Ein cynlluniau rheoli perygl llifogydd

Yn unol â Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009, cynhyrchodd Cyfoeth Naturiol Cymru gynlluniau rheoli perygl llifogydd (FRMP) ar raddfa’r ardal afon erbyn 22 Rhagfyr 2015. Gwnaethom gynhyrchu tri FRMP ar gyfer Cymru: Afon Hafren; Afon Dyfrdwy a Gorllewin Cymru. Cafodd FRMP Afon Hafren ac Afon Dyfrdwy eu cynhyrchu ar y cyd ag Asiantaeth Amgylchedd yn Lloegr. Yng Nghymru, mae’r FRMP yn cynnwys perygl llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr.

Mae’r FRMP yn nodi casgliadau’r hyn sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd ochr yn ochr â’r amcanion a’r mesurau ydym yn eu cynnig er mwyn rheoli’r perygl gan lifogydd i bobl, yr amgylchedd a gweithgareddau economaidd ledled Cymru. Mae’r cynlluniau yn cwmpasu cyfnod o 6 blynedd, o fis Rhagfyr 2015 i fis Rhagfyr 2021.

Ein cynllun rheoli perygl llifogydd wedi’i ddiweddaru

Mae ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi'i ddiweddaru yn amlinellu blaenoriaethau a gweithredoedd CNC wrth reoli'r perygl o lifogydd yng Nghymru yn ystod y chwe blynedd nesaf. Mae'r Cynllun wedi'i ddiweddaru ar gael i'w weld ac i ymateb iddo drwy ymgynghoriad ar-lein sydd ar agor tan 24 Mai 2023.  Ewch i Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru i ddarllen y cynlluniau ac ymateb i'r ymgynghoriad. 

Mapiau perygl llifogydd cenedlaethol

Mae’r mapiau perygl llifogydd cenedlaethol yn dangos maint, dyfnder, cyflymder a pherygl llifogydd. Nid oes ganddo unrhyw statws swyddogol at ddibenion cynllunio.

Defnyddir y mapiau perygl llifogydd cenedlaethol fel sail i greu cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ledled Cymru ac maent yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Perygl Llifogydd (2009) a Chyfarwyddeb yr UE (2007/60/EC).

Dysgwch fwy am y mapiau perygl llifogydd cenedlaethol (Saesneg yn unig)

Data GIS

Os oes angen i chi lawrlwytho data GIS, gellir lawrlwytho nifer o haenau’r map o MapDataCymru.

Ffyrdd eraill o ddysgu am berygl llifogydd tymor hir

  • Ffoniwch Floodline: 0345 988 1188
  • Sgwrsio drwy deipio: 0345 602 6340 (ar gyfer pobl sy’n drwm eu clyw)

Dysgwch fwy am gostau galwadau (Saesneg yn unig)

Cydnabyddiaeth

Mae'n cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Natural Resources Wales a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae cyfran o’r wybodaeth wedi’i seilio ar ddata gofodol digidol sydd wedi’u trwyddedu gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg © NERC (CEH). Mapio Daearegol: Arolwg Daeareg Prydain © NERC. DEFRA a’r Swyddfa Dywydd © hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Cynnwys data OS data © Hawlfraint y Goron a hawl sylfaen-data 2017. Gwasanaethau Tir ac Eiddo Land © Hawlfraint y Goron a hawl sylfaen-data.

Diweddarwyd ddiwethaf