Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot

Beth sydd yma

Mae pob llwybr ym Mharc Sgiliau Afan yng Ngyfylchi ar gau.

 

Mae dargyfeiriadau ar y llwybrau beicio mynydd canlynol:

 

  • Llafn
  • Awyrlin
  • Lefel White
  • Llwybr Cyswllt W2

Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer oherwydd difrod yn sgil stormydd diweddar. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.

Croeso

Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan yw'r prif fan cychwyn ar gyfer llwybrau cerdded a beicio mynydd ym Mharc Coedwig Afan.

Mae llwybrau beicio mynydd yn amrywio o lwybrau hawdd ar gyfer teuluoedd a dechreuwyr i lwybrau ar gyfer beicwyr profiadol, ac mae parc sgiliau ar gyfer beicwyr llai profiadol.

Mae'r llwybrau cerdded yn amrywio o lwybr gwastad byr ar hyd hen ffordd i daith gerdded egnïol o hyd ar hyd crib gyda golygfeydd panoramig.

Rheolir y maes parcio a'r ganolfan ymwelwyr gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Taith Hen Ffordd y Llan

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1.2 milltir/2 gilometr
  • Dringo: 217 troedfedd/66 metr
  • Amser: 45 munud

Mae Taith Hen Ffordd y Llan yn dilyn rhan o'r llwybr hynafol a oedd yn brif gyfrwng trafnidiaeth yn y cwm nes iddo fynd yn segur ym 1920.

Mae'r daith gerdded yn dychwelyd i'r ganolfan ymwelwyr ar yr hen reilffordd.

Llwybr Afon a Rheilffordd

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2.7 milltir/4.4 cilometr
  • Dringo: 541 troedfedd/165 metr
  • Amser: 1½ awr

Mae Llwybr Afon a Rheilffordd yn disgyn i'r cwm ac yn croesi Afon Afan cyn dringo'n serth i'r hen reilffordd.

Mae'n mynd heibio i fynedfa twnnel rheilffordd wedi'i selio, a gynlluniwyd ac a adeiladwyd gan Brunel.

Llwybr Crib Gyfylchi

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 5.9 milltir/11.2 cilometr
  • Dringo: 1434 troedfedd/437metr
  • Amser: 3½ awr

Mae Llwybr Crib Gyfylchi yn croesi Afon Afan ac yn dringo drwy goetiroedd i ben y bryn.

Ceir golygfeydd panoramig o'r dyffryn.

Yna mae'r llwybr yn mynd heibio dwy set o adfeilion – Fferm Nant-y-bar a Chapel Gyfylchi o'r ddeunawfed ganrif, a arferai fod yn gysegrfan i Fethodistiaeth Gymreig – cyn disgyn i'r maes parcio.

Llwybrau beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Beiciwr Newydd a Pharc Sgiliau

  • Gradd: Gwyrdd (Hawdd)
  • Pellwch: 6 cilometr (gyda dolen ychwanegol ddewisol 2.4 cilometr o hyd wedi'i graddio'n las)
  • Dringo: 145 metr
  • Amser: 1.5 – 2 awr

Mae'r llwybr hwn sydd wedi'i raddio'n wyrdd yn llwybr cyffrous a throellog.

Mae'n llwybr perffaith fel man cychwyn i newydd-ddyfodiaid, gyda llwybr llydan a disgynfeydd gweddol eang.

Mae Parc Sgiliau ar y llwybr sy'n cynnig cyfle i feicwyr ddatblygu eu galluoedd beicio technegol hefyd.

Mae'r ddolen ddewisol 2.4 cilometr o hyd sydd wedi'i graddio'n las yn rhoi blas i'r rhai sy'n dymuno symud ymlaen i’r her nesaf; mae'n disgyn i lawr at Afon Afan ac yn datgelu rhai mannau cudd.

Gellir dod o hyd i ardaloedd picnic ar hyd y llwybr.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai fod cyn i chi ymweld.

Llwybr Seiclo'r Rheilffordd

  • Gradd: Gwyrdd (Hawdd)
  • Pellter: 14.7 cilometr
  • Dringo: 266 metres
  • Amser: 1½ - 2 awr

Mae’r llwybr rhwydd hwn yn dilyn llwybr llydan a gwastad yr hen reilffordd a oedd unwaith yn cludo teithwyr a glo ar hyd y cwm.

Mae dros 14 milltir o hen reilffordd segur a ffordd goedwig yn cysylltu cymunedau Pont-rhyd-y-fen a Glyncorrwg – ffordd wych o ddod i adnabod Cwm Afan.

Sylwch - mae'r llwybr hwn yn cynnwys mynediad ar hyd ffordd gyhoeddus heb unrhyw balmant neu lwybr seiclo ar wahân ar gael.

Y Graith Las

  • Gradd: Glas (Cymedrol)
  • Pellter: 7.1 cilometr
  • Dringo: 313 metr
  • Amser: 1-1½ awr

Llwybr â gradd gymedrol yw Y Graith Las, a luniwyd fel ‘dilyniant’ ar gyfer beicwyr sy’n hyderus iawn ar lwybrau gradd gwyrdd ac sydd am ddechrau rhoi cynnig ar lwybrau mwy anghysbell a heriol.

Cadwch lygad am ambell i ddarn mwy serth a allai’ch herio, ond a fydd yn eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau a magu’ch hyder.

At ei gilydd, mae’n llwybr rhagorol i hogi eich sgiliau beicio a’ch cyflwyno i rwydwaith llwybrau beicio mynydd go iawn Afan.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallent fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Pen-hydd

  • Gradd: Coch (Anodd)
  • Pellter: 14.4 cilometr
  • Dringo: 525 metr
  • Amser: 1½-3 awr

Mae'r llwybr clasurol hwn yn Ne Cymru wedi'i gynllunio i fod yn ddilyniant i'r llwybrau mwy heriol ym Mharc Coedwig Afan.

Mae'n dringo allan o faes parcio'r ganolfan ymwelwyr at lwybr trawiadol sy’n cymysgu'r hen â'r newydd.

Mwynhewch y cyfuniad o ddringfeydd ar ffyrdd coedwig gyda golygfeydd gwych, a disgynfeydd trac sengl cyflym, ynghyd â rhai rhannau mwy serth i’ch cadw’n effro.

Gall y llwybr hwn fod yn heriol i feicwyr llai profiadol ac mae'n agored i dywydd gwael ar y tir uwch.

Y Wal

  • Gradd: Coch (Anodd)
  • Pellter: 18.7 cilometr
  • Amser: 1½-3 awr
  • Esgyniad: 746 metr
  • Man cychwyn amgen: Maes parcio Rhyslyn

Gyda rhai o'r disgynfeydd trac sengl gorau yn y DU, mae'r llwybr hwn yn croesi ochr ogleddol Cwm Afan.

Mae'n amrywio o fod yn gyflym ac agored i fod yn dynn, technegol a gwreiddiog.

Mae golygfeydd gwych o'r dyffryn a'r arfordir yn ymddangos ar wahanol adegau, ac mewn mannau gall y llethrau serth deimlo'n agored.

Am daith hirach, cyfunwch hwn â Llwybr White’s Level drwy un o’r cysylltiadau W2.

Parc Coedwig Afan

Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ym Mharc Coedwig Afan.

Mae Parc Coedwig Afan yn un o gyrchfannau beicio mynydd eiconig Prydain ac yn lle poblogaidd ar gyfer cerdded.

Mae'r parc coedwig wedi'i leoli yng Nghwm Afan ychydig filltiroedd o'r M4, lle arferai glo gael ei gloddio.

Gallwch ddarganfod rhai o nodweddion treftadaeth y dyffryn ar hyd ein llwybrau yn y parc coedwig.

Llwybrau eraill ym Mharc Coedwig Afan

Archwiliwch Barc Coedwig Afan o'r meysydd parcio yn y tri lle arall hyn:

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae llwybrau beicio mynydd Beiciwr Newydd a'r Graith Las yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilmiau i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallent fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilmiau ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Oriau agor

Mae'r maes parcio yn cael ei rheoli gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

I gael rhagor o wybodaeth ac oriau agor ewch i wefan Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.

Newidiadau i lwybrau

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau'r llwybrau neu unrhyw newidiadau eraill iddynt yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Gadewch yr M4 yng nghyffordd 40 (Port Talbot) a dilynwch yr arwyddion i’r A4107 i gyfeiriad y Cymer.

O'r gylchfan, dilynwch yr arwyddion brown a gwyn ar gyfer Parc Coedwig Afan.

Bydd maes parcio'r ganolfan ymwelwyr ar y dde, tua 6 milltir o gyffordd y draffordd.

 

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SS 820 950 (Explorer Map 165 neu 166).

Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan 5½ milltir i'r gogledd-ddwyrain o Bort Talbot.

Y cod post yw SA13 3HG. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.

Mae Llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans 887 yn mynd i Barc Coedwig Afan. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Sustrans.

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Port Talbot.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae'r maes parcio yn cael ei rheoli gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

I gael rhagor o wybodaeth ac amseroedd agor ewch i wefan Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.

Manylion cyswllt

Mae'r maes parcio, y toiledau a rhai cyfleusterau i ymwelwyr yma yn cael eu rheoli gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. I gael rhagor o wybodaeth ac amseroedd agor ewch i wefan Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.

Nid oes staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad hwn. Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Canllaw Llwybr Rookie PDF [1.1 MB]
Canllaw Llwybr Penhydd PDF [2.3 MB]
Canllaw Llwybr y Wal PDF [5.7 MB]

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf