Coedwig Mynwar, ger Hwlffordd

Beth sydd yma

Croeso

Mae Coedwig Mynwar wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae’n hawdd dod o hyd iddi oddi ar yr A40.

Mae Mynwar ger pen uchaf adran llanw Dwyrain Afon Cleddau - mae ein taith goetir yn arwain at yr olygfan dros Aber Cleddau.

Yn y gwanwyn, mae ymylon llwybrau’r goedwig yn wledd o flodau melyn llachar, llygad Ebrill a gwyn prydferth blodau’r gwynt ac mae clystyrau o glychau’r gog o dan y coed.

Ym misoedd yr Hydref, mae lliwiau llathredig y coed derw coch a’r ffawydd yn y coetiroedd yn olygfa ysblennydd.

mae’r cylch llanw ‘n arwain at amrywiadau mawr mewn halwynedd dŵr ac mae yna adar glan dŵr fel crëyr glas. Hefyd mae’n le gwych i weld adar y coetir gan gynnwys y titwod cynffon-hir, cnocellau brith fwyaf a’r dringwyr bach.

Mae Mynwar ynghyd â Choedwig Canaston, sydd gerllaw, wedi bod yn goedwig drwchus ers canrifoedd - fe ddenodd yr argaeledd parod hwn o bren ddiwydiannau lleol i ymsefydlu yn yr ardal.

Roedd y diwydiannau hyn wedi dirywio erbyn y 19eg ganrif ac yn ystod yr 20fed ganrif, fe blannwyd coed conwydd yn y mannau hynny arferai fod yn goetir collddail.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Mynwar

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1½ milltir/2.6 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r daith yn cychwyn ar hyd llwybr cerrig llydan drwy’r goedwig sy’n dringo’n raddol. Daw’n gulach mewn mannau a gall fod yn fwdlyd. Ceir rhywfaint o risiau a dwy ardal bicnic ar y llwybr.

Mae’r daith gerdded gylchol gydag arwyddion yn cychwyn o’r maes parcio ac yn arwain at yr olygfan sydd â mainc dros Aber Cleddau.

Yn yr ardal bicnic gyntaf ceir meinciau pren wedi’u cerfio o foncyffion ac yn yr ail ceir byrddau picnic arferol ger ffordd dawel.

Llwybr Landsger

Mae Llwybr Landsger yn mynd drwy Goedwig Mynwar.

Mae hwn yn llwybr pellter hir 60 milltir /96 cilomedr ac yn mynd drwy ardal wledig ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Mae’r llwybr ar fapiau’r Arolwg Ordnans ac mae wedi’i arwyddo mewn mannau.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cymdeithas Cerddwyr Pellter Hir (Long Distance Walkers Association).

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Saif Coedwig Mynwar ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Arfordir Penfro yw’r unig barc cenedlaethol hollol arfordirol ym Mhrydain, ac mae’n cynnwys 240 milltir sgwâr o dir godidog ar lannau de-orllewin Cymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld â’r Parc Cenedlaethol, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coedwig Mynwar 8 milltir i’r dwyrain o Hwlffordd.

Mae yn Sir Benfro.

Map Arolwg Ordnans

Mae Coedwig Mynwar ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 36.

Cyfeirnod grid yr AO yw SN 059 142.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch ffordd A40 i’r dwyrain o Hwlffordd i gyfeiriad Sanclêr.

Ar ôl 7 milltir, trowch i’r dde ar gylchfan Pont Canaston, a dilyn ffordd A4075 i gyfeiriad Dinbych-y-pysgod.

Cymerwch y tro cyntaf ar y dde, gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown a gwyn i gyfeiriad Melin Blackpool.

Dilynwch y ffordd hon heibio’r felin ac mae’r maes parcio ar y dde.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Hwlffordd.

I gael manylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf