau megis pridd, tirwedd, a hinsawdd. O ganlyniad, maent yn fwy tebygol o oroesi. Pe defnyddiwyd coed o rannau eraill o’r DU ni fyddent wedi gallu ymgartrefu cystal, na chynhyrchu coed o’r safon yr ydym ni am eu cael yma.

Gwedd newidiol ein coedwigoedd

“Mae’r dyffryn nesaf- Cwmcarn- wedi cael ei effeithio’n arw gan glefyd y llarwydd, a thros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gorfod cael gwared ar oddeutu 160,000 o goed. Mae’n waith anodd mewn ardal sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson ar gyfer gweithgareddau hamdden gan niferoedd enfawr o bobl- bu’n dipyn o her i’r tîm reoli’r gwaith coedwigaeth yn ogystal â chynnal nifer o lwybrau cerdded a beicio. 

“Cwblhawyd y gwaith torri yn rhanbarth deheuol y goedwig y llynedd, ac mae’r ail ran o’r gwaith o dorri coed yn y rhanbarth gogleddol eisoes wedi’i ddechrau. Rydym wedi dechrau ailblannu’n barod, gan ddefnyddio cymysgedd o goed llydanddail cynhenid a chonwydd.

 “Mae’n anorfod y bydd coedwigoedd megis Cwmcarn, ac eraill hyd a lled Cymru, yn edrych yn wahanol iawn yn y dyfodol. Ond trwy blannu ystod o rywogaethau o had lleol safonol, gallwn gryfhau ein coetiroedd yn wyneb clefydau a newid hinsawdd yn y dyfodol- gan sicrhau eu bod yn parhau i gynnig mwynhad a budd i bobl am flynyddoedd i ddod.”

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru